10. Dadl Fer: Po fwyaf rwy’n ymarfer, y mwyaf lwcus yr ydw i: Cyfleusterau chwaraeon yn ein cymunedau gwledig

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:35 pm ar 9 Chwefror 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mabon ap Gwynfor Mabon ap Gwynfor Plaid Cymru 5:35, 9 Chwefror 2022

Cefais y pleser o fynd i siarad efo criw o ddisgyblion Ysgol Glan y Môr, Pwllheli, tua 10 niwrnod yn ôl—sôn am bobl wybodus, chwilfrydig a serchog. Roedd hi'n bleser cael bod yn eu cwmni. Ta waeth, dyma un ohonyn nhw, Elan Davies, yn gofyn i fi:

'Dwi wrth fy modd efo chwaraeon'— meddai Elan—

'ond yn gweld diffyg cyfleoedd cyfartal i ferched. Pa gyfleoedd ydych chi'n eu gweld sydd i ferched yng Nghymru ym myd chwaraeon, a thu hwnt i hynny, yn eu bywydau o ddydd i ddydd?'

Nid pwynt gwleidyddol er mwyn ennill pwyntiau gwleidyddol oedd hyn gan Elan, ond profiad byw go iawn ein pobl ifanc yng nghefn gwlad Cymru heddiw, ac—a gadewch imi gael y dudalen iawn—mae'n siarad i'r gwelliant a gyflwynodd Heledd Fychan i ddadl yma ar lawr y Senedd ynghylch chwaraeon nôl ym mis Mehefin. Ac mae Elan yn dweud y gwir. Yn fuan ar ôl i mi gael fy ethol, fe gysylltodd clwb pêl-droed merched Porthmadog â fi, a gofyn am unrhyw gymorth posib er mwyn gwella'r adnoddau oedd ar eu cyfer nhw yn Port, gan nad oedd ganddyn nhw gae chwarae 3G, ac yn aml iawn yn y gaeaf roedd yn rhaid atal ymarferion a mynd i chwarae yn rhywle arall gan fod y cae yn llawer yn rhy fwdlyd. 

Neu beth am nofio? Mae gennym ni glybiau nofio rhagorol yn y gogledd, ac mae rhai o'r hyfforddwyr yn dweud wrthyf fi fod yna dalent aruthrol yn y gogledd. Ond os ydy un ohonyn nhw am gyrraedd safon cystadlu uwch, yna mae'n rhaid iddyn nhw deithio lawr i Abertawe, a'r teulu oll yn gorfod mynd lawr am amser maith dros benwythnos hir a thalu am westy a thalu am aros yn Abertawe ar gyfer cyfnod yr hyfforddi. Pam hynny? Oherwydd nad oes gennym ni bwll nofio maint Olympaidd yn y gogledd, ac mae'n rhaid cael adnodd o'r fath er mwyn medru mynd a chystadlu ar lefel uwch.

Mae Dwyfor Meirionnydd, yn wir mae Cymru yn ffodus iawn i gael traethau lu a hardd efo llanw a thrai a surf, ac sydd yn cael eu hadnabod i fod ymhlith y traethau gorau ar gyfer syrffio. Ond er mwyn sicrhau bod y dalent leol yma yn medru cyrraedd y lefel nesaf, a gweld mwy o bobl yn syrffio yng Nghymru ac yn cystadlu ar lefel ryngwladol, mae'n rhaid sicrhau hyfforddwyr ac mae'n rhaid i bobl o bob cefndir gael mynediad i'r gamp.

Yn yr un modd, seiclo—boed yn seiclo ffordd neu'n seiclo mynydd, a phob math arall. Mae gennym ni record i ymfalchïo ynddo yma yng Nghymru, gyda chlybiau seiclo newydd wedi datblygu yn sgil llwyddiannau Geraint Thomas. Ces i'r fraint o ymweld â chanolfan ragorol Beicio Dyfi, yr Athertons, yn fy etholaeth yn ddiweddar, sydd yn denu miloedd o bobl ar draws Cymru, heb sôn, wrth gwrs, am y gwaith gwych gan Antur Stiniog neu yng Nghoed y Brenin yn Nwyfor Meirionnydd.

Mae gennym ni dirwedd ac adnoddau rhagorol, ond mae'n broses ddrud, ac mae llawer o bobl yn methu â chael mynediad i feicio oherwydd eu hamgylchiadau ariannol. Mae'n rhaid sicrhau bod pobl yn medru cael mynediad i'r meysydd yma i gychwyn, er mwyn cael blas ar y maes, yna'n medru ymarfer, perffeithio'u dawn a mynd ymlaen i bethau mwy.

Yr enghraifft amlycaf, wrth gwrs, o'r methiant ydy'r methiant i sefydlu rhanbarth rygbi cystadleuol yn y gogledd, a chreu llwybr clir i dalent leol fedru datblygu drwy'r rhengoedd. Mae yna blant a phobl ifanc efo doniau di-ri yng Nghymru wledig, o baffio, i nofio, i bêl-droed, ond yn amlach na pheidio, dyw'r adnoddau angenrheidiol ddim wedi cael eu rhoi i mewn, a dydy'r doniau yma ddim yn medru cyrraedd eu llawn botensial. Wrth gwrs, mae'r rhesymeg o blaid gwneud y buddsoddiad yma yn fwy o lawer na chwilio am fri a chlod lleol. Fel y clywsom yn y ddadl ar ordewdra yr wythnos diwethaf, mae yna fuddiannau iechyd lu i'w cael o ddatblygu adnoddau chwaraeon yn ein cymunedau gwledig hefyd. 

Rŵan, gadewch inni edrych ar Norwy am ysbrydoliaeth. Mae Norwy wedi dechrau cynhyrchu llu o athletwyr llwyddiannus. Nid yn unig eu bod nhw'n debygol o guro yn y Gemau Olympaidd y Gaeaf yn Beijing eleni, ond mae ganddyn nhw chwaraewyr tenis, golff, pêl-droed, ac eraill yn dod i'r fei. Sut? Oherwydd yn Norwy maen nhw'n gweithredu polisi 'pleser chwaraeon i bawb'—the joy of sports for all—gyda phlant yn cael eu hannog i gymryd rhan mewn cymaint o chwaraeon â phosib, a phrisiau cymryd rhan yn cael eu cadw'n isel gan y Llywodraeth. Ymhellach i hyn, dengys gwaith ymchwil yn Norwy fod datblygu rhaglenni chwaraeon yn y cymunedau gwledig wedi denu merched ifanc o gefndiroedd sosioeconomaidd difreintiedig, gan roi cyfleon i bobl na fyddai wedi eu cael ffordd arall.

Felly, dwi'n croesawu cyhoeddiad y Gweinidog fis diwethaf ynghylch y buddsoddiad o rai miliynau o bunnoedd fydd yn cael ei roi mewn, er enghraifft, meysydd 3G, ac, yn wir, dwi'n disgwyl clywed y datganiad yna'n cael ei gyhoeddi unwaith eto yma heddiw, ond dwi'n gobeithio y gwnaiff y Gweinidog sicrhau bod canran teg o'r pres yma am gael ei wario ar adnoddau yn y cymunedau gwledig. Hoffwn i hefyd glywed pa gynlluniau uchelgeisiol sydd efo'r Llywodraeth er mwyn cynorthwyo â datblygu pwll nofio maint Olympaidd, neu felodrom, neu ddatblygu canolfan ar gyfer chwaraeon yn ymwneud â'r môr yn ein cymunedau gwledig. Beth ydy uchelgais y Llywodraeth er mwyn sicrhau bod yna lwybr clir ar gael i blant Cymru er mwyn medru dilyn eu breuddwydion a datblygu eu doniau cynhenid?

Fe hoffwn glywed yn benodol ateb y Gweinidog i gwestiwn Elan: pa gyfleoedd ydych chi'n eu gweld sydd i ferched yng Nghymru, ac yng Nghymru wledig yn enwedig, ym myd chwaraeon a thu hwnt i hynny yn eu bywydau o ddydd i ddydd? Ac yn olaf, a wnaiff y Gweinidog ymuno â fi ac Elan ar ymweliad efo un o gymunedau Dwyfor Meirionnydd—efallai Pwllheli, cymuned Elan ei hun—er mwyn gweld y dalent ryfeddol sydd gennym ni yno, er mwyn gweld yr anghenion buddsoddi? Diolch yn fawr iawn.