8. Dadl Plaid Cymru: Stelcio

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:46 pm ar 2 Chwefror 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 5:46, 2 Chwefror 2022

Fel rydym ni newydd glywed, mae stelcian yn brofiad trawmatig i'r rhai sy'n ei brofi fo ac yn ei oroesi. Yn aml, mae'r effaith seicolegol enfawr yma yn arwain at iselder, pryder a straen. Credir bod tua hanner goroeswyr stelcian yn cael trafferth efo PTSD, straen, pryder a bod yn or-wyliadwrus.

Yn y pen draw, effaith stelcian ydy cwtogi yn sylweddol ar ryddid unigolyn arall, gan adael y teimlad eu bod nhw'n gorfod bod yn ofalus drwy'r amser. Yn aml, mae'n rhaid i unigolion sy'n cael eu stelcio adael eu cartref, golli gwaith neu roi'r gorau i weithio, i'w hysgol a'r coleg. Ar ben hyn, mae stelcian yn aml yn digwydd dros gyfnod hir, felly mae'r person yn byw mewn gofid neu ofn yn gyson. Ar gyfartaledd, bydd unigolyn yn cael ei stelcio am gyfnod rhwng chwe mis a dwy flynedd. 

Dydy o ddim yn syndod, o gofio hynny, felly, fod 94 y cant o ddioddefwyr stelcian yn dweud ei fod yn effeithio ar eu hiechyd meddwl. Mae 80 y cant o oroeswyr stelcian yn profi symptomau sy'n gyson â PTSD yn sgil cael eu stelcio. Mae'r pandemig a'r straen sy'n deillio ohono fo, a llai o fynediad at gymorth a gwasanaethau iechyd, wedi gwaethygu effaith stelcian ar iechyd meddwl goroeswyr. Rhaid i ni, felly, sicrhau bod cymorth arbenigol a chynhwysfawr ar gael i oroeswyr stelcian a bod yr hyfforddiant priodol ar gael ar gyfer yr heddlu a gweithwyr proffesiynol. 

Mae stelcian, fel aflonyddu rhywiol, yn effeithio ar ferched llawer mwy na dynion. Mae un o bob pump o ferched wedi dioddef stelcian, sy'n arwydd o'r gymdeithas batriarchaidd rydyn ni'n rhan ohoni hi, lle mae grym a phŵer yn gorwedd yn nwylo un rhan o'r boblogaeth ar draul y llall. Mae stelcian, aflonyddu rhywiol a'r defnydd o drais yn erbyn merched yn deillio o anghydbwysedd pŵer strwythurol, hanesyddol.

Rydw i'n credu bod merched fy nghenhedlaeth i wedi cadw'n rhy dawel am y mater yma, ac wedi cadw'n rhy dawel yn rhy hir, er bod y rhan fwyaf ohonom ni wedi dioddef yn ei sgil yn ystod ein bywydau ni. Felly, mae'n bryd i ni, fel merched o bob oed, ddweud 'Digon yw digon—na i stelcian, na i aflonyddu rhywiol, na i drais a cham-drin domestig.' Mae'n bryd i ni sefyll efo'n gilydd i dynnu sylw at bob gweithred amhriodol, yn cynnwys pob gweithred o stelcian, a dweud 'Dim mwy' efo llais unedig. Yn fwy na hynny, mae'n rhaid i ni fynnu bod yr asiantaethau, yr heddlu a'r llysoedd yn cymryd stelcian o ddifrif. Dwi'n credu mai dyna ydy'r neges glir rydyn ni'n ei chlywed o'r Senedd genedlaethol yma heddiw. Diolch.