Cyfraith yr UE a Ddargedwir

Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:29 pm ar 9 Chwefror 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 2:29, 9 Chwefror 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Byddwn yn cydweithio â holl Lywodraethau'r Deyrnas Unedig. Rwy'n gobeithio y bydd y trafodaethau a'r negodiadau'n cydymffurfio â'r egwyddorion y cytunwyd arnynt eisoes yn awr mewn perthynas â'r adolygiad rhynglywodraethol, sef parch at y Llywodraethau datganoledig, parch ar y ddwy ochr, ac egwyddorion uniondeb yn y ffordd y mae'r trafodaethau i'w cynnal mewn gwirionedd. Nawr, os bydd hynny'n digwydd, gallwn gael trafodaeth gadarnhaol ac adeiladol, ond rwy'n ei gwneud yn glir iawn na fyddwn yn ildio, ni fyddwn yn cyfaddawdu, os mai dim ond ymgais i gyflwyno Bil marchnad fewnol rhif 2 arall yw hyn.