10. Dadl Fer: Po fwyaf rwy’n ymarfer, y mwyaf lwcus yr ydw i: Cyfleusterau chwaraeon yn ein cymunedau gwledig

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:50 pm ar 9 Chwefror 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Dawn Bowden Dawn Bowden Labour 5:50, 9 Chwefror 2022

(Cyfieithwyd)

Mae'n rhaid inni gael dull clir o gyflawni'r ymrwymiad hwnnw. Rwy'n canolbwyntio ar fuddsoddi ar lefel elitaidd ac ar lefel gymunedol, llawr gwlad am yr holl resymau a nodwyd gennych yn eich araith. Mae ein buddsoddiad ar lefel elitaidd, buddsoddi mewn cyfleusterau chwaraeon o'r radd flaenaf i gefnogi llwyddiant chwaraeon ein gwlad ar y llwyfan byd-eang, yn allweddol i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf. Gwyddom fod Cymru eisoes yn gwneud yn well na'r disgwyl yn y byd chwaraeon, ac mae'n rhaid inni gynnal hynny a sicrhau ei fod yn tyfu ac yn datblygu wrth inni symud ymlaen.

Ac ymrwymiad pwysicach fyth, yn fy marn i, yw cefnogi a galluogi'r genhedlaeth nesaf yn awr. Ein hymrwymiad yw buddsoddi mewn cyfleusterau newydd a rhai sy'n bodoli'n barod sy'n gwella sylfaen ein chwaraeon cymunedol. Heb gyfleusterau deniadol a hygyrch, ni allwn obeithio cynyddu cyfranogiad ar draws y campau, yn enwedig ymhlith grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol. Dyma'r allwedd i gefnogi datblygiad ein plant a hybu mynediad at chwaraeon, megis buddsoddi mewn chwaraeon merched a menywod, sydd, unwaith eto, yn agos iawn at fy nghalon.

Ac a gaf fi ddiolch i Mabon am atgoffa pawb am fy nghyhoeddiad diweddar am £4.5 miliwn o gyllid cyfalaf pellach eleni i gefnogi'r ymrwymiad hwnnw? Daw hynny â chyfanswm ein buddsoddiad yn 2021-22 i fwy na £13.2 miliwn. Ac wrth edrych tua'r dyfodol, Lywydd, rydym eisoes wedi ymrwymo £24 miliwn o gyllid cyfalaf i Chwaraeon Cymru dros y tair blynedd nesaf. O'm rhan i, man cychwyn yn unig yw hynny. Ar gyfer ein huchelgais, byddwn yn ceisio adeiladu ar y buddsoddiad cychwynnol hwnnw o flwyddyn i flwyddyn.

Ond nid yw'n ymwneud â maint ein buddsoddiad yn unig; ystyriaeth allweddol i ni a Chwaraeon Cymru yw sut a lle'r ydym yn buddsoddi. Fel y mae Mabon wedi nodi, mae'n rhaid inni sicrhau bod cyfleusterau'n hygyrch i bob un o'n cymunedau, gan gynnwys ein cymunedau gwledig. Gwyddom fod gennym yr ymrwymiad hwnnw gan ein cyrff llywodraethu chwaraeon cenedlaethol, boed yn Gymdeithas Bêl-droed Cymru, Undeb Rygbi Cymru, neu Hoci Cymru ac yn y blaen; maent yn barod i weithio gyda ni ar yr ymdrech genedlaethol honno.

Pan fo'r cyfleusterau hynny ymhellach i ffwrdd, gan ein bod yn cydnabod efallai na fydd cae pêl-droed, cae rygbi, cae criced neu wal ddringo ar gael ym mhob cymuned, ac efallai nad yw'n realistig iddynt fod ar gael ym mhob cymuned, rhaid inni sicrhau bod modd galluogi mynediad, naill ai drwy drafnidiaeth gyhoeddus neu deithio llesol, a chredaf mai dyna roedd Laura'n cyfeirio ato. Ond rhaid i'r cymorth cofleidiol hwnnw i'r cyfleusterau fod yno, a galwaf ar ein holl sefydliadau chwaraeon, awdurdodau lleol a sefydliadau addysgol i feithrin y cysylltiadau hynny a dod yn alluogwyr ar gyfer ein chwaraeon a'n hamdden.

Lywydd, rhaid imi dynnu sylw'r Aelodau, fodd bynnag, at ymagwedd siomedig a rhwystredig Llywodraeth y DU yn ddiweddar yn y modd y mae wedi anwybyddu egwyddorion pwysig datganoli. Er bod croeso i bob buddsoddiad wrth gwrs, megis buddsoddiadau pêl-droed a thennis diweddar, mae Llywodraeth y DU wedi bod yn defnyddio Deddf marchnad fewnol y DU i ddarparu cyllid uniongyrchol i sefydliadau chwaraeon yng Nghymru, ac nid dyna'r ffordd gywir o'i wneud yn fy marn i. Mae'n gosod cynsail sy'n peri pryder, gan fynd ag atebolrwydd oddi wrth y sefydliadau datganoledig, ac mae'n ychwanegu haen arall o fiwrocratiaeth gymhleth. Mae'n golygu bod yn rhaid inni weithio'n galetach i sicrhau bod buddsoddiadau'n cyd-fynd â'n rhaglen lywodraethu er mwyn osgoi dyblygu ymdrechion a sicrhau bod cyllid wedi ei ddosbarthu'n deg ac yn gyfartal ledled y wlad, gan ddefnyddio sefydliadau datganoledig sefydledig.

Ond i droi at rai enghreifftiau cadarnhaol, mae Chwaraeon Cymru wedi darparu symiau sylweddol o arian ar gyfer llawer o wahanol chwaraeon ledled Cymru, gan gynnwys mewn cymunedau gwledig. Ceir llawer o enghreifftiau ar draws ystod o chwaraeon, o welliant i'r caeau yng nghlwb rygbi Gwernyfed a Chlwb Pêl-droed Dinbych, cyrtiau tennis newydd yng Nghas-gwent, rhwydi ymarfer newydd ar gyfer Clwb Criced Sir Benfro, offer newydd ar gyfer Clwb Canŵio'r Bala a matiau newydd ar gyfer clwb jujitsu Brasilaidd yn Ystradgynlais.

Dim ond rhan o'r darlun hwnnw yw'r cyllid chwaraeon a ddarparwn i Chwaraeon Cymru a'r cyrff llywodraethu chwaraeon cenedlaethol. Mae ein rhaglen cyfleusterau cymunedau wedi'i chynllunio i wella cyfleusterau cymunedol sy'n ddefnyddiol ac sy'n cael eu defnyddio gan bobl yn y gymuned. Mae cyfleusterau cymunedol, gan gynnwys cyfleusterau chwaraeon, yn chwarae rhan hanfodol, gan weithredu fel ffocws ar gyfer digwyddiadau cymunedol, darparu cyfleoedd i wirfoddoli a galluogi mynediad lleol at wasanaethau. Gall hyn fod hyd yn oed yn bwysicach mewn ardaloedd gwledig. Gall cyfleusterau a weithredir gan y gymuned ac sy'n eiddo i'r gymuned hefyd chwarae rhan bwysig yn grymuso pobl leol, gan ddarparu swyddi lleol yn ogystal â chyfleoedd i gymdeithasu, sy'n helpu i fynd i'r afael ag unigrwydd ac ynysigrwydd, a gwella iechyd a llesiant cyffredinol wrth gwrs.

Mae'r ystâd addysg drwy ein hysgolion a'n colegau yn darparu llwyfan pwysig ar gyfer cyfleusterau chwaraeon. Mae gan ein rhaglen cymunedau cynaliadwy ar gyfer dysgu, rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain yn flaenorol, rôl bwysig i'w chwarae yn darparu cyfleusterau chwaraeon. Mae'r rhaglen yn ei gwneud yn glir ein bod yn disgwyl i ysgolion a cholegau yng Nghymru gefnogi ein dysgwyr a'r cymunedau ehangach. Ein dyhead yw bod yr holl gyfleusterau sy'n derbyn buddsoddiad yn ymrwymo i sicrhau bod yr asedau hynny ar gael at ddefnydd y gymuned lle y ceir galw lleol, ac mae hyn wedi arwain at ddarparu cyfleusterau chwaraeon rhagorol sydd o fudd i bob oedran. Rydym yn disgwyl i bob prosiect ysgol sy'n derbyn cymorth ariannol ddangos y gall eu cyfleusterau gefnogi'r gymuned o'u cwmpas, ac mae hyn yn cynnwys ymestyn y defnydd o asedau ffisegol, megis cyfleusterau chwaraeon at ddefnydd y gymuned, yn ystod oriau ysgol a thu allan i oriau ysgol. Mae enghreifftiau da o'r hyn y gellir ei gyflawni o dan y rhaglen yn cynnwys Ysgol Bro Teifi yn Llandysul. Mae hon yn ysgol cyfrwng Cymraeg newydd ar gyfer disgyblion rhwng tair ac 16 oed—tair i 19 oed, mae'n ddrwg gennyf—sydd wedi symleiddio addysg yn yr ardal i gefnogi dysgwyr o oedran cynradd yr holl ffordd drwodd i addysg uwchradd, gan sicrhau bod eu cyfleusterau chwaraeon o'r radd flaenaf, sy'n cynnwys cae pob tywydd a neuadd chwaraeon, ar gael yn rhwydd i'r gymuned gyfagos y tu allan i'r diwrnod ysgol.

Enghraifft arall yw'r ysgol arbennig newydd, Ysgol Hafod Lon ym Mhenrhyndeudraeth yng Ngwynedd, sy'n sicrhau bod gan ein haelodau mwyaf agored i niwed o'r gymuned gyfleusterau i'w cefnogi hwy a'u teuluoedd, gyda phwll hydrotherapi a man awyr agored estynedig. Mae'n hanfodol ein bod yn sicrhau bod y cyfleusterau hyn ar gyfer chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn hygyrch i bawb os ydym am ryddhau budd chwaraeon i bawb yng Nghymru, o lawr gwlad i chwaraeon elitaidd.

Mae cyfleusterau modern, hygyrch a chynaliadwy yn hanfodol i annog pobl i ddechrau cymryd rhan mewn chwaraeon neu i ddychwelyd at chwaraeon. Mae gwerth iechyd, cymdeithasol ac economaidd chwaraeon yn cael ei gydnabod yn eang, a dyna pam fod Llywodraeth Cymru yn parhau i fuddsoddi mewn chwaraeon a thrwy bŵer ataliol chwaraeon. Yr ymrwymiad i chwaraeon llawr gwlad yw'r bloc adeiladu sylfaenol ar gyfer ein llwyddiant ehangach fel cenedl ar lwyfan y byd. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i fuddsoddi mewn cyfleusterau chwaraeon ledled Cymru mewn ffordd gynaliadwy a chyfrifol yn fyd-eang i sicrhau mynediad cyfartal ac i gefnogi ein hathletwyr a'n hyfforddwyr talentog lle bynnag y maent yn byw a beth bynnag fo'u cefndir. Rydym eisoes wedi cael deialog gadarnhaol ac adeiladol gyda rhai o'n partneriaid cenedlaethol ynghylch cyflawni'r amcanion hynny gyda'n gilydd, ac edrychaf ymlaen at drafodaethau pellach gyda hwy yn y dyfodol—yn y dyfodol agos. Diolch.