Part of the debate – Senedd Cymru am 4:57 pm ar 9 Chwefror 2022.
Pan fyddaf yn teithio ar hyd gogledd Cymru, naill ai ar y trên neu ar y ffordd, yn cerdded llwybr yr arfordir neu'n ymweld â'r cyrchfannau glan môr hardd, yr olygfa allan i'r môr yw tyrbinau gwynt, ac mae'r tyrbinau hynny'n eiddo i gwmni o'r Almaen, RWE, sy'n cynhyrchu traean o holl drydan adnewyddadwy Cymru. Maent yn prydlesu'r tir gan Ystâd y Goron. Mae BP wedi ennill yr hawl i ddatblygu mwy o dyrbinau gwynt ar fôr Iwerddon ar ôl i Ystâd y Goron werthu mwy o'r ardal, gan wneud miliynau o bunnoedd mewn rhent dros y degawd nesaf. Yn wahanol i'r Alban, nid yw Ystâd y Goron wedi'i datganoli yng Nghymru, ac felly nid yw'r arian hwn, a gynhyrchir gan adnoddau naturiol Cymru, yn cael ei ailfuddsoddi'n uniongyrchol i ddarparu seilwaith gwell a fydd o fudd i bobl Cymru, ac nid yw'n cael ei ddefnyddio ychwaith i sicrhau bod prisiau'n cael eu cadw ar gyfradd y gall pobl gyffredin ei fforddio. Mae EDF, sy'n eiddo cyhoeddus yn Ffrainc, yn gwerthu trydan i'r DU am bris uchel. Mae hynny ar fin codi 54 y cant. Ond yn Ffrainc, mae'r Llywodraeth wedi sicrhau bod y cynnydd wedi'i gapio ar 4 y cant. Yn Ewrop, ac mewn gwledydd sydd â'u cwmnïau eu hunain sy'n eiddo cenedlaethol, mae'r pris draean yn is nag yn y DU.
Cawn ein hamgylchynu gan gwmnïau sy'n gwneud elw i gyfranddalwyr, ond yn anffodus, mae hyn yn dilyn hanes hir o adnoddau naturiol Cymru yn cael eu hysbeilio tra bod buddiannau'r Cymry'n cael eu bwrw o'r neilltu. Boed yn lo, yn ddŵr neu'n wynt, mae'n rhaid i'r patrwm hwn ddod i ben. Mae'r argyfwng ynni a wynebwn yn awr yn dangos sut y ceir anghydbwysedd llwyr yn y system. Sut y gall fod yn iawn, tra bod pobl ledled Cymru yn ei chael hi'n anodd gwresogi eu cartrefi, fod BP a Shell yn parhau i wneud biliynau o bunnoedd mewn elw ac nad yw eu gweithrediadau môr y Gogledd wedi talu unrhyw dreth ers nifer o flynyddoedd? Mae'r system gyfan o fudd i ychydig bach o gyfranddalwyr cyfoethog iawn ar draul y lliaws.
Mae preifateiddio grid ynni'r DU, y grid cenedlaethol, yn gwneud cam â chwsmeriaid. Telir 25 y cant o filiau ynni i gwmnïau rhwydwaith. Fe'i defnyddir i lenwi pocedi cyfranddalwyr, gyda biliynau o bunnoedd yn cael eu talu mewn difidendau. Mae angen inni harneisio ein hadnoddau naturiol ein hunain i greu ynni adnewyddadwy i bobl Cymru, a chredaf yn gryf y bydd angen perchnogaeth gyhoeddus i fynd i'r afael â'r anghydbwysedd hwn, ac ynni uniongyrchol os oes modd, a pheidio â'i gyfeirio at y grid cenedlaethol er mwyn iddynt hwy wneud elw. A gwyddom fod hyn yn bosibl. Yn fy rhanbarth i, sef Gogledd Cymru, mae gan brosiectau ynni yn Abergwyngregyn elfen gymdeithasol wedi'u cynnwys ynddynt i sicrhau bod elw o'r cynllun trydan dŵr o fudd i'r gymuned leol, ac mae Cynllun Ynni a Menter Cymunedol Abertawe, cynllun sydd wedi ennill gwobrau, yn brosiect solar sy'n eiddo i'r gymuned, sy'n gweithio i ddarparu trydan glanach a mwy fforddiadwy ar gyfer pob adeilad, yn ogystal ag adnodd addysg gwerthfawr i'r gymuned leol, ac mae'n enghraifft ddisglair o'r hyn y gellir ei gyflawni.
Ond mae rheoli adnoddau naturiol yn effeithiol yn ymwneud â mwy na chynhyrchiant ynni yn unig; mae'n ymwneud â diogelu'r hyn sydd gan Gymru i'w gynnig er budd cenedlaethau heddiw a'r rhai sydd eto i ddod, ac mae hyn yn galw am gynllunio sylweddol. Mae'n bwysig ein bod yn dechrau sefydlu strategaeth ystyriol lle y ceisir caniatâd ar gyfer defnydd tir. Tir yw un o'n hadnoddau mwyaf, ac ar hyn o bryd mae hefyd yn cael ei brynu gan fusnesau mawr i negyddu eu cyfrifoldeb corfforaethol drwy wrthbwyso carbon, a dylai'r Cymry benderfynu ar y ffordd orau o ddefnyddio ein tir a hwy a ddylai elwa o hynny. I grynhoi, mae arnom angen Teyrnas Unedig ddiwygiedig lle y gwneir penderfyniadau sy'n effeithio ar Gymru yng Nghymru, a dylid datganoli'r pwerau i wneud penderfyniadau ar adnoddau naturiol Cymru i Gymru fel y gallwn greu llwybr sy'n sicrhau bod ein hadnoddau'n cael eu defnyddio er budd y lliaws ac nid ychydig rai. Diolch.