Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 9 Chwefror 2022.
Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn olaf. Gallaf roi sicrwydd i’r Aelod a’r Aelodau yma ein bod, fel Llywodraeth gyfrifol, yn gweithio ar sail drawslywodraethol. Nid ydym yn gweithredu mewn seilos ac rydym yn cydnabod ein bod yn gweithio ar y cyd, boed hynny gyda’r Gweinidog addysg, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, gyda fy nghyd-Aelodau ym maes iechyd, ac ar draws Llywodraeth Cymru yn gyffredinol i sicrhau ein bod yn gweithio fel Llywodraeth, yn gyfunol, i wneud gwahaniaeth i bobl Cymru.