Part of the debate – Senedd Cymru am 5:33 pm ar 9 Chwefror 2022.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Dwi wedi cytuno i bum Aelod arall gymryd rhan yn y drafodaeth wedyn. Mae James Evans, Sam Kurtz, Jane Dodds, Sam Rowlands a Laura Anne Jones wedi mynegi diddordeb i gyfrannu, a dwi'n ddiolchgar iddyn nhw am hynny.
Llywydd, nid yn aml mae Aelod yn cael cyfle i gyflwyno dadleuon ar lawr ein Senedd, a heddiw dwi'n cael y fraint o gyflwyno dwy ddadl ar faterion gwahanol iawn, ond eto pwysig i fy etholwyr i yn Nwyfor Meirionnydd, ac yn wir i bobl drwy Gymru benbaladr. Dwi'n ddiolchgar nad oes yna bleidlais ar ddiwedd hyn, felly byddaf i ddim yn crio drwy'r nos yn dilyn canlyniad y bleidlais ddiwethaf. [Chwerthin.]
Ond i fynd ymlaen at y teitl: 'Po fwyaf dwi'n ymarfer, y mwyaf lwcus yr ydw i'. Dyna ydy pennawd y ddadl yma heddiw. Mae'n siŵr eich bod chi gyd wedi dod ar draws y dywediad yma ar ryw ffurf neu'i gilydd dros y blynyddoedd. Mae'n ansicr, mewn gwirionedd, beth ydy gwraidd y dywediad, ond dywed rhai mai Gary Palmer ydy awdur y dywediad, a'i bathodd e mewn gwirionedd. Ond pwy bynnag ddaru fathu'r dywediad, mae'n berffaith glir beth ydy'r neges: os am lwyddo mewn unrhyw faes, yn enwedig chwaraeon, mae'n rhaid ymarfer, ymarfer ac ymarfer er mwyn perffeithio eich crefft. Daw hyn â fi at grynswth y ddadl yma, sef y diffyg adnoddau sydd yn ein cymunedau gwledig er mwyn galluogi pobl i berffeithio eu dawn a mynd ymlaen i gystadlu ar y lefel uchaf.
Er mwyn medru ymarfer a pherffeithio dawn, mae'n rhaid wrth adnoddau; mae'n sefyll i reswm. Rŵan, bydd rhai yn pwyntio allan i rai arwyr athletaidd a ddaeth o gefndir difreintiedig cyn llwyddo yn eu maes lwyddo, a hynny er gwaethaf y cefndir yna, ac mae yna enghreifftiau clodwiw o bobl o'r fath. Ond, ar y cyfan, eithriadau ydy'r bobl yma. Dydy o ddim syndod mai'r gwledydd sy'n buddsoddi fwyaf yn eu hadnoddau ac yn eu hathletwyr sydd yn llwyddo i ennill y medalau ym mha bynnag faes. Mae'r un yn wir ar bob lefel, boed yn chwaraeon rhyngwladol neu ar y lefel mwyaf lleol. I unrhyw un sydd yn amau gwerth buddsoddiadau bach, rhaid ichi ond dilyn yr hyfforddwr seiclo llwyddiannus o Ddeiniolen, David Brailsford, a oedd yn hyrwyddo yr enillion ymylol—y marginal gains. Mae'r pethau bychan, chwedl Dewi Sant, yn gwneud gwahaniaeth.