Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:50 pm ar 8 Chwefror 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Andrew RT Davies Andrew RT Davies Conservative 1:50, 8 Chwefror 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, os caf i dynnu eich sylw at rywbeth yr ydych yn gyfrifol amdano, sef y bwrdd iechyd yn y gogledd ac adroddiad Coleg Brenhinol y Llawfeddygon ar wasanaethau fasgwlaidd yr wythnos diwethaf a ddatgelodd fod y rhan fwyaf o ddogfennau clinigol yn annarllenadwy neu'n absennol, nad oedd cyfathrebu a chynllunio gofal yn bodoli mewn rhai achosion, ac, mewn un achos, bu'n rhaid i wraig gŵr a oedd wedi cael trychiad ei gario i'r toiled ar ôl iddo gael ei anfon adref heb gynllun gofal, a yw hyn yn dderbyniol, ac, os nad ydyw, a wnewch chi ymddiheuro?