1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 8 Chwefror 2022.
2. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch yr argyfwng costau byw? OQ57603
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna, Llywydd. Rydym wedi galw dro ar ôl tro ar Lywodraeth y DU i weithredu i atal yr argyfwng y maen nhw eu hunain yn gyfrifol amdano. Mae degawd o gyni wedi gadael llawer mwy o bobl mewn tlodi ac yn methu â rheoli'r sefyllfa y maen nhw ynddi bellach.
Wel, Prif Weinidog, rydych chi'n iawn, ac rwy'n ei weld o ddydd i ddydd yn Ogwr—ac rwy'n siŵr bod pob Aelod yma, ni waeth beth fo'i ymlyniad gwleidyddol—oherwydd bod teuluoedd yn Ogwr bellach yn wynebu sawl ergyd. Mae'n argyfwng costau byw wedi ei achosi gan bolisïau Llywodraeth Geidwadol y DU. Mae'r toriad i gredyd cynhwysol wedi effeithio ar ddegau o filoedd o deuluoedd ledled Cymru. Mae cyflwyno'r rhaglen Way2Work, sy'n lleihau'r amser sydd gan bobl i ddod o hyd i swydd yn eu maes sgiliau a phrofiad o dri mis i bedair wythnos yn unig, yn golygu y bydd pobl bellach yn wynebu sancsiynau cyn bod cymorth ariannol ar waith. Ac nid dyna'r diwedd. Mae aelwydydd yn wynebu'r pwysau pellgyrhaeddol cynyddol yr ydym ni i gyd yn gwybod amdanyn nhw: mae cost y siopa wythnosol yn cynyddu, mae'r costau ynni'n cynyddu, ac mae gennym ni fwy o godiadau treth ar y ffordd diolch i Lywodraeth Geidwadol y DU. Mae hyn yn mynd i wneud pethau'n waeth. Nid rhethreg yw'r dewis rhwng gwresogi a bwyta; mae'n realiti erbyn hyn. A ydych chi'n cytuno â mi, Prif Weinidog, fod ad-daliad biliau ynni trwy drefniant prynu nawr a thalu wedyn y Canghellor—fel y mae prif weithredwr Cyngor ar Bopeth wedi ei ddisgrifio—yn llwytho'r baich ar y rhai hynny sy'n gallu ei fforddio leiaf?
Wel, Llywydd, rwy'n cytuno'n llwyr â Huw Irranca-Davies mai dyna ganlyniad anochel camreoli economi'r DU—caiff costau'r camreoli hwnnw eu llwytho ar y bobl hynny na allan nhw fforddio ysgwyddo'r baich hwnnw. A gaf i godi dau bwynt o'r nifer mawr o bwyntiau pwerus a wnaeth yr Aelod? Rwy'n falch iawn ei fod wedi cyfeirio at y rhaglen Way2Work, oherwydd nid wyf yn credu fy mod i wedi clywed y rhaglen hon yn cael ei thrafod ar lawr y Senedd, ac mae'n haeddu trafodaeth o'r fath. Rydym eisoes wedi gweld effaith y toriad o £20 mewn credyd cynhwysol ar gyfer teuluoedd yma yng Nghymru, un o'r penderfyniadau mwyaf creulon yr wyf i'n credu y mae unrhyw Lywodraeth wedi ei wneud yn ystod y 70 mlynedd diwethaf. Mae'n rhaid i chi fynd yn ôl cyn y rhyfel i'r 1930au i ddod o hyd i Lywodraeth a oedd yn fwriadol ac yn bwrpasol yn cymryd arian ar y raddfa honno allan o bocedi aelwydydd a oedd ei angen fwyaf. Yn ein cronfa cymorth dewisol ni, lle rydym ni wedi gallu ymestyn y meini prawf i helpu teuluoedd, oherwydd credyd cynhwysol, y mis diwethaf roedd 57 y cant o'r holl geisiadau o ganlyniad i'r ffaith nad oedd pobl yn gallu ymdopi heb yr £20 yr wythnos ychwanegol hwnnw. Mae'n raddfa syfrdanol o drallod sydd wedi ei hachosi gan y penderfyniad hwnnw. A nawr, ar ben hynny, fel y dywedodd Huw Irranca-Davies, mae gennym ni'r cyhoeddiad hwnnw a gafodd ei smyglo allan, mai dim ond pedair wythnos fydd gan bobl yn y dyfodol i ddod o hyd i swydd y mae ganddyn nhw'r sgiliau, y profiad a'r gallu i'w chyflawni. Mae'n cymryd pum wythnos i gael taliad credyd cynhwysol, ac rwy'n credu bod Aelodau yma hyd yn oed—Aelodau Ceidwadol yma—a bwysodd, yn gynharach y llynedd, ar y Canghellor i leihau'r amser aros hwnnw. Felly, mae'n cymryd pum wythnos i chi aros am daliad, a phedair wythnos i aros i gael eich cosbi. Rwy'n credu bod hynny'n dweud popeth y mae angen i chi ei wybod am le mae blaenoriaethau Llywodraeth y DU.
Yr ail bwynt a wnaeth Huw Irranca-Davies yr oeddwn i'n dymuno rhoi sylw iddo, Llywydd, oedd y cynllun prynu nawr a thalu wedyn. Felly, dyma ni: y cymorth y bydd pobl yn ei gael gyda'u biliau yw y byddan nhw eu hunain yn talu'n hwyrach yn lle talu nawr. Nawr, efallai eich bod wedi meddwl, pe baech chi wedi gwrando ar y ffordd y soniodd Gweinidogion y DU amdano, y bydd y cymorth hwn ar gael i bobl yn ystod yr wythnosau nesaf. Bydd yn fis Hydref mewn gwirionedd. Bydd yn fis Hydref cyn i'r cymorth hwnnw gael ei ddarparu. Ac rwy'n clywed Ofgem yn dweud eu bod yn bwriadu byrhau'r cyfnod ar gyfer ailedrych ar y terfyn uchaf ar brisiau o chwe mis i dri mis, sy'n golygu, o bosibl, y bydd dau godiad arall mewn biliau tanwydd cyn i bobl hyd yn oed cael y cymorth y mae'r Canghellor wedi ei gyhoeddi hyd yn hyn, ac yna bydd yn rhaid iddyn nhw ei dalu'n ôl. Nid yw hynny'n swnio i mi fel rhywbeth sy'n debygol o gael ei groesawu'n gyffredinol gan bobl sy'n ei chael yn anodd, nid yn unig o ran biliau tanwydd, ond o ran cyfraniadau yswiriant gwladol, gyda phrisiau bwyd yn codi, gyda chwyddiant yn 7 y cant. Mae'r rhain i gyd yn golygu y bydd cyfnod anodd iawn o flaen y teuluoedd yn Ogwr, ac rwy'n gwybod y bydd eu cynrychiolydd yn y Senedd yn bryderus iawn ynghylch hyn.
Diolch i'r Aelod dros Ogwr am godi'r mater pwysig hwn, er nad wyf i'n cytuno efallai â'r holl deimladau na'r ffordd y mae'n eu cyflwyno. Ond, yn dilyn y cyhoeddiad sydd i'w groesawu gan y Canghellor am becyn cymorth i helpu pobl gyda chostau byw cynyddol, gan gynnwys cymorth i ymdopi â chostau ynni cynyddol yn ogystal ag ad-daliad y dreth gyngor, bydd Llywodraeth Cymru yn cael tua £175 miliwn o gyllid canlyniadol. Rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno â mi, Prif Weinidog, ei bod yn bwysig defnyddio'r cyllid sylweddol hwn i roi cymorth brys i bobl yn ystod y cyfnod anodd hwn. Pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi ei rhoi i ddarparu ad-daliad treth gyngor i helpu i leihau'r pwysau ar deuluoedd, yn ogystal â chreu cronfa ddewisol er mwyn i awdurdodau lleol ei darparu i'r aelwydydd hynny sydd eisoes yn gymwys i gael gostyngiad i'r dreth gyngor? Diolch.
Wel, Llywydd, diolch i Peter Fox am hynna. Mae'n sôn am becyn cymorth. Rwy'n credu fy mod i eisoes wedi esbonio bod y cymorth ar gyfer biliau tanwydd yn gymorth sy'n caniatáu i chi ohirio'r bil. Nid yw'n rhoi unrhyw arian i chi; mae'n golygu nad oes rhaid i chi dalu'r cyfan ymlaen llaw. Mae'n sôn am gymorth 'brys', a bydd y cymorth hwnnw'n cyrraedd gyda'r holl frys a ddaw fis Hydref nesaf. Cafwyd cynnydd bach o £140 i £150 i'r gostyngiad cartrefi clyd, ond eto nid arian gan y Trysorlys yw hynny; arian yw hynny sy'n mynd ar fil pawb arall, fel rhan o'r costau cymdeithasol ac amgylcheddol y mae'n rhaid i bob defnyddiwr eu talu.
Nawr, rwy'n gwybod y bydd yr Aelod yn ymwybodol iawn na allwch chi gymharu'n uniongyrchol y dreth gyngor yng Nghymru â'r dreth yn Lloegr. Pan fydd gostyngiad y Canghellor o £150 i fil band D yn Lloegr yn cael ei weithredu, bydd treth gyngor band D yn Lloegr yn dal i fod yn uwch na threth gyngor gyfartalog band D yng Nghymru, hyd yn oed ar ôl i gymorth y Canghellor gael ei ddefnyddio. Ac yng Nghymru, mae gennym y cynllun budd-dal y dreth gyngor, y rhoddodd ei Lywodraeth ef yn Lloegr y gorau iddi bron i 10 mlynedd yn ôl—£244 miliwn, Llywydd, ymhell uwchlaw unrhyw swm canlyniadol a byddwn ni'n ei gael, sy'n cael ei ddarparu bob blwyddyn; 220,000 o aelwydydd yng Nghymru nad ydyn nhw'n talu unrhyw dreth gyngor o gwbl. Yr hyn y byddaf yn ei ddweud wrth yr Aelod yw hyn: os byddwn yn cael £175 miliwn i helpu aelwydydd yng Nghymru gyda'r argyfwng costau byw, ar gyfer hynny y caiff yr arian hwnnw ei ddefnyddio, ond caiff ei ddefnyddio mewn ffyrdd sy'n cydnabod y dirwedd bresennol yng Nghymru, y ffaith bod cymorth eisoes ar gael yng Nghymru nad yw'n bodoli dros ein ffin. Byddwn yn dod o hyd i'r ffyrdd mwyaf effeithiol o gael yr arian hwnnw i'r teuluoedd sydd ei angen, a byddwn yn gwneud y penderfyniadau hynny cyn gynted ag y gallwn ni.