– Senedd Cymru am 5:32 pm ar 9 Chwefror 2022.
Mi fyddwn ni'n symud ymlaen nawr, achos mae darn o waith eto i'w gwblhau: y ddadl fer y prynhawn yma gan Mabon ap Gwynfor ar y testun, 'Po fwyaf rwy'n ymarfer, y mwyaf lwcus yr ydw i: cyfleusterau chwaraeon yn ein cymunedau gwledig'. Felly, dwi'n galw ar Mabon ap Gwynfor i gyflwyno'i ddadl, a dwi'n galw ar Aelodau, os ydyn nhw'n gadael y Siambr—
Os oes Aelodau'n gadael y Siambr, gwnewch hynny'n dawel. Mabon ap Gwynfor.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Dwi wedi cytuno i bum Aelod arall gymryd rhan yn y drafodaeth wedyn. Mae James Evans, Sam Kurtz, Jane Dodds, Sam Rowlands a Laura Anne Jones wedi mynegi diddordeb i gyfrannu, a dwi'n ddiolchgar iddyn nhw am hynny.
Llywydd, nid yn aml mae Aelod yn cael cyfle i gyflwyno dadleuon ar lawr ein Senedd, a heddiw dwi'n cael y fraint o gyflwyno dwy ddadl ar faterion gwahanol iawn, ond eto pwysig i fy etholwyr i yn Nwyfor Meirionnydd, ac yn wir i bobl drwy Gymru benbaladr. Dwi'n ddiolchgar nad oes yna bleidlais ar ddiwedd hyn, felly byddaf i ddim yn crio drwy'r nos yn dilyn canlyniad y bleidlais ddiwethaf. [Chwerthin.]
Ond i fynd ymlaen at y teitl: 'Po fwyaf dwi'n ymarfer, y mwyaf lwcus yr ydw i'. Dyna ydy pennawd y ddadl yma heddiw. Mae'n siŵr eich bod chi gyd wedi dod ar draws y dywediad yma ar ryw ffurf neu'i gilydd dros y blynyddoedd. Mae'n ansicr, mewn gwirionedd, beth ydy gwraidd y dywediad, ond dywed rhai mai Gary Palmer ydy awdur y dywediad, a'i bathodd e mewn gwirionedd. Ond pwy bynnag ddaru fathu'r dywediad, mae'n berffaith glir beth ydy'r neges: os am lwyddo mewn unrhyw faes, yn enwedig chwaraeon, mae'n rhaid ymarfer, ymarfer ac ymarfer er mwyn perffeithio eich crefft. Daw hyn â fi at grynswth y ddadl yma, sef y diffyg adnoddau sydd yn ein cymunedau gwledig er mwyn galluogi pobl i berffeithio eu dawn a mynd ymlaen i gystadlu ar y lefel uchaf.
Er mwyn medru ymarfer a pherffeithio dawn, mae'n rhaid wrth adnoddau; mae'n sefyll i reswm. Rŵan, bydd rhai yn pwyntio allan i rai arwyr athletaidd a ddaeth o gefndir difreintiedig cyn llwyddo yn eu maes lwyddo, a hynny er gwaethaf y cefndir yna, ac mae yna enghreifftiau clodwiw o bobl o'r fath. Ond, ar y cyfan, eithriadau ydy'r bobl yma. Dydy o ddim syndod mai'r gwledydd sy'n buddsoddi fwyaf yn eu hadnoddau ac yn eu hathletwyr sydd yn llwyddo i ennill y medalau ym mha bynnag faes. Mae'r un yn wir ar bob lefel, boed yn chwaraeon rhyngwladol neu ar y lefel mwyaf lleol. I unrhyw un sydd yn amau gwerth buddsoddiadau bach, rhaid ichi ond dilyn yr hyfforddwr seiclo llwyddiannus o Ddeiniolen, David Brailsford, a oedd yn hyrwyddo yr enillion ymylol—y marginal gains. Mae'r pethau bychan, chwedl Dewi Sant, yn gwneud gwahaniaeth.
Cefais y pleser o fynd i siarad efo criw o ddisgyblion Ysgol Glan y Môr, Pwllheli, tua 10 niwrnod yn ôl—sôn am bobl wybodus, chwilfrydig a serchog. Roedd hi'n bleser cael bod yn eu cwmni. Ta waeth, dyma un ohonyn nhw, Elan Davies, yn gofyn i fi:
'Dwi wrth fy modd efo chwaraeon'— meddai Elan—
'ond yn gweld diffyg cyfleoedd cyfartal i ferched. Pa gyfleoedd ydych chi'n eu gweld sydd i ferched yng Nghymru ym myd chwaraeon, a thu hwnt i hynny, yn eu bywydau o ddydd i ddydd?'
Nid pwynt gwleidyddol er mwyn ennill pwyntiau gwleidyddol oedd hyn gan Elan, ond profiad byw go iawn ein pobl ifanc yng nghefn gwlad Cymru heddiw, ac—a gadewch imi gael y dudalen iawn—mae'n siarad i'r gwelliant a gyflwynodd Heledd Fychan i ddadl yma ar lawr y Senedd ynghylch chwaraeon nôl ym mis Mehefin. Ac mae Elan yn dweud y gwir. Yn fuan ar ôl i mi gael fy ethol, fe gysylltodd clwb pêl-droed merched Porthmadog â fi, a gofyn am unrhyw gymorth posib er mwyn gwella'r adnoddau oedd ar eu cyfer nhw yn Port, gan nad oedd ganddyn nhw gae chwarae 3G, ac yn aml iawn yn y gaeaf roedd yn rhaid atal ymarferion a mynd i chwarae yn rhywle arall gan fod y cae yn llawer yn rhy fwdlyd.
Neu beth am nofio? Mae gennym ni glybiau nofio rhagorol yn y gogledd, ac mae rhai o'r hyfforddwyr yn dweud wrthyf fi fod yna dalent aruthrol yn y gogledd. Ond os ydy un ohonyn nhw am gyrraedd safon cystadlu uwch, yna mae'n rhaid iddyn nhw deithio lawr i Abertawe, a'r teulu oll yn gorfod mynd lawr am amser maith dros benwythnos hir a thalu am westy a thalu am aros yn Abertawe ar gyfer cyfnod yr hyfforddi. Pam hynny? Oherwydd nad oes gennym ni bwll nofio maint Olympaidd yn y gogledd, ac mae'n rhaid cael adnodd o'r fath er mwyn medru mynd a chystadlu ar lefel uwch.
Mae Dwyfor Meirionnydd, yn wir mae Cymru yn ffodus iawn i gael traethau lu a hardd efo llanw a thrai a surf, ac sydd yn cael eu hadnabod i fod ymhlith y traethau gorau ar gyfer syrffio. Ond er mwyn sicrhau bod y dalent leol yma yn medru cyrraedd y lefel nesaf, a gweld mwy o bobl yn syrffio yng Nghymru ac yn cystadlu ar lefel ryngwladol, mae'n rhaid sicrhau hyfforddwyr ac mae'n rhaid i bobl o bob cefndir gael mynediad i'r gamp.
Yn yr un modd, seiclo—boed yn seiclo ffordd neu'n seiclo mynydd, a phob math arall. Mae gennym ni record i ymfalchïo ynddo yma yng Nghymru, gyda chlybiau seiclo newydd wedi datblygu yn sgil llwyddiannau Geraint Thomas. Ces i'r fraint o ymweld â chanolfan ragorol Beicio Dyfi, yr Athertons, yn fy etholaeth yn ddiweddar, sydd yn denu miloedd o bobl ar draws Cymru, heb sôn, wrth gwrs, am y gwaith gwych gan Antur Stiniog neu yng Nghoed y Brenin yn Nwyfor Meirionnydd.
Mae gennym ni dirwedd ac adnoddau rhagorol, ond mae'n broses ddrud, ac mae llawer o bobl yn methu â chael mynediad i feicio oherwydd eu hamgylchiadau ariannol. Mae'n rhaid sicrhau bod pobl yn medru cael mynediad i'r meysydd yma i gychwyn, er mwyn cael blas ar y maes, yna'n medru ymarfer, perffeithio'u dawn a mynd ymlaen i bethau mwy.
Yr enghraifft amlycaf, wrth gwrs, o'r methiant ydy'r methiant i sefydlu rhanbarth rygbi cystadleuol yn y gogledd, a chreu llwybr clir i dalent leol fedru datblygu drwy'r rhengoedd. Mae yna blant a phobl ifanc efo doniau di-ri yng Nghymru wledig, o baffio, i nofio, i bêl-droed, ond yn amlach na pheidio, dyw'r adnoddau angenrheidiol ddim wedi cael eu rhoi i mewn, a dydy'r doniau yma ddim yn medru cyrraedd eu llawn botensial. Wrth gwrs, mae'r rhesymeg o blaid gwneud y buddsoddiad yma yn fwy o lawer na chwilio am fri a chlod lleol. Fel y clywsom yn y ddadl ar ordewdra yr wythnos diwethaf, mae yna fuddiannau iechyd lu i'w cael o ddatblygu adnoddau chwaraeon yn ein cymunedau gwledig hefyd.
Rŵan, gadewch inni edrych ar Norwy am ysbrydoliaeth. Mae Norwy wedi dechrau cynhyrchu llu o athletwyr llwyddiannus. Nid yn unig eu bod nhw'n debygol o guro yn y Gemau Olympaidd y Gaeaf yn Beijing eleni, ond mae ganddyn nhw chwaraewyr tenis, golff, pêl-droed, ac eraill yn dod i'r fei. Sut? Oherwydd yn Norwy maen nhw'n gweithredu polisi 'pleser chwaraeon i bawb'—the joy of sports for all—gyda phlant yn cael eu hannog i gymryd rhan mewn cymaint o chwaraeon â phosib, a phrisiau cymryd rhan yn cael eu cadw'n isel gan y Llywodraeth. Ymhellach i hyn, dengys gwaith ymchwil yn Norwy fod datblygu rhaglenni chwaraeon yn y cymunedau gwledig wedi denu merched ifanc o gefndiroedd sosioeconomaidd difreintiedig, gan roi cyfleon i bobl na fyddai wedi eu cael ffordd arall.
Felly, dwi'n croesawu cyhoeddiad y Gweinidog fis diwethaf ynghylch y buddsoddiad o rai miliynau o bunnoedd fydd yn cael ei roi mewn, er enghraifft, meysydd 3G, ac, yn wir, dwi'n disgwyl clywed y datganiad yna'n cael ei gyhoeddi unwaith eto yma heddiw, ond dwi'n gobeithio y gwnaiff y Gweinidog sicrhau bod canran teg o'r pres yma am gael ei wario ar adnoddau yn y cymunedau gwledig. Hoffwn i hefyd glywed pa gynlluniau uchelgeisiol sydd efo'r Llywodraeth er mwyn cynorthwyo â datblygu pwll nofio maint Olympaidd, neu felodrom, neu ddatblygu canolfan ar gyfer chwaraeon yn ymwneud â'r môr yn ein cymunedau gwledig. Beth ydy uchelgais y Llywodraeth er mwyn sicrhau bod yna lwybr clir ar gael i blant Cymru er mwyn medru dilyn eu breuddwydion a datblygu eu doniau cynhenid?
Fe hoffwn glywed yn benodol ateb y Gweinidog i gwestiwn Elan: pa gyfleoedd ydych chi'n eu gweld sydd i ferched yng Nghymru, ac yng Nghymru wledig yn enwedig, ym myd chwaraeon a thu hwnt i hynny yn eu bywydau o ddydd i ddydd? Ac yn olaf, a wnaiff y Gweinidog ymuno â fi ac Elan ar ymweliad efo un o gymunedau Dwyfor Meirionnydd—efallai Pwllheli, cymuned Elan ei hun—er mwyn gweld y dalent ryfeddol sydd gennym ni yno, er mwyn gweld yr anghenion buddsoddi? Diolch yn fawr iawn.
Mae pum person y mae Mabon ap Gwynfor wedi cytuno i rannu ei amser â nhw. Os gall pawb fod yn gryno o fewn y funud, yna bydd amser i'r pump. James Evans.
Fe geisiaf, Lywydd. Diolch. Hoffwn ddiolch i Mabon ap Gwynfor—
Fe wnewch chi fwy na cheisio. [Chwerthin].
Fe geisiaf. Diolch i Mabon ap Gwynfor am gyflwyno'r ddadl hon. Po fwyaf rwy’n ymarfer, y mwyaf lwcus yr ydw i, ond fel rhywun sy'n ymarfer chwarae dartiau'n aml, nid wyf yn siŵr a yw hynny'n hollol wir ar nos Wener. [Chwerthin.] Ond yn ein cymuned ni, ein cyfleusterau chwaraeon yw calon y gymuned, boed hynny'n glybiau rygbi, clybiau pêl-droed, clybiau pêl-rwyd, criced, bowls—beth bynnag, hwy yw calon y gymuned. Roeddwn yn ffodus iawn i fod yn rhan o Glwb Rygbi Gwernyfed yn Nhalgarth, y clwb chwaraeon cymunedol gwych sydd â thîm merched a thimau iau ac sy'n gwneud yn arbennig o dda. Dysgodd y clwb hwnnw nifer o bethau i mi: dysgodd barch i mi, dysgodd i mi am waith tîm, dysgodd i mi werthfawrogi pobl eraill a hefyd sut i gael amser da iawn.
Mae ein clybiau yn darparu cyfleoedd i bobl ifanc ddod at ei gilydd. Maent yn meithrin cydlyniant cymunedol, yn helpu'r agenda llesiant ac yn helpu i wella iechyd a llesiant y genedl. Ac rwy'n cytuno, Mabon, y dylid darparu mwy o adnoddau mewn cymunedau gwledig, oherwydd rydym i gyd wedi gweld sut y mae'n rhaid i'n sêr chwaraeon ifanc fynd i'r trefi a'r dinasoedd i allu defnyddio'r cyfleusterau chwaraeon sydd eu hangen arnynt i gyflawni eu potensial. Ac rwy'n annog y Gweinidog, fel y gwnaethoch chi, i sicrhau bod yr adnoddau hynny'n mynd i gymunedau gwledig fel y gall y bobl ifanc yno gyflawni eu potensial. Diolch, Lywydd.
Diolch i'r Aelod o Ddwyfor Meirionnydd am y cyfle i gyfrannu.
Fel rhywun sydd wedi chwarae llu o chwaraeon drwy gydol eu hoes, o bêl-droed, golff, tenis, rygbi, criced a phopeth arall yn y canol, mae'r ddadl hon wedi gwneud i mi gofio'r profiad o dyfu i fyny yng nghefn gwlad gorllewin Cymru. Ac yn aml roedd yn fwy o siwmperi fel pyst gôl nag ydoedd o Stadiwm y Mileniwm—Stadiwm Principality, maddeuwch imi—neu Celtic Manor neu faes criced Lord's. Ac un peth a'm trawodd yn amlwg iawn yw bod y clybiau'n ymfalchïo'n fawr yn y cyfleusterau sydd ganddynt, a chredaf fod hynny'n rhywbeth sy'n dyst i waith y gwirfoddolwyr, na fyddai llawer o'r clybiau cymunedol hyn yn bodoli hebddynt. Gwirfoddolwyr sy'n rhoi eu hamser am ddim, yn torri gwair y caeau, yn brwsio lloriau ystafelloedd newid, yn golchi citiau chwarae neu hyd yn oed yn cludo plant o amgylch yr ardal fel y gallant fynd i ymarfer chwaraeon a chadw'n heini. Heb y gwirfoddolwyr hyn, ni fyddai gennym chwaraeon llawr gwlad yma yng Nghymru, felly hoffwn fanteisio ar y cyfle i ddiolch i bob gwirfoddolwr o bob cwr o Gymru am bopeth a wnânt i sicrhau bod chwaraeon llawr gwlad yng Nghymru mor gryf ag y gall fod. Diolch.
Jane Dodds.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd, a diolch hefyd i Mabon, a diolch am y cyfle i gyfrannu yn y ddadl yma.
Un safbwynt arall—ni wnaf ailadrodd yr hyn a ddywedwyd ac nid oes gennyf unrhyw alluoedd chwaraeon ychwaith—gofynnais i berson ifanc mewn pentref bach o'r enw Llandinam, sydd â 911 o bobl, yn sir Drefaldwyn, beth a fyddai'n ei helpu a beth a wnaeth ei helpu pan oedd yn tyfu i fyny i gymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon, a dywedodd 'gweithwyr ieuenctid'. Ac felly hoffwn alw am fwy o weithwyr ieuenctid. Rydym wedi gweld dirywiad enfawr yn nifer y gweithwyr ieuenctid ledled Cymru, ac mae'n gwneud gwahaniaeth o ran cynnwys pobl ifanc o wahanol gymunedau a'u galluogi i gymryd rhan mewn chwaraeon. Roeddwn i'n lwcus iawn i ymweld â Shedz ym Mlaenau Ffestiniog lle y mae ganddynt drefn anhygoel yno gyda gweithwyr ieuenctid yn ymgysylltu â phobl ifanc. Felly, gadewch inni symud ymlaen cyn gynted ag y gallwn, ond gadewch inni edrych hefyd ar sut y gallwn gael mwy o weithwyr ieuenctid i ymgysylltu â phobl ifanc i'w galluogi i gymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon. Diolch yn fawr iawn.
Diolch i Mabon ap Gwynfor am gyflwyno'r ddadl bwysig iawn hon a chaniatáu i mi siarad. Mae'n wych bod yma i glywed trafodaeth ar fater cyfleusterau chwaraeon yn ein cymunedau gwledig.
Fel yr amlinellwyd hyd yma yn y ddadl, mae chwaraeon mor hanfodol i gymunedau gwledig, yn enwedig ar lawr gwlad, gan gynnwys y rhanbarth rwy'n ei gynrychioli yng ngogledd Cymru, a gwyddom fod chwaraeon yn hanfodol ar gyfer llesiant meddyliol a chorfforol pobl. Mae'n dod â chymunedau, ffrindiau a theuluoedd at ei gilydd; i rai, mae'n rhoi pwrpas. Ond heb y cyfleusterau addas hyn, mae naill ai'n amhosibl i bobl gymryd rhan neu, fel y gwyddom, mae'n rhaid iddynt deithio oriau lawer i fwynhau chwaraeon y maent eisiau cymryd rhan ynddynt. Wrth gwrs, ar ben y manteision llawr gwlad o gael cyfleusterau chwaraeon da yn ein hardaloedd gwledig, rhaid inni geisio ysbrydoli cenhedlaeth o sêr chwaraeon y dyfodol—y rhai a fydd yn ennill y chwe gwlad i ni, y rhai a fydd yn ennill cwpanau byd a medalau Olympaidd, neu hyd yn oed yn dod yn bencampwyr bowls lawnt anwastad. Felly, i gloi, Lywydd, mae'n hanfodol nad ydym yn methu gôl agored yma, ein bod yn taro cefn y rhwyd a sicrhau bod cyfleusterau chwaraeon ar gael yn ein cymunedau gwledig, a gwneud yn siŵr fod Cymru'n parhau i wneud yn well na'r disgwyl mewn chwaraeon.
Nid yw'r Siambr yn hoff iawn o'ch holl chwarae ar eiriau a'ch jôcs. Laura Jones.
Diolch, a diolch, Mabon, am godi'r pwnc pwysig hwn. Mae'n rhywbeth rwyf wedi'i godi'n barhaus ers i mi fod yn wleidydd. Ac fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar chwaraeon, hoffwn eich sicrhau bod consensws llwyr ar draws y Siambr fod cyfleusterau'n flaenoriaeth allweddol i bob un ohonom. Mae angen eu newid. Maent mewn cyflwr gwael, maent yn hen ffasiwn neu nid ydynt yn bodoli, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig. Mae'n rhaid inni edrych i mewn i hyn.
Roeddwn yn arfer bod yn ysgrifennydd clwb pêl-droed iau, ac yn llythrennol mae popeth yn cau yn y gaeaf am fod y caeau mor wael. Nid oes unrhyw gyfleusterau 3G o fewn 20 milltir, er enghraifft. Nid yw diffyg cyfleusterau o'r fath yn ddigon da i'n pobl ifanc nac i bobl o unrhyw oedran mewn gwirionedd. Os ydym o ddifrif ynghylch creu sêr y dyfodol, mae angen inni fod o ddifrif ynghylch gwella ein cyfleusterau. Roeddwn yn arfer nofio dros Gymru gyda'r Pontypool Dolphins fel mae'n digwydd. Felly, roeddwn yn nofio saith diwrnod yr wythnos, ac roedd yn rhaid i fy rhieni fynd â mi o Frynbuga i Bont-y-pŵl ac yn ôl saith diwrnod yr wythnos. Mae hwnnw'n ymrwymiad enfawr, ac roeddwn yn ffodus eu bod yn gallu gwneud hynny, neu fel arall ni fyddwn byth wedi cael y cyfleoedd a gefais. Felly, mae teithio'n rhywbeth y mae gwir angen inni edrych arno er mwyn sicrhau bod pobl yn gallu mynd i'r pethau hyn os na allwn ddarparu'r cyfleusterau hynny ar garreg eu drws. Hoffwn ddweud diolch am gyflwyno—. Rwy'n credu ei fod yn bwnc perffaith i siarad amdano, oherwydd ymarfer, ymarfer, ymarfer yw'r ffordd tuag at berffeithrwydd, a bydd yn creu sêr ein dyfodol. A heb unrhyw le i ymarfer, ni fyddwn yn eu creu. Felly, diolch ichi am gyflwyno'r ddadl hon.
A'r Dirprwy Weinidog nawr i ymateb i'r ddadl. Dawn Bowden.
Diolch. Diolch yn fawr iawn, Lywydd, a diolch, Mabon, am gyflwyno'r ddadl hon. Mae hwn yn bwnc sy'n agos iawn at fy nghalon, a hoffwn ddweud fy mod yn hoff iawn o deitl y ddadl: 'Po fwyaf rwy’n ymarfer, y mwyaf lwcus yr ydw i', oherwydd y cyfan y gallaf ei feddwl yw nad yw'r holl dimau rwy'n eu cefnogi yn ymarfer yn aml iawn, yn amlwg, gan nad ydynt yn lwcus iawn, mae hynny'n sicr. Ond mae'n ddadl bwysig, Mabon, roedd yn ddadl a oedd yn ysgogi'r meddwl, ac roedd yn dda clywed cynifer o gyfraniadau mewn dadl drawsbleidiol lle y gallwn gytuno ar bron bopeth a gafodd ei ddweud. Felly, diolch i bawb am hynny.
Felly, a gaf fi ddechrau drwy ddweud fy mod eisiau datgan yn glir iawn ar y dechrau fod buddsoddi yng nghyfleusterau chwaraeon ein gwlad sy'n hygyrch ac yn gwella'r cyfleoedd i gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn flaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cymru? A byddwn wrth fy modd yn dod i ymweld â'ch etholaeth rywbryd a gweld rhai o'r cyfleusterau sydd gennych eisoes ac y gallem eu datblygu yn y dyfodol. Nawr, mae'r ymrwymiad hwn yn elfen allweddol o'r rhaglen lywodraethu ac yn ymrwymiad personol i mi. Mae buddsoddi yn ein cyfleusterau yn allweddol i ddatgloi cymaint o'n potensial fel cenedl. Wrth inni droi ein golygon at ein hadferiad o'r pandemig, bydd ehangu ar y cyfleoedd i gynyddu cyfranogiad i gefnogi ein hiechyd meddwl a chorfforol yn bwysicach nag erioed.
Mae'n rhaid inni gael dull clir o gyflawni'r ymrwymiad hwnnw. Rwy'n canolbwyntio ar fuddsoddi ar lefel elitaidd ac ar lefel gymunedol, llawr gwlad am yr holl resymau a nodwyd gennych yn eich araith. Mae ein buddsoddiad ar lefel elitaidd, buddsoddi mewn cyfleusterau chwaraeon o'r radd flaenaf i gefnogi llwyddiant chwaraeon ein gwlad ar y llwyfan byd-eang, yn allweddol i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf. Gwyddom fod Cymru eisoes yn gwneud yn well na'r disgwyl yn y byd chwaraeon, ac mae'n rhaid inni gynnal hynny a sicrhau ei fod yn tyfu ac yn datblygu wrth inni symud ymlaen.
Ac ymrwymiad pwysicach fyth, yn fy marn i, yw cefnogi a galluogi'r genhedlaeth nesaf yn awr. Ein hymrwymiad yw buddsoddi mewn cyfleusterau newydd a rhai sy'n bodoli'n barod sy'n gwella sylfaen ein chwaraeon cymunedol. Heb gyfleusterau deniadol a hygyrch, ni allwn obeithio cynyddu cyfranogiad ar draws y campau, yn enwedig ymhlith grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol. Dyma'r allwedd i gefnogi datblygiad ein plant a hybu mynediad at chwaraeon, megis buddsoddi mewn chwaraeon merched a menywod, sydd, unwaith eto, yn agos iawn at fy nghalon.
Ac a gaf fi ddiolch i Mabon am atgoffa pawb am fy nghyhoeddiad diweddar am £4.5 miliwn o gyllid cyfalaf pellach eleni i gefnogi'r ymrwymiad hwnnw? Daw hynny â chyfanswm ein buddsoddiad yn 2021-22 i fwy na £13.2 miliwn. Ac wrth edrych tua'r dyfodol, Lywydd, rydym eisoes wedi ymrwymo £24 miliwn o gyllid cyfalaf i Chwaraeon Cymru dros y tair blynedd nesaf. O'm rhan i, man cychwyn yn unig yw hynny. Ar gyfer ein huchelgais, byddwn yn ceisio adeiladu ar y buddsoddiad cychwynnol hwnnw o flwyddyn i flwyddyn.
Ond nid yw'n ymwneud â maint ein buddsoddiad yn unig; ystyriaeth allweddol i ni a Chwaraeon Cymru yw sut a lle'r ydym yn buddsoddi. Fel y mae Mabon wedi nodi, mae'n rhaid inni sicrhau bod cyfleusterau'n hygyrch i bob un o'n cymunedau, gan gynnwys ein cymunedau gwledig. Gwyddom fod gennym yr ymrwymiad hwnnw gan ein cyrff llywodraethu chwaraeon cenedlaethol, boed yn Gymdeithas Bêl-droed Cymru, Undeb Rygbi Cymru, neu Hoci Cymru ac yn y blaen; maent yn barod i weithio gyda ni ar yr ymdrech genedlaethol honno.
Pan fo'r cyfleusterau hynny ymhellach i ffwrdd, gan ein bod yn cydnabod efallai na fydd cae pêl-droed, cae rygbi, cae criced neu wal ddringo ar gael ym mhob cymuned, ac efallai nad yw'n realistig iddynt fod ar gael ym mhob cymuned, rhaid inni sicrhau bod modd galluogi mynediad, naill ai drwy drafnidiaeth gyhoeddus neu deithio llesol, a chredaf mai dyna roedd Laura'n cyfeirio ato. Ond rhaid i'r cymorth cofleidiol hwnnw i'r cyfleusterau fod yno, a galwaf ar ein holl sefydliadau chwaraeon, awdurdodau lleol a sefydliadau addysgol i feithrin y cysylltiadau hynny a dod yn alluogwyr ar gyfer ein chwaraeon a'n hamdden.
Lywydd, rhaid imi dynnu sylw'r Aelodau, fodd bynnag, at ymagwedd siomedig a rhwystredig Llywodraeth y DU yn ddiweddar yn y modd y mae wedi anwybyddu egwyddorion pwysig datganoli. Er bod croeso i bob buddsoddiad wrth gwrs, megis buddsoddiadau pêl-droed a thennis diweddar, mae Llywodraeth y DU wedi bod yn defnyddio Deddf marchnad fewnol y DU i ddarparu cyllid uniongyrchol i sefydliadau chwaraeon yng Nghymru, ac nid dyna'r ffordd gywir o'i wneud yn fy marn i. Mae'n gosod cynsail sy'n peri pryder, gan fynd ag atebolrwydd oddi wrth y sefydliadau datganoledig, ac mae'n ychwanegu haen arall o fiwrocratiaeth gymhleth. Mae'n golygu bod yn rhaid inni weithio'n galetach i sicrhau bod buddsoddiadau'n cyd-fynd â'n rhaglen lywodraethu er mwyn osgoi dyblygu ymdrechion a sicrhau bod cyllid wedi ei ddosbarthu'n deg ac yn gyfartal ledled y wlad, gan ddefnyddio sefydliadau datganoledig sefydledig.
Ond i droi at rai enghreifftiau cadarnhaol, mae Chwaraeon Cymru wedi darparu symiau sylweddol o arian ar gyfer llawer o wahanol chwaraeon ledled Cymru, gan gynnwys mewn cymunedau gwledig. Ceir llawer o enghreifftiau ar draws ystod o chwaraeon, o welliant i'r caeau yng nghlwb rygbi Gwernyfed a Chlwb Pêl-droed Dinbych, cyrtiau tennis newydd yng Nghas-gwent, rhwydi ymarfer newydd ar gyfer Clwb Criced Sir Benfro, offer newydd ar gyfer Clwb Canŵio'r Bala a matiau newydd ar gyfer clwb jujitsu Brasilaidd yn Ystradgynlais.
Dim ond rhan o'r darlun hwnnw yw'r cyllid chwaraeon a ddarparwn i Chwaraeon Cymru a'r cyrff llywodraethu chwaraeon cenedlaethol. Mae ein rhaglen cyfleusterau cymunedau wedi'i chynllunio i wella cyfleusterau cymunedol sy'n ddefnyddiol ac sy'n cael eu defnyddio gan bobl yn y gymuned. Mae cyfleusterau cymunedol, gan gynnwys cyfleusterau chwaraeon, yn chwarae rhan hanfodol, gan weithredu fel ffocws ar gyfer digwyddiadau cymunedol, darparu cyfleoedd i wirfoddoli a galluogi mynediad lleol at wasanaethau. Gall hyn fod hyd yn oed yn bwysicach mewn ardaloedd gwledig. Gall cyfleusterau a weithredir gan y gymuned ac sy'n eiddo i'r gymuned hefyd chwarae rhan bwysig yn grymuso pobl leol, gan ddarparu swyddi lleol yn ogystal â chyfleoedd i gymdeithasu, sy'n helpu i fynd i'r afael ag unigrwydd ac ynysigrwydd, a gwella iechyd a llesiant cyffredinol wrth gwrs.
Mae'r ystâd addysg drwy ein hysgolion a'n colegau yn darparu llwyfan pwysig ar gyfer cyfleusterau chwaraeon. Mae gan ein rhaglen cymunedau cynaliadwy ar gyfer dysgu, rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain yn flaenorol, rôl bwysig i'w chwarae yn darparu cyfleusterau chwaraeon. Mae'r rhaglen yn ei gwneud yn glir ein bod yn disgwyl i ysgolion a cholegau yng Nghymru gefnogi ein dysgwyr a'r cymunedau ehangach. Ein dyhead yw bod yr holl gyfleusterau sy'n derbyn buddsoddiad yn ymrwymo i sicrhau bod yr asedau hynny ar gael at ddefnydd y gymuned lle y ceir galw lleol, ac mae hyn wedi arwain at ddarparu cyfleusterau chwaraeon rhagorol sydd o fudd i bob oedran. Rydym yn disgwyl i bob prosiect ysgol sy'n derbyn cymorth ariannol ddangos y gall eu cyfleusterau gefnogi'r gymuned o'u cwmpas, ac mae hyn yn cynnwys ymestyn y defnydd o asedau ffisegol, megis cyfleusterau chwaraeon at ddefnydd y gymuned, yn ystod oriau ysgol a thu allan i oriau ysgol. Mae enghreifftiau da o'r hyn y gellir ei gyflawni o dan y rhaglen yn cynnwys Ysgol Bro Teifi yn Llandysul. Mae hon yn ysgol cyfrwng Cymraeg newydd ar gyfer disgyblion rhwng tair ac 16 oed—tair i 19 oed, mae'n ddrwg gennyf—sydd wedi symleiddio addysg yn yr ardal i gefnogi dysgwyr o oedran cynradd yr holl ffordd drwodd i addysg uwchradd, gan sicrhau bod eu cyfleusterau chwaraeon o'r radd flaenaf, sy'n cynnwys cae pob tywydd a neuadd chwaraeon, ar gael yn rhwydd i'r gymuned gyfagos y tu allan i'r diwrnod ysgol.
Enghraifft arall yw'r ysgol arbennig newydd, Ysgol Hafod Lon ym Mhenrhyndeudraeth yng Ngwynedd, sy'n sicrhau bod gan ein haelodau mwyaf agored i niwed o'r gymuned gyfleusterau i'w cefnogi hwy a'u teuluoedd, gyda phwll hydrotherapi a man awyr agored estynedig. Mae'n hanfodol ein bod yn sicrhau bod y cyfleusterau hyn ar gyfer chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn hygyrch i bawb os ydym am ryddhau budd chwaraeon i bawb yng Nghymru, o lawr gwlad i chwaraeon elitaidd.
Mae cyfleusterau modern, hygyrch a chynaliadwy yn hanfodol i annog pobl i ddechrau cymryd rhan mewn chwaraeon neu i ddychwelyd at chwaraeon. Mae gwerth iechyd, cymdeithasol ac economaidd chwaraeon yn cael ei gydnabod yn eang, a dyna pam fod Llywodraeth Cymru yn parhau i fuddsoddi mewn chwaraeon a thrwy bŵer ataliol chwaraeon. Yr ymrwymiad i chwaraeon llawr gwlad yw'r bloc adeiladu sylfaenol ar gyfer ein llwyddiant ehangach fel cenedl ar lwyfan y byd. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i fuddsoddi mewn cyfleusterau chwaraeon ledled Cymru mewn ffordd gynaliadwy a chyfrifol yn fyd-eang i sicrhau mynediad cyfartal ac i gefnogi ein hathletwyr a'n hyfforddwyr talentog lle bynnag y maent yn byw a beth bynnag fo'u cefndir. Rydym eisoes wedi cael deialog gadarnhaol ac adeiladol gyda rhai o'n partneriaid cenedlaethol ynghylch cyflawni'r amcanion hynny gyda'n gilydd, ac edrychaf ymlaen at drafodaethau pellach gyda hwy yn y dyfodol—yn y dyfodol agos. Diolch.
Diolch i'r Dirprwy Weinidog a diolch i bawb am y ddadl yna. Daw hynny â'n gwaith ni am y dydd heddiw i ben. Diolch yn fawr.