Part of the debate – Senedd Cymru am 5:08 pm ar 2 Chwefror 2022.
Diolch i’r Aelod, Sam Rowlands. Fe sonioch chi, Sam, am y gwasanaeth cyhoeddus a’ch profiad o weld y Frenhines yn yr ysgol. Gwelais innau'r Frenhines yn agor canolfan rhagoriaeth peirianneg Coleg Glannau Dyfrdwy yn 2003 ac euthum ymlaen i astudio prentisiaeth yno. Felly, ar ran gogledd Cymru a fy nhrigolion yn Alun a Glannau Dyfrdwy, a wnewch chi ymuno â mi i longyfarch y Frenhines ym mhob dim y mae’n ei wneud, a thynnu sylw, yn sicr, at yr esiampl y mae’n ei rhoi i bob un o’n gweision cyhoeddus ledled y Deyrnas Unedig a’r byd?