Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:44 pm ar 9 Chwefror 2022.
Roeddwn yn meddwl bod yr Aelod yn gofyn cwestiwn go gynhwysfawr a meddylgar, ac yna disgynnodd i’r lefel isel honno unwaith eto drwy roi cic hawdd i'r Bil partneriaeth gymdeithasol a chaffael cyhoeddus. Mae'n cyfeirio at ateb i bob problem. Mae’n ddeddfwriaeth arwyddocaol, ac yn bendant, nid yw’n cael ei ohirio; disgwylir iddi ddod gerbron y Senedd hon ym mlwyddyn gyntaf tymor y Senedd hon.