1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 8 Chwefror 2022.
1. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r cyllid y bydd Cymru'n ei gael gan Lywodraeth y DU i gymryd lle cyllid yr Undeb Ewropeaidd? OQ57608
Llywydd, bydd Cymru'n cael llawer llai o arian gan Lywodraeth y DU o'i gymharu â'r hyn a gawsom gan yr Undeb Ewropeaidd ac y byddem ni wedi ei gael o dan y cylch presennol o gyllid strwythurol. Mae'r warant absoliwt na fyddai Cymru geiniog yn waeth ei byd wedi ei thorri a chefnwyd arni'n gyfan gwbl.
Diolch, Prif Weinidog. Mae Llywodraeth Dorïaidd y DU wedi cyfaddef o'r diwedd na fydd yn rhoi cyllid yn lle cyllid yr UE yn llawn i Gymru am dair blynedd. Mae hyn er i Boris ddweud yn gyson na fyddai pobl Cymru geiniog yn dlotach ar ôl i'r DU ymadael â'r Undeb Ewropeaidd. Boris yn economaidd o ran dweud y gwir—pwy fyddai wedi meddwl? Wrth i'r Cymry ddisgwyl colli £1 biliwn y flwyddyn, mae Boris a'i Lywodraeth Dorïaidd yn gadael i dwyllwyr gerdded yn rhydd gydag arian cyhoeddus—gwerth £4.3 biliwn o arian a gafwyd yn dwyllodrus drwy gynlluniau cymorth coronafeirws, mae'r Torïaid newydd ddileu dyledion unrhyw gontractau ffrindgarwch. Prif Weinidog, gwnaeth y Western Mail sylwadau yn ei olygyddol yr wythnos diwethaf,
'Unwaith eto, ein cymunedau tlotaf sydd fwyaf tebygol o fod ar eu colled'.
Mae'r cymunedau tlotach hynny yn gymunedau fel Rhisga, Trecelyn a Crosskeys—tapestri o drefi sy'n ffurfio etholaeth Islwyn. Prif Weinidog, beth all Llywodraeth Lafur Cymru ei wneud i sefyll dros Islwyn a sefyll dros Gymru, ar ochr y Cymry, tra bod Llywodraeth Dorïaidd y DU yn ochri â'u cyfeillion twyllodrus?
Llywydd, rwy'n credu bod gwerth atgoffa pawb beth ddywedodd y Blaid Geidwadol yn ei maniffesto yn etholiad cyffredinol mis Rhagfyr 2019, ac y gwnaethon nhw ei ailadrodd yng nghyhoeddiadau cynhwysfawr yr adolygiad o wariant ym mis Hydref y llynedd. Dyma y gwnaethon nhw ei ddweud:
'Bydd Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU o leiaf'
—o leiaf, Llywydd—
'yn cyfateb i faint Cronfeydd yr UE ym mhob gwlad, a Chernyw, bob blwyddyn.'
Wel, byddai Cymru wedi cael £375 miliwn o gyllid yn y flwyddyn galendr hon o gronfeydd strwythurol Ewropeaidd. Beth fyddwn ni'n ei gael mewn gwirionedd? 47 miliwn o bunnau. Sut y mae unrhyw un, Llywydd, yn credu bod £47 miliwn, pan fyddem ni wedi cael £375 miliwn, yn cyfateb o leiaf i faint cronfeydd yr UE bob blwyddyn? Ac, wrth gwrs, mae Rhianon Passmore yn iawn bod yr addewid hwnnw, y warant absoliwt honno, fel y dywedwyd wrthym yn y Siambr yma, wedi ei gefnu arno yn llwyr. Mae Llywodraeth y DU yn dweud bellach y bydd yn cyfrif tuag at yr arian y bydd yn ei roi i ni, arian yr ydym ni wedi ei gael eisoes gan yr Undeb Ewropeaidd. Nawr, nid wyf i'n dweud dim am ddefnydd twyllodrus o arian, ond rwy'n dweud yn sicr iawn fod y ddadl honno yn dwyllodrus—nid yw'r ddadl y gallwch chi gyfrif arian sydd gennych eisoes tuag at arian y gwnaethon nhw addo y bydden nhw yn ei roi i ni, yn disgrifio'n gywir yr hyn sy'n digwydd yn y fan yma.
Nawr, beth fydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud? Wel, Llywydd, yr hyn y byddwn yn bendant yn ei wneud yw parhau i gynnal safonau gwahanol yma yng Nghymru i'r hyn yr ydym wedi ei weld dros ein ffin. Bydd yr Aelodau yn fan yma yn cofio ym mis Ebrill y llynedd y cyhoeddodd yr archwilydd cyffredinol adroddiad cynhwysfawr ar ddarpariaeth a chaffael Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) yma yng Nghymru. Dywedodd yr adroddiad ei fod wedi dangos sut yr oeddem ni yng Nghymru wedi gallu osgoi'r problemau y cawson nhw eu hadrodd yn Lloegr. Wel, ar ben y £4.3 miliwn a gafodd ei golli drwy dwyll o gronfeydd busnes—cofiwch yr hyn a ddywedodd yr Arglwydd Agnew:
'gwrthodiad "gresynus", "truenus", "enbyd o annigonol" gan Lywodraeth y DU i fynd i'r afael â thwyll'— yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd y Swyddfa Archwilio Genedlaethol yn Lloegr ei hadroddiad ar gaffael PPE yn Lloegr. Dywedodd y rheolwr cyffredinol nad oedd wedi gallu cael sicrwydd nad oedd lefel sylweddol o'r golled o bron i £9 biliwn a gafodd ei golli ar PPE yn Lloegr, o ganlyniad i dwyll. Wel, dyna chi, Llywydd: cymhariaeth uniongyrchol iawn, iawn â'r ffordd y mae pethau wedi eu gwneud yng Nghymru. Mae'r arian hwnnw wedyn ar gael i ni fuddsoddi mewn cefnogi busnesau, i gefnogi'r cymunedau yn etholaeth Islwyn, o'i gymharu â'r ffyrdd y mae pethau wedi eu gwneud dros ein ffin.
Prif Weinidog, dwi'n cytuno ei bod yn hollol hanfodol nad yw Cymru'n cael llai o gyllid nag a oedd ganddi pan oeddem ni yn yr Undeb Ewropeaidd. Ac, fel Cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, gallaf eich sicrhau y byddwn ni yn craffu ar y mater hwn yn ofalus iawn yn yr wythnosau a misoedd sydd i ddod. Nawr, y mis diwethaf, cyhoeddwyd y byddai strwythurau newydd yn cael eu sefydlu rhwng Llywodraethau'r Deyrnas Unedig i drafod materion sy'n effeithio ar bobl ledled y Deyrnas Unedig, yn enwedig lle maent yn torri ar draws polisïau gwahanol y Seneddau. Felly, Prif Weinidog, a allwch chi ddweud wrthym ni pa rôl y gallai'r strwythurau hyn ei chwarae i sicrhau bod Cymru'n cael y lefel gywir o gymorth ariannol unwaith y daw cyllid yr Undeb Ewropeaidd i ben?
Wel, Llywydd, diolch yn fawr i Paul Davies am beth ddywedodd e, fel Cadeirydd y pwyllgor, a dwi'n edrych ymlaen at y gwaith y bydd y pwyllgor yn ei wneud i'n helpu ni gyd i wneud yr achos i'r Trysorlys i wneud beth ddywedodd y Ceidwadwyr yn eu maniffesto nhw yn ystod yr etholiad cyffredinol diwethaf. Dwi ddim yn meddwl bod unrhyw amheuaeth nawr eu bod nhw wedi symud yn ôl o beth roedden nhw'n addo, a bydd y gwaith pwyllgor yn help, dwi'n siwr, i ail-wneud yr achos i Lywodraeth y Deyrnas Unedig i ariannu Cymru fel roedden nhw wedi dweud.
So, mae system newydd wedi dod i rym i'n helpu ni i drafod pethau dros y Deyrnas Unedig. Dyw hwnna ddim wedi digwydd eto, ac, wrth gwrs, mae'r pethau sydd wedi digwydd yng Ngogledd Iwerddon dros yr wythnos ddiwethaf yn rhoi rhyw fath o gymhlethdod i mewn i drefnu pethau heb gael Gogledd Iwerddon wrth y bwrdd. Dwi'n edrych ymlaen at weld pryd fydd cyfarfod cyntaf y system newydd yn cael ei drefnu, achos bydd hwnna yn gyfle i ni wneud y pwyntiau dwi wedi eu gwneud heddiw, ac mae'r Gweinidogion yn y Llywodraeth yma yng Nghymru yn eu gwneud bob tro y gallwn ni, i'r Gweinidogion yn Llywodraeth y Deyrnas Unedig.
Mae'n ddiddorol iawn darllen Papur Gwyn y gronfa codi'r gwastad, onid yw, Prif Weinidog, gyda chyfeiriadau at Renaissance Florence, ymerodraeth Fysantaidd Jericho, os nad dim byd arall, ond mae hefyd yn cyfeirio at y codi'r gwastad a ddigwyddodd yn yr Almaen ar ôl yr ailuno, gan esbonio bod £1.7 triliwn wedi ei wario yno hyd at 2014, sef £71 biliwn y flwyddyn dros 24 mlynedd. Nid yw'r gronfa codi'r gwastad a'r gronfa ffyniant gyffredin gyda'i gilydd yn darparu ar gyfer hyd yn oed 10 y cant o'r lefel honno o gyllid. Fel yr ydych chi newydd ei nodi, Prif Weinidog, bydd Cymru £1 biliwn yn waeth ei byd o dan y cynlluniau hyn nag y byddem ni pe na baem ni wedi ymadael â'r UE, er gwaethaf yr addewidion gan y Torïaid na fyddem ni geiniog yn waeth ein byd. Ond, yn ogystal â hynny, mae'n fater o sut y caiff yr arian hwn ei wario. Bydd yr oruchwyliaeth strategol a gawsom gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru yn diflannu ac yn ei lle daw proses o roi arian y llywodraeth i brosiectau er mwyn ennill pleidleisiau, a bydd cynghorau yn mynd yn erbyn ei gilydd mewn brwydr i gael arian o San Steffan. Felly, Prif Weinidog, a ydych chi'n cytuno â mi nad yw'r agenda codi'r gwastad yn ddim mwy na sbin gwleidyddol, pan fo'r Torïaid mewn gwirionedd yn lleihau lefel y cyllid strwythurol ac yn ein hamddifadu ni o'r gallu i'w wario'n strategol?
Wel, Llywydd, rwy'n credu bod Delyth Jewell wedi gwneud y pwyntiau yna'n rymus iawn ac rwy'n cytuno â nhw i gyd. Mae Papur Gwyn 'Codi'r Gwastad' yn ddogfen ddigyfaill, hyd yn oed gan yr Ysgrifennydd Gwladol y mae ei enw ar y clawr. Mae'r ymgais i ymestyn yn bell ac yn eang ar draws niwl amser, yn fy marn i, yn ddim byd ond arwydd o'r diffyg cynnwys gwirioneddol a oedd yna ar gyfer hyn, er gwaethaf y ffaith bod y gronfa codi'r gwastad hon, y gronfa ffyniant gyffredin, wedi ei hyrwyddo gan y Blaid Geidwadol ers 2017. Maen nhw wedi cael blynyddoedd pan allen nhw fod wedi cynhyrchu rhywbeth a oedd yn cyfateb i'w haddewidion. Yr hyn sydd gennym ni yn lle hynny yw dogfen denau iawn yn wir—yn denau o ran arian am fod y Trysorlys wedi gwrthod darparu'r arian angenrheidiol i'w chefnogi, ac yn denau iawn o ran ymateb i'w honiadau ei fod yn ymwneud â throsglwyddo grym a phrosesau gwneud penderfyniadau y tu hwnt i Whitehall oherwydd, fel y dywedodd Delyth Jewell, bydd pob un penderfyniad a gaiff ei wneud ynghylch sut y caiff arian ei wario yng Nghymru yn cael ei wneud yn San Steffan, nid yn unman arall. Ac mae'r ffordd gystadleuol honno o osod un rhan o Gymru yn erbyn un arall er mwyn gwneud cais am yr hyn sy'n weddill ar y bwrdd yn y gronfa hon yn sicr o olygu nad yw'r arian yn cael ei wario'n briodol. Ni fydd cynllun strategol y tu ôl iddo. Bydd yn gyfres o fân dalpiau o arian a gaiff eu dosbarthu ar sail y mae'n anodd iawn dod o hyd i unrhyw resymeg wirioneddol iddi yn aml, a heb unrhyw synnwyr o gwbl ynghylch sut y bydd unrhyw effaith hirdymor o'r buddsoddiad hwnnw yn cael ei sicrhau i'r cyhoedd yng Nghymru.