Cyfraith yr UE a Ddargedwir

Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:28 pm ar 9 Chwefror 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jayne Bryant Jayne Bryant Labour 2:28, 9 Chwefror 2022

(Cyfieithwyd)

Gwnsler Cyffredinol, mae'n hanfodol gweithio ar y cyd â Llywodraethau datganoledig eraill y DU. Mae'r rhan fwyaf o bobl Cymru yn cefnogi datganoli ac wedi pleidleisio drosto ddwywaith mewn refferenda. Ni ddylai gadael yr UE olygu bod datganoli'n cael ei wanhau gan Lywodraeth y DU. Rhaid diogelu ein pwerau datganoledig. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i helpu i sicrhau bod pob gwlad yn cydweithio i amddiffyn eu buddiannau datganoledig?