Part of the debate – Senedd Cymru am 5:14 pm ar 9 Chwefror 2022.
Ni chyflwynwyd hon fel dadl ynglŷn ag annibyniaeth. Rydym ni ar feinciau Plaid Cymru yn gwbl glir yn ein fersiwn ni o Gymru annibynnol, ac mae ein hadnoddau, rheoli'r adnoddau hynny'n ofalus er budd holl bobl Cymru, yn rhan fawr o hynny. Ond wrth gwrs, byddwn yn dadlau bod rheoli'r adnoddau hynny yn y ffordd orau y gallwn, gan atal ecsbloetio'r adnoddau sydd gennym, yn aml gan eraill o'r tu allan i Gymru, yn elfen go bwysig, hyd yn oed yn y sefyllfa gyfansoddiadol lai na delfrydol rydym ynddi ar hyn o bryd. A byddwn yn gobeithio y byddai pawb yn cytuno â hynny hefyd.
Ond mae hi mor ddiddorol gweld bod Llywodraeth Cymru, yn ei gwelliant 'dileu popeth', yn penderfynu amddiffyn y sefyllfa gyfansoddiadol bresennol, gan groesawu, i bob pwrpas, y cyfyngiad ar reolaeth dros ein hadnoddau ni. Mae'r gwelliant hwnnw'n ddatganiad dryslyd sy'n dweud mai'r ffordd i gael y rheolaeth fwyaf ar ein hadnoddau yw peidio â chael rheolaeth lwyr arnynt. Maent yn dweud mai yn y DU y cawn ein gwasanaethu orau, gyda phenderfyniadau sy'n effeithio ar Gymru yn cael eu gwneud yng Nghymru, pan fo'r un gwelliant yn dweud pa mor ofnadwy o wael y mae Llywodraeth y DU yn gwneud pethau.
Heddiw ddiwethaf yn Nhŷ'r Cyffredin, dywedodd Ysgrifennydd Gwladol y DU dros Gymru nad oes awydd ymhlith y cyhoedd i ddatganoli Ystâd y Goron yng Nghymru. Gwn fod datganoli Ystâd y Goron yn rhywbeth y mae'r Gweinidog bellach yn ei gefnogi'n fawr, ac rwy'n gwerthfawrogi ei sylwadau ar hynny heddiw, ond gadewch imi ddweud wrthych—gadewch imi gyfieithu i chi, efallai—beth oedd yr Ysgrifennydd Gwladol yn ei olygu heddiw. Yr hyn a olygai oedd nad oes gan Lywodraeth y DU unrhyw awydd i ddatganoli Ystâd y Goron i Gymru. Fel y clywsom heddiw, byddai datganoli Ystâd y Goron yn dod â manteision enfawr i Gymru, fel y mae'r Alban yn ei weld—mae'r 25 GW o gynhyrchiant ynni ar brydles a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Ystâd y Goron yr Alban yn rhyfeddol.
Credaf ei bod yn ddadlennol iawn mai'r hyn a ddysgais o sylwadau'r Aelod dros Aberconwy oedd ei bod yn credu nad ydym yn gallu rheoli'r adnoddau hynny. Byddaf yn ei groesawu os yw am amddiffyn hynny, ond yr hyn a glywais oedd nad yw'n credu y gallem wneud defnydd da o ddatganoli pwerau Ystâd y Goron.