Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:51 pm ar 8 Chwefror 2022.
Nid wyf i'n ystyried bod hynny'n dderbyniol, Llywydd; wrth gwrs ddim. Mae canfyddiadau'r 44 o achosion hynny a adolygodd Coleg Brenhinol y Llawfeddygon yn siomedig iawn, ac maen nhw—fel y dangosodd Andrew R.T. Davies yn ei ateb—yn gamgymeriadau a wnaed gan staff clinigol a fethodd â dilyn yr hyn sy'n ymddangos i mi yn safonau ymarfer proffesiynol sylfaenol. Pan fyddwch chi'n darllen bod diffygion o ran cadw cofnodion, o ran cael caniatâd a dilyn achosion a archwiliwyd, yna mae pob un ohonom yn iawn i bryderu ac i gael ein siomi, a mater i'r bwrdd iechyd yn awr yw sicrhau bod y safonau ymarfer proffesiynol angenrheidiol yn cael eu darparu'n gyson i'r bobl sy'n dibynnu ar y gwasanaeth hwnnw yn y gogledd.