2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru ar 9 Chwefror 2022.
5. Pa gyngor a roddodd y Cwnsler Cyffredinol i'r Gweinidog cyllid ar oblygiadau cyfansoddiadol cyflwyno'r Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu)? OQ57621
Diolch yn fawr iawn eto. Rwy’n fodlon fod goblygiadau cyfansoddiadol y Bil wedi bod drwy broses graffu a gwerthuso briodol. Bydd pedwar prawf diben ar gyfer y pwerau sydd wedi’u cynnwys yn y Bil fel y’i drafftiwyd ar hyn o bryd, a dim ond pan fo Gweinidogion Cymru o’r farn fod hynny’n briodol y gellir eu defnyddio. Mae cyfyngiadau digonol ar y pwerau hyn.
Diolch yn fawr, Gwnsler Cyffredinol. Rydych yn llygad eich lle ynglŷn â’r pwerau eang pan fo Gweinidogion yn teimlo bod hynny'n briodol, ond rwy’n siŵr eich bod hefyd yn cofio, yn ôl yn eich dyddiau fel myfyriwr, Gwnsler Cyffredinol, cael eich dysgu mai dim ond yn rhagweithredol, at ei gilydd, y dylid defnyddio cyfreithiau, yn hytrach nag yn ôl-weithredol. Ac rwy'n siŵr hefyd, mewn darlithoedd ar y cyfansoddiad, ichi gael eich dysgu am bwysigrwydd craffu seneddol. Nawr, er bod gan y Bil hwn lawer o nodweddion synhwyrol, megis y gallu i newid y broses dreth yn gyflym i gydymffurfio â rhwymedigaethau rhyngwladol, mae’n cyfyngu ar gwmpas y craffu drwy gael gwared ar glo y Senedd. Mae clo y Senedd yn bwysig, lle'r oedd pŵer i newid y Ddeddf yn dibynnu ar gymeradwyaeth y Senedd yn unig. Mae hynny wedi mynd. Nawr, mae ehangder y Bil yn newid lleoliad pŵer yn sylfaenol yn y Senedd i Weinidogion, ac yn ogystal â hynny, mae'n rhoi pwerau i Weinidogion newid Deddfau yn ôl-weithredol. Mae hynny'n amlwg yn tanseilio rheolaeth y gyfraith drwy greu ansicrwydd o fewn y gyfraith. Nawr, rydym yn aml yn beirniadu Llywodraeth San Steffan am danseilio rheolaeth y gyfraith, ond mae’n wir am Lywodraeth Cymru yn yr achos hwn. Yng ngoleuni hynny, pa fesurau diogelu y byddwch yn eu cyflwyno yn y Bil hwn er mwyn atal erydu ar graffu a rheolaeth y gyfraith? Diolch yn fawr.
Diolch am eich cwestiwn. Mae’r Aelod yn codi pwynt pwysig iawn ac mae’n bwynt sydd wedi’i ystyried yn ofalus iawn; rwyf wedi meddwl amdano a gwn fod y Gweinidog cyllid wedi meddwl amdano hefyd. Ac wrth gwrs, credaf fod y Bil ar Gam 1 yn y broses graffu. Gwn fod y Gweinidog cyllid wedi rhoi tystiolaeth i’r Pwyllgor Cyllid yn y sesiwn gyntaf, yr wythnos diwethaf, ac yn sicr, mae sesiwn arall yr wythnos nesaf, a chredaf ei bod i fod i roi tystiolaeth i’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad.
Y peth cyntaf yw hanfod y Bil. Yr hyn y mae’r Bil yn ei wneud yw galluogi newidiadau i Ddeddfau treth Cymru drwy reoliadau pan fo Gweinidogion Cymru o'r farn fod y newidiadau hynny’n angenrheidiol neu’n briodol, a lle y mae'n ofynnol iddynt ddod i rym ar unwaith neu’n fuan wedyn. Felly, yn y bôn, lle y mae nifer o amgylchiadau allanol a all godi, mae'n ymwneud â diogelu uniondeb system drethi Cymru yn sgil newidiadau a all ddigwydd.
Ac rydych yn llygad eich lle—mae mater y clo yn un pwysig. Ni allaf gofio trafod unrhyw beth fel hyn pan oeddwn yn fyfyriwr. Cofiwch chi, roedd hynny dros 40 mlynedd yn ôl, felly efallai fod eich cof ychydig yn fwy ffres na fy nghof i. Ond mae'n bwynt cyfansoddiadol pwysig, a gwn fod cryn dipyn o sylwebaeth wedi bod yn ei gylch—hynny yw, y byddai'n rhaid i newid ddod gerbron y Senedd er mwyn i'r pŵer gael ei ddatgloi i alluogi ei ddefnyddio. Credaf mai'r anhawster gyda hynny yw sydynrwydd unrhyw newid y gallai fod ei angen, a chredaf fod cydnabyddiaeth gyffredinol fod angen cael y pŵer. Ond rydych yn llygad eich lle ei fod, wrth gwrs, yn bŵer sylweddol. Mae unrhyw bŵer sydd gan Lywodraeth i wneud newidiadau, a newidiadau ôl-weithredol o bosibl, yn sylweddol ac mae angen craffu arno'n drylwyr.
Y dull a ddefnyddir i wneud hyn yw cael prawf pedwar diben fel ei fod yno i sicrhau y gall ymdrin â materion sy’n codi’n annisgwyl, yn sydyn ac ati yng nghyd-destun osgoi trethi, neu i gydymffurfio â rhwymedigaethau rhyngwladol, neu i ymateb ar frys i benderfyniadau llys neu dribiwnlys, neu i bethau sy’n digwydd ar lefel Llywodraeth y DU sy’n golygu bod angen inni ymateb. Ac mewn rhai ffyrdd, mae'n eithaf tebyg i'r rheoliadau COVID yn yr ystyr eu bod yn cael eu gwneud, maent yn dod i rym ac ati, ac felly mae gennych y weithdrefn gadarnhaol, neu'r weithdrefn gadarnhaol ddrafft o bosibl, o dan ystyriaeth.
Rwy'n credu y gallaf ei ddweud eich bod yn llygad eich lle i godi’r pwynt. Mae’n fater y mae’n rhaid ei archwilio’n ofalus iawn. Mae’r Gweinidog cyllid yn mynychu gwahanol sesiynau craffu'r pwyllgorau er mwyn gwneud hynny. A heb os, bydd hyn yn dod yn ôl gerbron y Siambr hon. O ran y cydbwysedd a fy nealltwriaeth i o’r hyn sy'n angenrheidiol a’r brys sy'n angenrheidiol, o bryd i’w gilydd, i weithredu, credaf fod yr hyn sydd wedi’i gynnwys yn y Bil yn cydnabod y materion cyfansoddiadol sylweddol hynny y mae’n rhaid mynd i’r afael â hwy. Ond wrth gwrs, bydd y broses graffu yn parhau, a bydd y Gweinidog cyllid yn amlwg yn ymgysylltu fel rhan ohoni.