Part of the debate – Senedd Cymru am 5:29 pm ar 8 Chwefror 2022.
A gaf i, yn gyntaf, ddiolch i'r Gweinidog cyllid a'r Llywodraeth am ddod â'r ddadl yma gerbron y Senedd? Mi fyddaf i'n cyfrannu i'r ddadl yma ar ran y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol. O ystyried maint helaeth cylch gorchwyl y pwyllgor, mi wnaf i ffocysu ar y prif bwyntiau rydym wedi eu nodi yn dilyn ein gwaith craffu.
Ers sefydlu'r pwyllgor ym mis Mehefin y llynedd, mae cylch gorchwyl y pwyllgor wedi ei ymestyn i gynnwys cysylltiadau rhyngwladol. Ac er bach yw maint y cyllid sydd wedi ei neilltuo ar gyfer y gwaith hwn, tua £8 miliwn i gyd, mae'n hynod bwysig. Yn sgil Brexit, mae rôl Cymru ar y llwyfan rhyngwladol nawr yn bwysicach nag erioed o'r blaen. Yn anffodus, roedden ni fel pwyllgor yn siomedig â lefel y wybodaeth a oedd wedi'i rhannu gyda ni ar y pwnc hwn. Rwy'n cyfeirio'n benodol at brinder y naratif yn nogfen y gyllideb ddrafft a hefyd y wybodaeth a rannwyd gyda'r pwyllgor fel tystiolaeth ysgrifenedig. Mi wnaeth hyn ein gwaith craffu ni gymaint yn anoddach. Mae tryloywder yn eithriadol o bwysig i'n gwaith craffu ni, felly rydym yn erfyn ar y Llywodraeth i nodi hyn ac i sicrhau ei bod yn fwy agored ac yn darparu mwy o wybodaeth y flwyddyn nesaf.
I droi at chwaraeon, yn ei thystiolaeth ysgrifenedig i'r pwyllgor, dywedodd y Llywodraeth:
'Gall chwaraeon fod yn offeryn iechyd ataliol mwyaf effeithiol y wlad ond mae angen mwy o flaenoriaethu traws-sector i greu'r newidiadau cynaliadwy hirdymor mewn cyfranogiad.'
Er gwaethaf y neges yma, dyw e ddim yn amlwg yn y setliad ariannol ar gyfer chwaraeon. Cynnydd pitw o 1 y cant mewn cyllid refeniw a gostyngiad o 7 y cant yn y gyllideb gyfalaf sydd ar gyfer chwaraeon. 'Nid wy'n gofyn bywyd moethus, aur y byd na'i berlau mân' medd un o emynau enwocaf ein cenedl. Nid ydym ni yn gofyn am holl adnoddau na chyllid y Llywodraeth, ond beth hoffem wybod yw pa weithred sydd yn cynnal y fath ddatganiad. Os oes yna wariant arall mewn adrannau eraill, er enghraifft, yna mae'n bwysig bod y Llywodraeth yn sôn amdano er mwyn cyfiawnhau y naratif pwysig yma wrth inni adfer iechyd ein cenedl, ac, rŷn ni i gyd yn gobeithio, wrth ddod mas o'r pandemig.
Nesaf, hoffwn i sôn am bryder ynghylch toriadau i gyllidebau cyfalaf y llyfrgell a'r amgueddfa genedlaethol. Bydd cyllid cyfalaf ar gyfer y sefydliadau hyn yn gostwng 32 a 33 y cant yn y flwyddyn ariannol nesaf. Fel yr amlinellwyd yn adolygiad wedi'i deilwra y llyfrgell genedlaethol, rhagwelir y bydd angen hyd at £26 miliwn mewn cyllid cyfalaf i wneud gwaith cynnal a chadw a gwelliannau angenrheidiol i'r llyfrgell. Mae'r ddau sefydliad hyn yn drysorau mawr i'n cenedl. Rydym ni fel pwyllgor yn bryderus yr hiraf y bydd yn ei gymryd i gwblhau gwaith cyfalaf, yr hiraf y gallai rhai o gasgliadau pwysicaf y genedl fod dan fygythiad. Felly, 'cadarna'r mur po arwa'r garreg' yw ein neges i'r Llywodraeth. Rydym yn erfyn arnoch i amlinellu sut y byddwch yn darparu'r adnodd angenrheidiol i'r ddau sefydliad i sicrhau eu bod yn medru parhau i warchod trysorau'r genedl.
I orffen, Ddirprwy Lywydd, o ran yr iaith Gymraeg, rydym ni fel pwyllgor yn croesawu'n fawr y cyllid ychwanegol ar gyfer y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Fodd bynnag, rydym o'r farn mai’r ffordd orau o sicrhau bod plant yn cydio yn yr iaith yn llawn, ac felly yn gadael yr ysgol yn rhugl yn y Gymraeg, yw eu bod yn cael eu trochi yn yr iaith o oedran cynnar iawn. Mae hyn yn golygu buddsoddiad sylweddol yn narpariaeth y blynyddoedd cynnar a throsglwyddiad iaith. I'r perwyl hwn, fe fydd hi'n bwysig i'r Llywodraeth esbonio goblygiadau o ran adnoddau er mwyn cyrraedd y targed o agor 60 o gylchoedd meithrin ychwanegol yn ystod tymor y Senedd hon. A chawn weld, wedi cyhoeddi canlyniadau'r cyfrifiad diweddar, faint o waith fydd i'w wneud eto er mwyn cyrraedd targed 2050. Diolch yn fawr iawn.