– Senedd Cymru am 4:44 pm ar 2 Chwefror 2022.
Y ddadl nesaf felly yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar 70 mlynedd ers esgyn i'r orsedd, a dwi'n galw ar Darren Millar i wneud y cynnig.
Diolch, Lywydd. Rwy’n falch iawn o gyflwyno'r cynnig ar y papur trefn y prynhawn yma i argymell y dylai’r Senedd ymestyn ei llongyfarchiadau cynhesaf i’w Mawrhydi y Frenhines wrth nodi deng mlynedd a thrigain ers ei hesgyniad i’r orsedd, achlysur y byddwn yn ei ddathlu, wrth gwrs, y penwythnos yma. Mae'n frenhines sydd wedi torri record; ei theyrnasiad hi yw'r hwyaf yn hanes Prydain. Mae'n gwbl briodol y dylai pob un o'i Seneddau gydnabod y ffaith hon a sicrhau bod camau'n cael eu cymryd i gofnodi eu diolch a'u llongyfarchiadau yn eu papurau trefn.
Mae’n werth nodi, fodd bynnag, fod Llywodraeth Cymru wedi dewis peidio â chyflwyno datganiad na dadl ar y garreg filltir bwysig hon yn nheyrnasiad Ei Mawrhydi. Gwnaethant hynny ar y trigeinmlwyddiant, ar gyfer y Jiwbilî Ddiemwnt. Cyflwynodd y Prif Weinidog ar y pryd, Carwyn Jones, ddadl gan y Llywodraeth, ac roedd hynny i’w groesawu’n fawr iawn, ond yn anffodus, nid oes unrhyw beth o'r fath wedi digwydd y tro hwn, a dyna pam ein bod wedi defnyddio ein hamser fel yr wrthblaid, fel y Ceidwadwyr Cymreig—gwrthblaid ffyddlon i'w Mawrhydi yma yn y Senedd hon.
Nawr, wrth gwrs, yn ystod y 70 mlynedd y mae Ei Mawrhydi wedi bod ar yr orsedd, cafodd ei chefnogi am y rhan fwyaf o'r amser hwnnw gan y Tywysog Philip, ei thywysog cydweddog, Dug Caeredin, ac yn wir, Iarll Meirionnydd, fel y mae'n rhaid inni atgoffa pawb pryd bynnag y bydd ei enw'n codi mewn sgwrs. Ef, wrth gwrs, oedd ei 'chryfder a'i chynhaliaeth', a bu ei farwolaeth y llynedd yn golled fawr nid yn unig i'w Mawrhydi y Frenhines, ond hefyd i'r genedl gyfan.
Dros y saith degawd diwethaf, mae’r Frenhines wedi ymroi i wasanaeth anhunanol i Gymru, y DU a’r Gymanwlad gyfan. Mae hi wedi gweithio gyda 14 o Brif Weinidogion y DU—onid yw hynny'n rhyfeddol—ac wrth gwrs, pedwar o Brif Weinidogion Cymru. Ond mae hi bob amser wedi codi uwchlaw'r ffraeo gwleidyddol; mae hi wedi bod yn angor cadarn i'r genedl mewn argyfyngau ac mewn cyfnodau cythryblus, gan gynnwys yn ystod y cyfnod ofnadwy hwn y mae pob un ohonom wedi gorfod ei ddioddef gyda'r pandemig coronafeirws yn ddiweddar.
Ei Mawrhydi yw diplomydd a llysgennad gorau Prydain, gan gynrychioli buddiannau Cymru a Phrydain dramor ar gannoedd o ymweliadau a chroesawu arlywyddion, prif weinidogion a phenaethiaid gwladwriaethau o wledydd eraill yma i'r DU. Credaf ei bod yn anodd iawn gorbwysleisio pwysigrwydd yr ymweliadau hyn yn meithrin cysylltiadau rhyngwladol, yn helpu i oresgyn rhaniadau ac yn cadarnhau’r cysylltiadau cryf sydd gan Brydain gyda’n cynghreiriaid.
Nid yw’n syndod, felly, fod Ei Mawrhydi y Frenhines yn cael ei hedmygu’n fawr, nid yn unig yma yng Nghymru, lle mae poblogrwydd Ei Mawrhydi y Frenhines yn fwy nag yng ngwledydd eraill y DU, ond ledled y byd. Mae’r edmygedd hwnnw wedi’i ddangos mewn sawl ffordd gan bobl ledled y byd, a chaf fy atgoffa o’r edmygedd hwnnw sydd gan bobl tuag at Ei Mawrhydi y Frenhines bob tro y byddaf yn siarad â fy mam annwyl, oherwydd, wyddoch chi beth, pan aned fy mam yn Nulyn yn 1952, y flwyddyn yr esgynnodd Ei Mawrhydi y Frenhines i’r orsedd, penderfynodd ei mam a’i thad—fy nhaid a fy nain—ei galw’n Elizabeth ar ôl Ei Mawrhydi y Frenhines.
Felly, mae’r Jiwbilî Blatinwm yn rhoi cyfle i bob un ohonom ddathlu saith degawd o wasanaeth Ei Mawrhydi i ni yma yng Nghymru. Wrth gwrs, i nodi’r Jiwbilî Blatinwm, mae Ei Mawrhydi a Thywysog Cymru wedi lansio menter Canopi Gwyrdd y Frenhines i wahodd pobl ledled y DU i blannu coeden, gan y bydd hynny, wrth gwrs, yn cael effaith barhaol a chadarnhaol ar yr amgylchedd ac yn helpu i fynd i'r afael â newid hinsawdd. Oedd, roedd y Frenhines yn plannu coed ac yn dadlau dros blannu coed ymhell cyn i Lee Waters wneud hynny yn y Siambr hon. [Chwerthin.] Dylai hi fod ar bob hysbyseb ar gyfer ymgyrch blannu coed y Llywodraeth Cymru hon.
Ac nid yn unig hynny, ond bydd medalau Jiwbilî Blatinwm arbennig hefyd yn cael eu dyfarnu i swyddogion heddlu rheng flaen, diffoddwyr tân, staff gwasanaethau brys, swyddogion carchardai a’n lluoedd arfog gwerthfawr—symbol o ddiolchgarwch ar ran y genedl am y gwaith a wnânt. Yna, bydd penwythnos gŵyl y banc—penwythnos gŵyl y banc estynedig—ym mis Mehefin, canolbwynt sylw i ddathliadau’r Jiwbilî Blatinwm. Bydd parti gardd yn fy nhŷ i, os hoffech alw heibio.
Mae gan Gymru le arbennig iawn yng nghalon Ei Mawrhydi, nid yn unig oherwydd ei hoffter—ei hoffter mawr—o gorgwn sir Benfro, ond am ei bod hi'n cario darn o Gymru gyda hi, yn llythrennol, i bob man y bydd hi’n mynd ar ffurf modrwy briodas o aur Cymru. Mae ei hymroddiad i Gymru wedi’i ddangos mewn cymaint o ffyrdd eraill. Mae hi wedi bod ar ymweliadau cyson yma dros y blynyddoedd. Ei nawdd a'i chefnogaeth i sefydliadau, digwyddiadau a sefydliadau elusennol Cymru, gan gynnwys Ysbyty Brenhinol Caerdydd, Cyfeillion Eglwys Gadeiriol Llandaf, Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Undeb Rygbi Cymru, Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru—gallwn fynd ymlaen ac ymlaen ac ymlaen ac ymlaen. Ond wrth gwrs, i ni fel Aelodau o'r Senedd hon, dylem hefyd atgoffa ein hunain heddiw o gefnogaeth ddiwyro Ei Mawrhydi i'r sefydliad hwn—y Senedd. Mae hi wedi mynychu pob un o agoriadau’r Senedd a Chynulliad Cenedlaethol Cymru fel y'i gelwid yn flaenorol, gan gynnwys, wrth gwrs, ei phresenoldeb yn ddiweddar ychydig fisoedd yn ôl yn ein hagoriad swyddogol.
Mae dau ddiddordeb penodol y mae’r Frenhines a minnau’n eu rhannu. Y cyntaf yw cefnogaeth ddiwyro i’n lluoedd arfog a’n cyn-filwyr. Mae gan Ei Mawrhydi, ynghyd ag aelodau eraill o’r teulu brenhinol, gysylltiad hir a dwfn â’r fyddin, gan gynnwys y fyddin yma yng Nghymru. Hi yw Prif Gyrnol y Cymry Brenhinol a'r Gwarchodlu Cymreig.
A'r ail beth sydd gennyf yn gyffredin â'i Mawrhydi y Frenhines yw ffydd Gristnogol gref. Bydd y rheini ohonoch sy’n gwylio trafodion rhithwir y Senedd wedi gweld bod dau lun o'i Mawrhydi y Frenhines yn fy swyddfa. Maent yno i fy atgoffa i, ac unrhyw un sy’n ymweld â fy swyddfa, o’r esiampl ragorol o wasanaeth cyhoeddus y mae’r Frenhines wedi’i gosod ar fy nghyfer i a phob Aelod o’r Senedd a phob cynrychiolydd etholedig arall. Mae'n esiampl y dylai pob un ohonom geisio'i dilyn. Mae un o’r lluniau’n dangos Ei Mawrhydi y Frenhines yn un o agoriadau swyddogol y Senedd—yr un cyntaf imi gael y cyfle i fod yn bresennol ynddo fel Aelod o’r Senedd, yn ôl yn 2007—ac mae’r llall yn dangos Ei Mawrhydi yn dilyn un o ddarllediadau Dydd Nadolig y Frenhines. Mae’r un hwn, i mi, yn arbennig o bwysig gan ei fod yn pwysleisio rôl Ei Mawrhydi fel amddiffynnydd y ffydd—teitl y mae hi’n sicr, yn fy marn i, wedi'i haeddu, gan nad oes unrhyw amheuaeth fod ffydd Gristnogol gref Ei Mawrhydi wedi bod yn ganolog i’w bywyd, a gwelwn sawl enghraifft o hyn yn ei darllediadau Nadolig. Yn 2000, dywedodd y Frenhines:
'I mi, mae dysgeidiaeth Crist a fy atebolrwydd personol fy hun gerbron Duw yn darparu fframwaith rwy'n ceisio byw fy mywyd o'i fewn. Rwyf fi, fel cynifer ohonoch, wedi cael cryn gysur ar adegau anodd drwy eiriau ac esiampl Crist.'
Mae ei theyrnasiad hir wedi’i seilio ar ffydd Gristnogol bersonol, ddofn. Yn 2011, dywedodd yn ei darllediad Nadolig:
'Er bod y gallu gennym i gyflawni gweithredoedd o gryn garedigrwydd, mae hanes yn ein dysgu bod angen inni gael ein hachub rhagom ein hunain weithiau—rhag ein diofalwch neu ein trachwant. Anfonodd Duw rywun unigryw i'r byd—nid athronydd na chadfridog (er mor bwysig ydynt)—ond Gwaredwr, gyda'r gallu i faddau.'
Geiriau anhygoel. Mae'r Frenhines hefyd wedi bod ar flaen y gad yn hyrwyddo deialog a dealltwriaeth rhwng gwahanol gymunedau ffydd drwy gydol ei theyrnasiad. Yn 2014, yn ei darllediad Nadolig, dywedodd:
'mae bywyd Iesu Grist, Tywysog Tangnefedd, y dathlwn ei enedigaeth heddiw, yn ysbrydoliaeth ac yn angor yn fy mywyd. Yn esiampl o gymod a maddeuant, estynnodd ei ddwylo mewn cariad, derbyniad ac iachâd. Mae esiampl Crist wedi fy nysgu i geisio parchu a gweld gwerth pawb, ni waeth beth fo'u ffydd, neu ddiffyg ffydd.'
Mae'r Frenhines yn esiampl anhygoel. Mae hi wedi amddiffyn ei ffydd Gristnogol yn gadarn gan hyrwyddo goddefgarwch a dealltwriaeth o eraill, ac mae'n byw yn ôl y cod moesol y mae'n ei bregethu. Felly, i gloi, hoffwn ddweud hyn. Am ei 70 mlynedd ar yr orsedd, am ei gwasanaeth i Gymru, y DU a’r Gymanwlad, ac am ei rôl fel amddiffynnydd y ffydd, dywedaf hyn: Duw a gadwo'r Frenhines, hir oes i'r Frenhines, a llongyfarchiadau, Eich Mawrhydi.
Ar ran pobl a chymunedau Islwyn, hoffwn gofnodi ein gwerthfawrogiad o’r gwasanaeth cyhoeddus ffyddlon ac ymroddedig y mae Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II wedi'i roi ac yn parhau i'w roi heddiw. Ni fyddai unrhyw un, ni waeth beth yw eu barn ar y frenhiniaeth, heb eu cyffwrdd, fel roeddwn innau, wrth weld Ei Mawrhydi yn eistedd ar ei phen ei hun y llynedd yn y capel yn Windsor yn angladd ei gŵr. Roedd yn symbol pellach eto, pe bai angen un, o’r ddynes eiconig hon sydd wedi cadw at y llw a dyngodd wrth gael ei choroni i wasanaethu ei phobl.
Fel cynrychiolydd Llafur yng Nghymdeithas Seneddol y Gymanwlad, rwyf innau hefyd wedi gweld a chlywed drosof fy hun faint o edmygedd a pharch sydd i'r Frenhines ar draws y Gymanwlad a sut y mae hi, yn bersonol, yn cryfhau ein henw da rhyngwladol. Nid oes unrhyw amheuaeth fod safbwyntiau cryf a gwahanol iawn i'w cael ar y frenhiniaeth ar draws y Siambr hon, fel sydd i'w cael yn Islwyn ac fel sydd i'w cael ar draws y Gymanwlad, ac mae hi’n cryfhau’r enw da personol hwnnw i ni, a gwelsom hynny’n ddiweddar, pan ddaeth Barbados yn weriniaeth, a nodwn y modelau Sgandinafaidd gwahanol, ond nid dyma'r adeg na’r lle ar gyfer y ddadl honno er hynny.
Felly, fodd bynnag, yn yr ysbryd diffuant y teimlaf fod y ddadl hon wedi'i chyflwyno ynddo, hoffwn ddweud 'diolch' wrth ein Brenhines. Ni waeth beth yw ein barn ar yr angen, neu fel arall, am frenhiniaeth fodern, gadewch inni uno o gwmpas y ffaith bod rhywbeth eithaf dwys a sefydlog yn y syniad ei bod hi wedi bod yn Frenhines arnom drwy'r cyfnodau anoddaf yn hanes Prydain a'i bod wedi teyrnasu drwy gydol bywydau pob un o Aelodau’r Senedd hon. Drwy'r degawdau a'r gwahanol amseroedd, mae’r Frenhines Elizabeth II wedi bod yn seren gyson mewn byd sy’n newid yn barhaus ac sy'n aml yn ddryslyd. Gadewch i ymroddiad y Frenhines i wasanaeth cyhoeddus fod yn goron iddi am byth a’i hymrwymiad i ddyletswydd gyhoeddus yn ysbrydoliaeth i bob un ohonom.
Ac i gloi, Lywydd, pan agorwyd y chweched Senedd yn ffurfiol, mwynheais wrando ar Ei Mawrhydi a chefais fy synnu gan ei chwerthin gwirioneddol ddiffuant wrth imi adrodd stori roedd hi'n ei chofio am Alun Davies. Ac fel ffeminydd falch, mae rhywbeth cryf i'w edmygu yn y fenyw hon, cryfder go iawn, a sylwedd go iawn, lle mae ffigurau blaenllaw honedig eraill yn toddi o flaen ein llygaid, a hithau wedi bod yn ffigwr blaenllaw, ein cynrychiolydd a'n Brenhines, ac wedi bod yn fenyw flaenllaw ar lwyfan y byd am y saith degawd diwethaf. Rydym wedi bod yn ffodus ac rwyf innau hefyd yn dymuno llawer mwy o flynyddoedd i’w Mawrhydi deyrnasu drosom. Duw a'ch bendithio, Eich Mawrhydi, a diolch.
Diolch, Lywydd. Mae’n bleser mawr gennyf ychwanegu fy llais heddiw at y teyrngedau i’w Mawrhydi y Frenhines i nodi deng mlynedd a thrigain ers ei hesgyniad i’r orsedd. Mae Jiwbilî Blatinwm yn ddigwyddiad unigryw yn hanes Prydain, a dylem roi amser i fyfyrio ar deyrnasiad hir y Frenhines a sut y mae pethau wedi newid. Nid oedd y rhan fwyaf ohonom yn y Siambr hon wedi ein geni ym 1952; yn sicr, nid oeddwn i, ac ni ellir gwadu bod y byd yn lle llawer gwahanol bryd hynny. Roedd Winston Churchill yn Brif Weinidog y DU, roedd galwyn o betrol yn costio 22c yn arian heddiw, daeth dogni te i ben, ac agorodd drama Agatha Christie, The Mousetrap, yn y West End, sydd, fel Ei Mawrhydi, yn dal i fynd hyd heddiw, rwy'n falch o ddweud.
Ym 1952, roedd fy nau riant wedi'u geni, yn India a hefyd ym Mhacistan. Roedd fy nhad-cu ar ochr fy nhad yn aelod o lu awyr India a fy nhad-cu ar ochr fy mam yn aelod o lu awyr Pacistan, ac rwy'n sicr wedi etifeddu eu cariad, eu hymroddiad a’u hedmygedd tuag at y Frenhines. Yna, ar ôl y rhaniad ym 1952, roedd fy nau riant yn blant ysgol, fel y soniais, ond un o lwyddiannau mwyaf teyrnasiad y Frenhines fu trawsnewidiad yr ymerodraeth yn Gymanwlad.
Heddiw, mae'r Gymanwlad yn cynnwys 53 o wledydd annibynnol sy'n cydweithio ar drywydd nodau cyffredin sy'n hyrwyddo datblygiad, democratiaeth a heddwch. Gyda phoblogaeth gyfunol o 2.4 biliwn, mae'r Gymanwlad yn ymestyn dros y byd ac yn cynnwys economïau datblygedig a gwledydd sy'n datblygu. Mae'n cwmpasu Affrica, Asia, y Caribî a De a Gogledd America, Ewrop a'r Môr Tawel. Daw ei chryfder o'i gwerthoedd a rennir, amrywiaeth ac ymrwymiad i gydraddoldeb hiliol. Mae hyn ar adegau wedi achosi straen yn y sefydliad, gyda gwledydd yn gadael neu'n cael eu diarddel, ond heddiw, mae'r Gymanwlad yn parhau i fod yn rym unedig ar gyfer hyrwyddo hawliau dynol, cydraddoldeb hiliol a democratiaeth yn y byd.
Dywedodd y Frenhines unwaith, ac rwy'n dyfynnu:
'Mae bob amser wedi bod yn hawdd casáu a dinistrio. Mae adeiladu a choleddu'n llawer anos.'
Ac:
'Wrth gofio dioddefaint echrydus y rhyfel ar y ddwy ochr, rydym yn cydnabod pa mor werthfawr yw'r heddwch rydym wedi'i adeiladu'.
Y Frenhines, i raddau helaeth, sy'n gyfrifol am lwyddiant y Gymanwlad, ac mae hi fel ei harweinydd yn cael ei charu, ei hedmygu a'i pharchu gan bawb. Ni ddylem synnu at hyn. Ar ei phen-blwydd yn un ar hugain ym 1947, dywedodd y Dywysoges Elizabeth ar y pryd:
'Rwy'n datgan ger eich bron chi i gyd y byddaf yn cysegru fy mywyd, boed yn hir neu'n fyr, i'ch gwasanaethu chi a gwasanaethu'r teulu mawr ymerodrol y mae pob un ohonom yn perthyn iddo.'
Ac mae hi'n sicr wedi cadw at yr addewid hwnnw. Ers 70 mlynedd, mae'r Frenhines wedi gwasanaethu'r wlad hon a'r Gymanwlad gydag ymroddiad a theyrngarwch. Mae hi wedi bod, ac mae'n parhau i fod, yn elfen sefydlog mewn byd sy'n newid yn gyflym, 'mor gyson â seren y gogledd', fel y gallai Shakespeare fod wedi'i ddweud. Esgynnodd y Frenhines i'r orsedd 70 mlynedd yn ôl pan fu farw ei thad annwyl, a llynedd, collodd ei gŵr, y Tywysog Philip, a fu wrth ei hochr drwy gydol ei theyrnasiad, yn ei chefnogi a'i hannog bob cam o'r ffordd. Rai blynyddoedd yn ôl, dywedodd y Frenhines,
'Nid yw'r byd yn lle dymunol iawn. Yn y pen draw, mae eich rhieni yn eich gadael, ac nid oes unrhyw un yn mynd i fynd allan o'u ffordd i'ch amddiffyn yn ddiamod. Mae angen ichi ddysgu sefyll drosoch eich hun a'r hyn rydych chi'n ei gredu'.
Dros y 70 mlynedd diwethaf, gyda chyngor ac arweiniad y Tywysog Philip, mae'r Frenhines wedi dangos gallu'r frenhiniaeth i addasu i'r oes fodern. Mae hi wedi gwneud mwy o deithio nag unrhyw un o arweinwyr eraill y wlad hon. Ar adeg jiwbilî Ddiemwnt y Frenhines Victoria, roedd y frenhines yn ffigwr pell na châi eu gweld yn aml gan ei phobl. Heddiw, amcangyfrifir bod y Frenhines wedi cyfarfod yn bersonol â 4 miliwn o bobl. Fel y dywedodd fy nghyd-Aelod uchel ei barch, Darren Millar, mae hi wedi cyfarfod â mwy na 14 o Brif Weinidogion y DU, gan arfer ei dyletswyddau statudol i roi cyngor, i annog ac i rybuddio yn ystod eu cyfarfodydd rheolaidd, a rhoi budd ei phrofiad digyffelyb iddynt. Mae hi wedi cyfarfod â phob un o Arlywyddion yr Unol Daleithiau o Truman i Biden, ac eithrio un. Mewn 70 mlynedd, nid yw wedi rhoi cam o'i le, ac nid yw byth yn cwyno na byth yn esbonio. Mae’n parhau i fod yn agos at galon y genedl, gan gyflawni ei dyletswydd a gwasanaethu ei gwlad, a Lywydd, rwy’n gobeithio ac yn gweddïo y bydd yn parhau i wneud hynny am flynyddoedd lawer i ddod. Diolch.
Rwy’n croesawu’r ddadl hon heddiw, a gyflwynwyd gan Darren Millar, i nodi deng mlynedd a thrigain ers i’r Frenhines esgyn i’r orsedd. Mae’n gynnig syml un linell o hyd, ac weithiau, y rhai symlaf yw'r rhai mwyaf effeithiol. Mae'r cynnig yn dweud:
'Cynnig bod y Senedd:'— ein Senedd ni—
'Yn estyn ei llongyfarchiadau cynhesaf i'w Mawrhydi y Frenhines ar achlysur 70 mlwyddiant ei hesgyniad i'r orsedd.'
A byddwn yn awgrymu, gyda phob parch, nad dyma'r achlysur i drafod rhinweddau neu wendidau’r frenhiniaeth neu gynnig dewisiadau amgen, na'r adeg ychwaith ar gyfer sinigiaeth fodern, ffasiynol tuag at bob sefydliad mewn bywyd cyhoeddus. Mae'r rheini ar gyfer adeg arall a lle arall. Nod y ddadl heddiw’n syml yw nodi gwasanaeth rhyfeddol unigolyn sydd, ers saith deg mlynedd, wedi rhoi ei rôl unigol a’r modd y mae’n cyflawni gwasanaeth cyhoeddus uwchlaw popeth arall, ac yn wir, y modd y mae wedi aberthu llawer o bethau eraill er mwyn cyflawni’r un genhadaeth honno o fod yn bennaeth cyfansoddiadol y Deyrnas Unedig. Mae hynny, ynddo’i hun, yn deilwng o’n sylw.
Mae pawb ohonom yma wedi derbyn rôl yn llygad y byd cyhoeddus, ond fe wnaethom wirfoddoli. Wrth wneud hynny, gwnaethom ddewis ymwybodol, gan wybod pe bai’n mynd yn ormod i ni neu ein teuluoedd, y gallem hefyd wneud y dewis, er mor anodd, i gamu’n ôl o’r amlygrwydd a dilyn llwybr gwahanol—hynny yw, os nad yw'r etholwyr wedi gwneud y dewis hwnnw ar ein rhan yn y cyfamser. Ond rwy’n credu mai’r hyn y byddai’r rhan fwyaf o bobl yn ei dderbyn yw, i Dywysoges Elizabeth o Efrog ifanc, a aned yn aelod o’r teulu brenhinol, nad oedd fawr o ddewis yn sgil hynny yn wyneb yr hyn y byddai hi wedi’i weld fel dyletswydd—dyletswydd i wasanaethu ei gwlad, yn aml yn y cyfnodau mwyaf anodd y gellid eu dychmygu i’r wlad honno, ac yn aml yn anodd iddi hi'n bersonol ac yn gyhoeddus iawn fel merch, mam ac ati.
Nid yw’n anodd gweld pam fod parch y cyhoedd ehangach tuag ati wedi tyfu, oherwydd rhai o’r nodweddion y mae hi wedi dod i’w dangos ar yr adegau anoddaf. Nid yw’r nodweddion hyn yn unigryw iddi, ac yn ei heiliadau preifat tawel, efallai y byddai hefyd yn cydnabod ei bod hi, fel pob un ohonom, wedi gwneud syrthio'n fyr o'r nod yn awr ac yn y man mewn ffyrdd bach. Ond maent hefyd yn rhai o'r nodweddion y byddem am eu gweld ynom ni ein hunain yn fwy cyson, ac yn ein holl arweinwyr cyhoeddus hefyd, yn enwedig y rhai yn swyddi uchaf y wladwriaeth. Ac fe soniaf am ddwy o'r nodweddion hynny yn benodol, oherwydd mae rhinwedd mewn gwneud hynny wrth inni edrych yn ôl ar 70 mlynedd o rôl y Frenhines Elizabeth fel pennaeth y wladwriaeth, ac wrth inni edrych yn awr hefyd ar gyfnodau tymhestlog presennol mewn bywyd cyhoeddus. Y ddwy nodwedd hynny yw anhunanoldeb a'r ffocws ar wasanaeth i eraill. Ac arwain trwy esiampl hefyd, a gosod y safonau mewn bywyd cyhoeddus sy’n wirioneddol bwysig i'n democratiaeth a'n parch at y ffordd y cawn ein llywodraethu a’r rhai sy'n ein llywodraethu ni.
Pan edrychwn at ein ffigyrau cenedlaethol mewn bywyd cyhoeddus ar unrhyw adeg mewn amser, ar unrhyw adeg mewn hanes, sylweddolwn fod gan hyd yn oed y gorau ohonynt, y gorau ohonom, wendidau. Ond rydym yn disgwyl—mewn gwirionedd, rydym yn mynnu—er mwyn ennyn parch y cyhoedd, eu bod yn ceisio byw yn ôl delfrydau anhunanoldeb ac arwain drwy esiampl. Mae’r anrhydedd o fod mewn swydd uchel ynddi’i hun yn creu dyletswydd i barchu'r swydd honno, nid i gamddefnyddio'r swydd, ac i drin y cyhoedd â pharch hefyd. Ac os ydynt yn methu cynnal y nodweddion hyn yn gyson, neu'n methu derbyn pan fyddant wedi baglu a syrthio’n fyr o’r nod, neu'n waeth, eu bod yn ceisio twyllo'r cyhoedd, yna bydd y cyhoedd yn gwbl anfaddeuol; nid ydynt byth yn ffyliaid. Ac rydym wedi gweld hyn trwy gydol hanes a byddwn yn siŵr o'i weld eto.
Felly, rwy’n gorffen yn syml drwy nodi bod y Frenhines Elizabeth II wedi gwasanaethu am saith degawd hir yn y swydd fwyaf amlwg mewn bywyd cyhoeddus yn y DU, yn sylw nid yn unig y cyhoedd ar yr ynys fach hon oddi ar lannau gogledd-orllewinol cyfandir Ewrop, ond yn sylw’r cyhoedd, y wasg a sylwebaeth y byd ar bob symudiad a phob gair o’i heiddo. Mae hi wedi bod yn dyst i rai o’r argyfyngau cyfansoddiadol, diplomyddol, gwleidyddol a phersonol mwyaf difrifol y gellir eu dychmygu a gwrthdaro milwrol a streiciau sifil yma ac ymhell dramor, ac yn aml bu’n rhan ohonynt, un cam oddi wrthynt fel pennaeth cyfansoddiadol y wladwriaeth ond byth yn ddifater yn eu cylch, ac eto mae'n ennyn parch y mwyafrif llethol o'r dinasyddion—a defnyddiaf y term 'dinasyddion' yn fwriadol mewn brenhiniaeth gyfansoddiadol—ar yr ynysoedd hyn. Awgrymaf fod hynny’n deillio i raddau mawr oherwydd, er bod gennym ni i gyd wendidau fel y dywedais, mae’r ddwy nodwedd barhaus, sef anhunanoldeb ac arweiniad a pharodrwydd i gydnabod pan aiff pethau o chwith wedi golygu bod y parch at y Frenhines ei hun wedi tyfu a thyfu gyda phob blwyddyn a degawd a aeth heibio. Efallai bod gwersi i bob un ohonom yno ac i’n holl arweinwyr mewn bywyd cyhoeddus sydd, mewn rolau etholedig, yn gobeithio cadw eu swyddi breintiedig yn gwasanaethu’r cyhoedd. Rydym i gyd yn llongyfarch Ei Mawrhydi y Frenhines, y Frenhines Elizabeth II, wrth nodi deng mlynedd a thrigain ers iddi esgyn i’r orsedd.
A gaf fi ddweud diolch wrth fy nghyd-Aelod, Darren Millar, am gyflwyno’r ddadl hynod bwysig hon y prynhawn yma? Fel y gŵyr pob Aelod, mae Ei Mawrhydi’r Frenhines yn cyrraedd deng mlynedd a thrigain ers iddi gael esgyn i’r orsedd ar 6 Chwefror, ac fel y dywed ein cynnig gan y Ceidwadwyr Cymreig, yn sicr, fe hoffwn innau hefyd gyfrannu at estyn ein llongyfarchiadau cynhesaf i’w Mawrhydi y Frenhines ar gyflawniad anhygoel.
Yn gyntaf, Lywydd, hoffwn fynd yn ôl at ychydig atgofion o’r adeg pan oedd y Frenhines yn fy nghymuned yn ôl yn 2002, pan oeddwn yn llawer iau, ac rwy’n cofio Ei Mawrhydi’r Frenhines yn ymweld â Bae Colwyn ac yn dod draw i ymweld â'r ysgol roeddwn yn ei mynychu ar y pryd. Rwy'n cofio'n iawn cael moment ryfedd pan oedd hi ar y trac rhedeg yn yr ysgol ac roeddwn i'n hanner disgwyl iddi redeg o gwmpas a gwneud y 400m, ond cafodd ei gyrru o amgylch y trac rhedeg y diwrnod hwnnw. Ond yr hyn a’m trawodd, a’r hyn a nodais, hyd yn oed yn fy arddegau, oedd y ffordd roedd presenoldeb Ei Mawrhydi yn uno pobl o bob maes, pob cefndir, pob oed, lefel addysg, cyrhaeddiad, pob credo, hil ac oedran—ffigwr sy’n uno, gan ddangos y lefel eithriadol o uchel o ymddygiad roedd Ei Mawrhydi yn ei harfer ac y mae’n parhau i’w harfer.
Yn ail, ac mewn perthynas â hyn, fel yr amlinellwyd eisoes gan yr Aelodau yma heddiw, rhaid inni ganu clodydd yr esiampl o wasanaeth a dyletswydd y mae Ei Mawrhydi wedi’i gosod inni, esiampl wych i bawb drwy gydol ei 70 mlynedd ar yr orsedd. Mae’r ffaith bod Ei Mawrhydi yn parhau, o un diwrnod i'r llall, i gyflawni ei rôl gyda pharch ac urddas yn esiampl y gallwn ni i gyd ei dilyn. Ac mae’r esiampl honno’n amlwg drwy ei holl waith gwych—[Torri ar draws.] Mae’n ddrwg gennyf, rydych am i mi dderbyn ymyriad. Yn sicr.
Diolch i’r Aelod, Sam Rowlands. Fe sonioch chi, Sam, am y gwasanaeth cyhoeddus a’ch profiad o weld y Frenhines yn yr ysgol. Gwelais innau'r Frenhines yn agor canolfan rhagoriaeth peirianneg Coleg Glannau Dyfrdwy yn 2003 ac euthum ymlaen i astudio prentisiaeth yno. Felly, ar ran gogledd Cymru a fy nhrigolion yn Alun a Glannau Dyfrdwy, a wnewch chi ymuno â mi i longyfarch y Frenhines ym mhob dim y mae’n ei wneud, a thynnu sylw, yn sicr, at yr esiampl y mae’n ei rhoi i bob un o’n gweision cyhoeddus ledled y Deyrnas Unedig a’r byd?
Yn bendant. Ac mae Mr Sargeant yn gwneud pwynt pwysig iawn, yn enwedig mewn perthynas â'i chariad at addysg yn ogystal â gweld eraill yn meithrin uchelgais ac yn gwneud yn dda mewn bywyd.
Mae’r gwaith gwych y mae hi wedi’i wneud yn gweithio gyda, a chafodd ei grybwyll yn gynharach, gydag oddeutu 14 o Brif Weinidogion gwahanol y DU—rwy’n siŵr ei bod hi’n ddigon anodd gweithio gydag un ar adegau, ond mae cael 14—dros ei 70 mlynedd, cyflawni dros 2,000 o ddigwyddiadau brenhinol a bod yn noddwr ac yn llywydd 600 o elusennau, hyn oll, wrth gwrs, dros y pedwerydd teyrnasiad hwyaf erioed—. Mae ganddi bob hawl i gael ei pharchu a’i chefnogi’n enfawr ledled y Deyrnas Unedig, ar draws y Gymanwlad, ac yn enwedig yma yng Nghymru.
Ac ar y pwynt hwn, Lywydd, rwy’n meddwl ei bod hefyd yn bwysig inni atgoffa ein hunain o’r safle sydd gan Ei Mawrhydi yn ein rôl fel Aelodau, ac rwy’n falch o’r geiriau a ddefnyddiais, ynghyd â llawer o Aelodau yma, wrth dyngu llw yn y Senedd lai na 12 mis yn ôl, a’r geiriau a ddefnyddiais oedd:
'Rwyf fi, Samuel Rowlands, trwy gymorth Duw, yn tyngu y byddaf yn ffyddlon ac yn deyrngar i'w Mawrhydi y Frenhines Elizabeth, ei hetifeddion a'i holynwyr, yn ôl y gyfraith.'
Yn y pen draw, dyma’r geiriau y mae’n rhaid inni barhau i’w cofio wrth gyflawni ein rôl yn gwasanaethu ein hetholwyr. Ac i orffen fy nghyfraniad, Lywydd, ac i ddathlu’r cyflawniad anhygoel hwn, hoffwn ddarllen y geiriau a ganlyn sy’n uno llawer o bobl o bob cwr o’r Deyrnas Unedig:
'Duw gadwo ein grasol Frenhines / Hir oes i'n Brenhines fonheddig / Duw gadwo'r Frenhines / Boed iddi fod yn fuddugoliaethus / Hapus a gogoneddus / Boed iddi deyrnasu'n hir drosom / Duw gadwo'r Frenhines.'
Roeddwn i'n meddwl eich bod chi'n mynd i ganu. Efallai y byddwn wedi ymuno—pwy a ŵyr. Jane Dodds.
Diolch, Lywydd. Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i Darren Millar am gyflwyno’r cynnig hwn, a gwnaf gyfraniad byr iawn, oherwydd, gydag eraill, hoffwn innau hefyd estyn fy llongyfarchiadau i’w Mawrhydi’r Frenhines ar ddeng mlynedd a thrigain ers iddi esgyn i’r orsedd. Mae Ei Mawrhydi wedi parhau i atgoffa’n gyson beth yw gwasanaeth cyhoeddus drwy gydol fy oes ac wedi gwasanaethu gydag ymroddiad, anrhydedd ac urddas. Mae hi wedi dangos ei bod yn fenyw gref a gwydn a chanddi ffydd Gristnogol gref, sydd wedi bod yn ffynhonnell ysbrydoliaeth i mi fel Cristion ac fel y clywsom, i eraill hefyd. Mae hi wedi dangos pwysigrwydd menywod hefyd, nid yn unig yn ein gwlad ni ond ar draws ein byd. Braint fawr i mi oedd cael ei chyfarfod am y tro cyntaf yn agoriad y chweched Senedd fis Hydref diwethaf. Ac i orffen, fe ddywedaf 'Dymuniadau gorau i chi, Eich Mawrhydi. Estynnaf fy llongyfarchiadau ar y garreg filltir arwyddocaol hon'.
Diolch yn fawr iawn i chi, Frenhines Elizabeth.
Janet Finch-Saunders.
Diolch, Lywydd, ac rwy’n gobeithio y byddwch chi a’r holl Aelodau yn ymuno â mi i ddweud 'Llongyfarchiadau, yn wir, Eich Mawrhydi’. Mae gan y Frenhines rôl ganolog a hollbwysig yn ein cyfansoddiad ni. O dan athrawiaeth gwahaniad pwerau, rhennir llywodraethiant y wladwriaeth yn dair cangen, pob un â phwerau a chyfrifoldebau ar wahân ac annibynnol. Fel y gwyddoch, ar gyfer Cymru, mae'r weithrediaeth yn cynnwys y Goron a dwy Lywodraeth, ac ni ddylem byth anghofio bod y Frenhines yn chwarae rhan gyfansoddiadol yn agor a diddymu'r Senedd—ein Senedd Cymru, yn wir. Mewn gwirionedd, mae'r Frenhines wedi agor Senedd y DU bob tro ond dwy yn ystod ei theyrnasiad ei hun—gyda’r eithriadau ym 1959 a 1963 pan oedd hi’n feichiog. Mae wedi bod yn gymaint o anrhydedd cael cyfarfod â'i Mawrhydi ar dri achlysur ein hagoriad brenhinol yma a siarad â hi ac roedd hi'n anrhydedd eto ei gweld yn agor y chweched Senedd yn swyddogol heb fod ymhell yn ôl.
Rhaid inni beidio ag anghofio bod yr holl Ddeddfau sy’n deillio o’r Senedd hon yn cael eu cymeradwyo ganddi, sy’n golygu bod effaith anuniongyrchol y Goron ar Gymru yn llawer mwy nag y gallem byth ei fesur. Yn Aberconwy cawsom y fraint o bresenoldeb Ei Mawrhydi pan fynychodd yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llandudno yn 1963, pan agorodd dwnnel Conwy, gyda'r diweddar Wyn Roberts, Arglwydd Roberts o Gonwy, ac wrth iddi ymweld â Venue Cymru yn 2010. Ac rwy’n ei chofio’n dda ym mrenhines cyrchfannau gwyliau Cymru, Llandudno, fel rhan o daith y Jiwbilî Arian yn 1977. Roedd yr haul yn gwenu a’r promenâd yn llawn dop o bobl leol ac ymwelwyr, pob un yn awyddus i gael cipolwg ar y pâr brenhinol. Mae’r brwdfrydedd lleol dros Ei Mawrhydi yn ddiwyro. Yn wir, mae ein parch a'n cariad tuag ati wedi tyfu, ac yn briodol felly. Mae hi'n elfen gyson drwy bob amser ac wedi gweithio gyda Phrif Weinidogion o bob lliw a llun ac wedi ein gwasanaethu â theyrngarwch, urddas ac ymrwymiad llwyr bob amser. A dweud y gwir, rwy’n meddwl mai Harold Macmillan a’i crynhodd yn dda pan alwodd y Frenhines yn
'gymorth gwych, am mai hi yw'r un person y gallwch chi siarad â hi.'
Yn ogystal â chynorthwyo Prif Weinidogion, mae'r Frenhines yn noddwr brenhinol neu'n llywydd ar oddeutu 600 o elusennau, ac mae'n cyflawni'r cyfrifoldebau hyn gyda brwdfrydedd mawr. Mae 14 o’r rheini yma yng Nghymru, ac yn cynnwys undeb golff Cymru, Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, Cymdeithas Bêl-droed Cymru, a Meysydd Chwarae Cymru, sefydliad sy’n ceisio gwarchod a gwella meysydd chwarae a mannau hamdden eraill yn y DU. Yn fwy nag erioed o'r blaen, mae ein hamgylchedd awyr agored a'n hargyfwng newid hinsawdd ar flaen ein meddyliau i gyd. Ac fel y nododd Ei Mawrhydi yn ystod COP 26,
'Nid oes yr un ohonom yn bychanu'r heriau sydd o'n blaenau: ond mae hanes wedi dangos pan ddaw gwledydd at ei gilydd gydag un nod cyffredin, mae lle bob amser i obeithio. Drwy weithio ochr yn ochr, gallwn ddatrys y problemau mwyaf anorchfygol a threchu’r adfyd mwyaf.'
Rwy’n meddwl ei bod yn hynod briodol heddiw ein bod yn cael ein hysbrydoli gan y neges honno ynghylch cydweithio a’r balchder y mae’r teulu brenhinol wedi’i ddangos wrth annog pobl i ddiogelu ein planed fregus. Rwy’n annog yr holl Aelodau i ysgrifennu at eu cynghorau tref a chymuned yn eu hetholaethau ac i ysbrydoli cyfranogiad yng Nghanopi Gwyrdd y Frenhines. Nid wyf yn amau y gwelwn bartïon stryd yn llu yn ystod gŵyl y banc pedwar diwrnod, ond bydd y coed a blannwn yn byw am ganrifoedd i ddod. Bydd cyfraniad y Frenhines i’r wlad hon, y Gymanwlad a’r byd yn parhau am ganrifoedd hefyd, boed yn y deddfau a basiwyd, y coed a blannwyd, y calonnau niferus a gyffyrddwyd neu’r gwledydd a gefnogwyd. Rwy’n mawr obeithio y caiff Ei Mawrhydi fwynhau digwyddiad hyfryd iawn i ddathlu ei 70 mlynedd ogoneddus ar yr orsedd, ac rwy’n gweddïo am hynny am flynyddoedd lawer i ddod. Lywydd, a gaf fi ofyn i lythyr gael ei anfon at ein Brenhines ar ran Aelodau’r Senedd yn estyn ein llongyfarchiadau diffuant a diolchgar? Diolch, a hir oes i'r Frenhines.
Dwi'n galw nawr ar y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad i gyfrannu i'r ddadl. Mick Anoniw.
Diolch, Llywydd. Bydd achlysur esgyniad y Frenhines yn ennyn emosiynau cymysg i Ei Mawrhydi, gan ei bod hefyd yn nodi marwolaeth ei thad. Yn ôl yr adroddiadau, bydd yn nodi'r achlysur yn dawel ac mae hynny'n naturiol. Hefyd, eleni fydd y flwyddyn gyntaf heb yr un a fu'n gymaint o gefn iddi dros y blynyddoedd, wedi marwolaeth Dug Caeredin y llynedd. Rydym ni i gyd yn cofio'r lluniau trawiadol o Ei Mawrhydi yn eistedd ar ei phen ei hun yn gwisgo ei masg yn angladd ei diweddar ŵr. Ar yr adeg honno, roedd hi'n eistedd mewn undod gyda'r holl bobl hynny a oedd wedi colli anwyliaid yn ystod y pandemig, a llawer ohonyn nhw wedi gorfod galaru ar eu pennau eu hunain. Roedd hi'n esiampl i bawb o urddas ac anhunanoldeb.
Lywydd, bydd y Llywodraeth yn cyflwyno ei chynnig ei hun, fel y gwnaethom 10 mlynedd yn ôl ar adeg dathliadau’r Jiwbilî, yn yr haf. Fodd bynnag, byddai'n briodol nodi’r achlysur sydd i ddod gyda rhai ystyriaethau. Ar ei phen-blwydd yn un ar hugain, cysegrodd y Frenhines ei bywyd i wasanaeth y Gymanwlad gyda'r geiriau hyn:
‘Rwy’n datgan ger eich bron chi i gyd y byddaf yn cysegru fy mywyd, boed yn hir neu'n fyr, i'ch gwasanaethu chi'.
Ac ni all fod unrhyw amheuaeth nad yw Ei Mawrhydi wedi parhau’n gwbl ffyddlon i'r addewid a wnaeth gynifer o flynyddoedd yn ôl.
Lywydd, yn y Senedd hon, ac yng Nghymru, rydym yn cynrychioli llawer o safbwyntiau amrywiol. Dyna yw democratiaeth. Fodd bynnag, ledled Cymru, credaf fod y Frenhines wedi ennill y parch mwyaf yn sgil ei hymroddiad personol i wasanaeth cyhoeddus a’r safonau uchaf mewn bywyd cyhoeddus. Am 70 mlynedd, bu'n esiampl wrth arfer y ddyletswydd honno, gan weithio’n ddiflino er budd cenhedloedd y DU a phobl y Gymanwlad, a dyna pam y mae ganddi le mor arbennig yng nghalonnau cymaint o Gymry.
Cawsom i gyd y pleser o bresenoldeb y Frenhines yma yn y Senedd yn ddiweddar ar gyfer agoriad ein chweched sesiwn seneddol. Mae cyffro a balchder y rhai a oedd yn gysylltiedig â hynny’n arwydd o’r parch mawr sydd gan lawer o bobl at Ei Mawrhydi, cyffro a adlewyrchwyd ar wyneb y Frenhines, a oedd i’w gweld yn dangos cymaint o ddiddordeb yn y cyfraniadau i’n bywyd cenedlaethol a bywyd dinesig y rhai y tu hwnt i’r Siambr hon ag a wnâi i'r gwaith sy'n digwydd o’i mewn. Bydd pobl Cymru yn cael cyfle i nodi Jiwbilî'r Frenhines drwy nifer o ddigwyddiadau a dathliadau sydd wedi'u cynllunio. Ar ran y Llywodraeth, rwy’n ei llongyfarch ar achlysur nodi ei hesgyniad i’r orsedd, ac ar ei 70 mlynedd o ymroddiad a gwasanaeth. Diolch, Lywydd.
Dwi'n galw nawr ar James Evans i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Lywydd. Mae’n anrhydedd cau’r ddadl hon heddiw. Rwyf am dalu teyrnged i'n brenhines sydd wedi gwasanaethu hwyaf, Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II. Gellir crynhoi ei bywyd a’i theyrnasiad mewn dau air: dyletswydd, ac fel y dywedodd Huw Irranca-Davies, gwasanaeth hynod i’n gwlad. Yn 19 oed, ymrestrodd Ei Mawrhydi yn ystod yr ail ryfel byd i wasanaethu yng Ngwasanaeth Tiriogaethol Cynorthwyol y menywod, ar ddechrau oes o ymrwymiad i’r wlad hon a’i phobl. Crynhowyd hyn yn araith enwog Ei Mawrhydi yn Cape Town, fel y mae nifer wedi dweud heddiw, lle dywedodd,
'Rwy’n datgan ger eich bron chi i gyd y byddaf yn cysegru fy mywyd, boed yn hir neu'n fyr, i'ch gwasanaethu chi'.
Mae hi wedi gwneud hynny'n rhyfeddol trwy gydol ei theyrnasiad. Fel y dywedodd Darren Millar, Ei Mawrhydi y Frenhines yw'r frenhines sydd wedi gwasanaethu hwyaf yn hanes Prydain. Mae Ei Mawrhydi wedi parhau i fod yn ddylanwad sefydlog ac yn bresenoldeb tawel dros y wlad, ac mae hi wedi gweld 14 o Brif Weinidogion y DU a phedwar o Brif Weinidogion Cymru, felly rhaid imi ddweud bod ganddi ddigonedd o amynedd.
Mae Ei Mawrhydi y Frenhines wedi moderneiddio’r frenhiniaeth ochr yn ochr â’i diweddar annwyl ŵr, Ei Uchelder Brenhinol Dug Caeredin, a gwnaethant ei throi’n sefydliad poblogaidd iawn fel y mae heddiw, gyda chyrhaeddiad byd-eang yn hyrwyddo buddiannau Prydain ledled y byd, gan hyrwyddo heddwch, ac fel y dywedodd Sam Rowlands yn gwbl gywir, gan uno pobl er mwyn gwella'r byd. Mae ymroddiad ac ymdeimlad o ddyletswydd Ei Mawrhydi i’w gweld yn glir trwy ei hymrwymiad i’w helusennau dirifedi, ac fe’i hystyrir yn rhywun sy’n gwneud mwy nag unrhyw frenin neu frenhines arall mewn hanes i gefnogi elusennau. Bu'n noddwr ac yn llywydd ar dros 600 o elusennau yn ystod ei theyrnasiad.
Nid ymroddiad Ei Mawrhydi i'r wlad yn unig y dylem i gyd ryfeddu ato. Parhaodd Ei Mawrhydi i hyrwyddo’i gwaith mawr yn y Gymanwlad, gan weithio dros y blynyddoedd i ailadeiladu cysylltiadau a chadw ei haelodau gyda’i gilydd ers 1952, fel y soniodd Rhianon Passmore a Natasha Asghar. Pan goronwyd Ei Mawrhydi, roedd gan y Gymanwlad wyth aelod-wladwriaeth. Heddiw, mae yna 54, ac mae’r Frenhines wedi goruchwylio proses sydd i bob pwrpas wedi newid yr hyn ydoedd o’r blaen a’i drawsnewid yn gymdeithas wirfoddol o genhedloedd sofran yn gweithio law yn llaw â’i gilydd i hyrwyddo heddwch byd-eang.
Yn syml iawn, Aelodau, mae Ei Mawrhydi wedi bod yn ddiwyro fel pennaeth y wladwriaeth ac fel ein brenhines, a byddwn ni a’r genedl gyfan hon yn ddyledus iddi am byth. Rwy’n credu fy mod yn siarad ar ran y Siambr gyfan yma heddiw pan ddywedaf, ‘Duw gadwo’r Frenhines’.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig yna wedi'i dderbyn, ac fel awgrymodd Janet Finch-Saunders, fe wnaf i ysgrifennu i longyfarch y Frenhines ar 70 mlynedd o wasanaeth, yn unol â chynnwys y cynnig.