Part of the debate – Senedd Cymru am 5:12 pm ar 2 Chwefror 2022.
Diolch, Lywydd, ac rwy’n gobeithio y byddwch chi a’r holl Aelodau yn ymuno â mi i ddweud 'Llongyfarchiadau, yn wir, Eich Mawrhydi’. Mae gan y Frenhines rôl ganolog a hollbwysig yn ein cyfansoddiad ni. O dan athrawiaeth gwahaniad pwerau, rhennir llywodraethiant y wladwriaeth yn dair cangen, pob un â phwerau a chyfrifoldebau ar wahân ac annibynnol. Fel y gwyddoch, ar gyfer Cymru, mae'r weithrediaeth yn cynnwys y Goron a dwy Lywodraeth, ac ni ddylem byth anghofio bod y Frenhines yn chwarae rhan gyfansoddiadol yn agor a diddymu'r Senedd—ein Senedd Cymru, yn wir. Mewn gwirionedd, mae'r Frenhines wedi agor Senedd y DU bob tro ond dwy yn ystod ei theyrnasiad ei hun—gyda’r eithriadau ym 1959 a 1963 pan oedd hi’n feichiog. Mae wedi bod yn gymaint o anrhydedd cael cyfarfod â'i Mawrhydi ar dri achlysur ein hagoriad brenhinol yma a siarad â hi ac roedd hi'n anrhydedd eto ei gweld yn agor y chweched Senedd yn swyddogol heb fod ymhell yn ôl.
Rhaid inni beidio ag anghofio bod yr holl Ddeddfau sy’n deillio o’r Senedd hon yn cael eu cymeradwyo ganddi, sy’n golygu bod effaith anuniongyrchol y Goron ar Gymru yn llawer mwy nag y gallem byth ei fesur. Yn Aberconwy cawsom y fraint o bresenoldeb Ei Mawrhydi pan fynychodd yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llandudno yn 1963, pan agorodd dwnnel Conwy, gyda'r diweddar Wyn Roberts, Arglwydd Roberts o Gonwy, ac wrth iddi ymweld â Venue Cymru yn 2010. Ac rwy’n ei chofio’n dda ym mrenhines cyrchfannau gwyliau Cymru, Llandudno, fel rhan o daith y Jiwbilî Arian yn 1977. Roedd yr haul yn gwenu a’r promenâd yn llawn dop o bobl leol ac ymwelwyr, pob un yn awyddus i gael cipolwg ar y pâr brenhinol. Mae’r brwdfrydedd lleol dros Ei Mawrhydi yn ddiwyro. Yn wir, mae ein parch a'n cariad tuag ati wedi tyfu, ac yn briodol felly. Mae hi'n elfen gyson drwy bob amser ac wedi gweithio gyda Phrif Weinidogion o bob lliw a llun ac wedi ein gwasanaethu â theyrngarwch, urddas ac ymrwymiad llwyr bob amser. A dweud y gwir, rwy’n meddwl mai Harold Macmillan a’i crynhodd yn dda pan alwodd y Frenhines yn
'gymorth gwych, am mai hi yw'r un person y gallwch chi siarad â hi.'
Yn ogystal â chynorthwyo Prif Weinidogion, mae'r Frenhines yn noddwr brenhinol neu'n llywydd ar oddeutu 600 o elusennau, ac mae'n cyflawni'r cyfrifoldebau hyn gyda brwdfrydedd mawr. Mae 14 o’r rheini yma yng Nghymru, ac yn cynnwys undeb golff Cymru, Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, Cymdeithas Bêl-droed Cymru, a Meysydd Chwarae Cymru, sefydliad sy’n ceisio gwarchod a gwella meysydd chwarae a mannau hamdden eraill yn y DU. Yn fwy nag erioed o'r blaen, mae ein hamgylchedd awyr agored a'n hargyfwng newid hinsawdd ar flaen ein meddyliau i gyd. Ac fel y nododd Ei Mawrhydi yn ystod COP 26,
'Nid oes yr un ohonom yn bychanu'r heriau sydd o'n blaenau: ond mae hanes wedi dangos pan ddaw gwledydd at ei gilydd gydag un nod cyffredin, mae lle bob amser i obeithio. Drwy weithio ochr yn ochr, gallwn ddatrys y problemau mwyaf anorchfygol a threchu’r adfyd mwyaf.'
Rwy’n meddwl ei bod yn hynod briodol heddiw ein bod yn cael ein hysbrydoli gan y neges honno ynghylch cydweithio a’r balchder y mae’r teulu brenhinol wedi’i ddangos wrth annog pobl i ddiogelu ein planed fregus. Rwy’n annog yr holl Aelodau i ysgrifennu at eu cynghorau tref a chymuned yn eu hetholaethau ac i ysbrydoli cyfranogiad yng Nghanopi Gwyrdd y Frenhines. Nid wyf yn amau y gwelwn bartïon stryd yn llu yn ystod gŵyl y banc pedwar diwrnod, ond bydd y coed a blannwn yn byw am ganrifoedd i ddod. Bydd cyfraniad y Frenhines i’r wlad hon, y Gymanwlad a’r byd yn parhau am ganrifoedd hefyd, boed yn y deddfau a basiwyd, y coed a blannwyd, y calonnau niferus a gyffyrddwyd neu’r gwledydd a gefnogwyd. Rwy’n mawr obeithio y caiff Ei Mawrhydi fwynhau digwyddiad hyfryd iawn i ddathlu ei 70 mlynedd ogoneddus ar yr orsedd, ac rwy’n gweddïo am hynny am flynyddoedd lawer i ddod. Lywydd, a gaf fi ofyn i lythyr gael ei anfon at ein Brenhines ar ran Aelodau’r Senedd yn estyn ein llongyfarchiadau diffuant a diolchgar? Diolch, a hir oes i'r Frenhines.