Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu)

Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:47 pm ar 9 Chwefror 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru 2:47, 9 Chwefror 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Gwnsler Cyffredinol. Rydych yn llygad eich lle ynglŷn â’r pwerau eang pan fo Gweinidogion yn teimlo bod hynny'n briodol, ond rwy’n siŵr eich bod hefyd yn cofio, yn ôl yn eich dyddiau fel myfyriwr, Gwnsler Cyffredinol, cael eich dysgu mai dim ond yn rhagweithredol, at ei gilydd, y dylid defnyddio cyfreithiau, yn hytrach nag yn ôl-weithredol. Ac rwy'n siŵr hefyd, mewn darlithoedd ar y cyfansoddiad, ichi gael eich dysgu am bwysigrwydd craffu seneddol. Nawr, er bod gan y Bil hwn lawer o nodweddion synhwyrol, megis y gallu i newid y broses dreth yn gyflym i gydymffurfio â rhwymedigaethau rhyngwladol, mae’n cyfyngu ar gwmpas y craffu drwy gael gwared ar glo y Senedd. Mae clo y Senedd yn bwysig, lle'r oedd pŵer i newid y Ddeddf yn dibynnu ar gymeradwyaeth y Senedd yn unig. Mae hynny wedi mynd. Nawr, mae ehangder y Bil yn newid lleoliad pŵer yn sylfaenol yn y Senedd i Weinidogion, ac yn ogystal â hynny, mae'n rhoi pwerau i Weinidogion newid Deddfau yn ôl-weithredol. Mae hynny'n amlwg yn tanseilio rheolaeth y gyfraith drwy greu ansicrwydd o fewn y gyfraith. Nawr, rydym yn aml yn beirniadu Llywodraeth San Steffan am danseilio rheolaeth y gyfraith, ond mae’n wir am Lywodraeth Cymru yn yr achos hwn. Yng ngoleuni hynny, pa fesurau diogelu y byddwch yn eu cyflwyno yn y Bil hwn er mwyn atal erydu ar graffu a rheolaeth y gyfraith? Diolch yn fawr.