Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu)

Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:46 pm ar 9 Chwefror 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 2:46, 9 Chwefror 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn eto. Rwy’n fodlon fod goblygiadau cyfansoddiadol y Bil wedi bod drwy broses graffu a gwerthuso briodol. Bydd pedwar prawf diben ar gyfer y pwerau sydd wedi’u cynnwys yn y Bil fel y’i drafftiwyd ar hyn o bryd, a dim ond pan fo Gweinidogion Cymru o’r farn fod hynny’n briodol y gellir eu defnyddio. Mae cyfyngiadau digonol ar y pwerau hyn.