Part of the debate – Senedd Cymru am 4:50 pm ar 9 Chwefror 2022.
Gaf i ddechrau drwy ddatgan diddordeb fy mod i'n gynghorydd sir yn sir Gaerfyrddin? Dwi'n hynod o falch o allu cyfrannu i'r ddadl hon. Mae ecsbloetio adnoddau naturiol Cymru gan San Steffan yn fater emosiynol a hanesyddol iawn. Mae'r math hwn o economi echdynnol, hynny yw, economi extractive, wedi digwydd ers canrifoedd, gyda'n glo, ein llechi, dŵr, trydan, tai ar gyfer twristiaid, ac yn fwy diweddar ein tir amaethyddol ar gyfer plannu coed. Mae creithiau ffisegol y rheibio hwn yn dal i nodweddu ein tirwedd trwy'r tipiau glo, y tomennu llechi, ein cronfeydd dŵr, y tai gwyliau gwag, di-olau yn ystod y gaeaf, ac yn y coed lle bu cymdogaeth.
Yn mhob un o'r enghreifftiau hyn, mae cyfoeth ein hadnoddau naturiol wedi mynd allan o Gymru, a'n gadael o hyd ymhlith un or gwledydd tlotaf yn Ewrop. Ond meddyliwch pa mor gyfoethog y gallai Cymru fod petai gennym reolaeth ddeddfwriaethol dros yr adnoddau naturiol hyn. Fel mater o egwyddor, yn fy marn i, wrth galon ein holl bolisïau fel Senedd, dylid adeiladu cyfoeth cymunedol a pherchnogaeth leol ar economi a chyfalaf naturiol Cymru.
Gadwech inni ystyried adnoddau Ystâd y Goron, fel rŷn ni wedi clywed yn barod, fel enghraifft. Yn fy marn i, dylid datganoli asedau tiriogaethol Ystâd y Goron i'r lle hwn, a dod â'n hadnoddau naturiol a'r rhenti sy'n cael eu codi yn nes at adref, er mwyn creu incwm i'w ddefnyddio er lles pobl Cymru. Gellid wedyn defnyddio'r elw a ddaw o'r ystâd er mwyn ymateb i flaenoriaethau economaidd a chymdeithasol Cymru.
Mae Ystâd y Goron, fel rŷn ni wedi clywed, yn berchen ar ryw 65 y can o wely'r môr a thiroedd ar hyd yr arfordir o gwmpas Cymru. Yn ôl yr amcangyfrif diwethaf, mae'r adnoddau hyn yn werth rhyw £600 miliwn. Dychmygwch am eiliad yr elw a fyddai'n gallu dod i Gymru drwy fuddsoddi mewn cynlluniau ynni gwyrdd cyffrous ar y môr fel tyrbinau gwynt a'r morlynnoedd llanw, y tidal lagoons ac yn y blaen. Ar hyn o bryd, Ystâd y Goron sy'n dal yr hawl ar y lleoliadau hyn. Dim ond pan gânt eu rheoli gan Gymru a'i phobl y gellir defnyddio a dosbarthu adnoddau naturiol Cymru a'r rhenti economaidd sy'n deillio o'u defnydd mewn ffordd y byddai'n elwa'n cymunedau.
Wedi'r cyfan, mae Ystâd y Goron eisoes wedi ei ddatganoli i'r Alban ers 2017, ac maen nhw'n elwa o ryw £12 miliwn y flwyddyn i wario ar iechyd, addysg, trafnidiaeth cyhoeddus, ynni gwyrdd ac yn y blaen. Byddai Ystâd y Goron yn nwylo pobl Cymru yn rhoi ffynhonnell ariannol hirdymor inni, fyddai'n ein galluogi i fuddsoddi yn ein dyfodol a gwireddu ein amcanion newid hinsawdd.
Gadwech imi nesaf droi at ddŵr, sydd yn bwnc eithriadol o emosiynol inni yng Nghymru. Does dim ond rhaid i fi gyfeirio at Dryweryn er mwyn deall cymaint o effaith mae boddi Capel Celyn wedi ei gael ar ein seicoleg fel cenedl. Caiff miliynau ar filiynau o litrau o ddŵr eu tynnu o Gymru a'u hanfon dros y ffin bob dydd. Mae'r protocol dŵr presennol, sy'n amlinellu'r berthynas rhwng Llywodraethau Cymru a San Steffan yn sicrhau bod gan San Steffan y feto dros benderfyniadau sy'n ymwneud â dŵr yng Nghymru. Gallwn ni byth a dylen ni byth setlo am addewidion gwag gan San Steffan, a chydag ofnau am brinder dŵr yn tyfu a chyfnodau o sychder yn debygol o ddod yn rhywbeth mwy cyffredin yn y dyfodol, mae'n bosib iawn y daw dŵr yn adnodd hynod o werthfawr i ni. Rhaid inni felly gael cytundeb cyfreithiol na ellir byth ddinistrio cymunedau Cymru eto ar gyfer anghenion dŵr, a bod unrhyw benderfyniadau am ddiwallu anghenion yn cael eu gwneud yma gan Lywodraeth Cymru mewn ymgynghoriad â chymunedau lleol.
Dwi am orffen drwy sôn am drydan. Mae Cymru'n cynhyrchu dwywaith mwy o drydan nag sydd ei angen arnom ni. Mae'r gweddill yn cael ei allforio. Yn Ewrop, dim ond Ffrainc, yr Almaen a Sweden sy'n allforio mwy o drydan na ni yng Nghymru, ond y broblem yw, er ein cryfder, ychydig iawn o fudd sy'n dod i bobl Cymru, gyda rhyw draean o gartrefi'n dioddef o dlodi tanwydd, a'n pobl yn wynebu'r costau tanwydd mwyaf uchel yn y Deyrnas Unedig. Dyw hynny, Llywydd, ddim yn dderbyniol.
Felly—a dwi'n cloi gyda'r paragraff byr hwn—er mwyn dyfodol lle nad yw Cymru unwaith eto'n cael ei gwasgu i gyflenwi ei hadnoddau i'r byd tra bod ei phobl ei hun yn dioddef, rhaid inni sicrhau bod gan ein cenedl, ein pobl, reolaeth dros ein hased mwyaf gwerthfawr, sef ein hadnoddau naturiol. Gadewch inni beidio â gadael gwaddol i genedlaethau'r dyfodol fel ein tipiau glo a'n cronfeydd dŵr o gyfleoedd a gollwyd sy'n glwyfau dolurus o'r ffordd mae Cymru wedi cael ei hecsbloetio dros y canrifoedd. Mae'n bryd i hynny ddod i ben. Mae'n bryd inni gael rheolaeth lwyr ar yr adnoddau hynny sydd ar dir Cymru.