– Senedd Cymru am 4:31 pm ar 15 Chwefror 2022.
Eitem 9 sydd nesaf a'r rheini yw'r Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2022. Galwaf ar y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol i wneud y cynnig—Rebecca Evans.
Cynigiaf y cynnig i gymeradwyo Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2022. Mae'r rheoliadau hyn yn pennu'r lluosydd at ddibenion ardrethu annomestig ar gyfer 2022-23. Yn 2017, nododd Llywodraeth Cymru ei bwriad i newid y mesur chwyddiant a ddefnyddir i gyfrifo'r lluosydd yng Nghymru o'r mynegai prisiau manwerthu i'r mynegai prisiau defnyddwyr o 1 Ebrill 2018. Mae hyn wedi'i weithredu o'r blaen drwy Orchmynion blynyddol a gymeradwywyd gan y Senedd hon. Yn dilyn hynt Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, cynnydd yn y Mynegai Prisiau Defnyddwyr yw'r sefyllfa statudol ddiofyn erbyn hyn. Ar 20 Rhagfyr, cyhoeddais y penderfyniad i symud i ffwrdd o'r sefyllfa hon ar gyfer 2022-23. Yn hytrach, bydd y lluosydd yn cael ei rewi. Mae angen cymeradwyo'r rheoliadau cyn y bleidlais ar yr adroddiadau cyllid llywodraeth leol ar setliadau terfynol llywodraeth leol a'r heddlu ar gyfer 2022-23, neu cyn 1 Mawrth 2022, pa un bynnag sydd gynharach. Felly, rwy'n ceisio cymeradwyo'r rheoliadau hyn cyn y bleidlais ar yr adroddiad ar setliad yr heddlu yn ddiweddarach heddiw.
Bydd Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2022 yn pennu'r lluosydd fel ei fod yn parhau ar y lefel a bennwyd ar gyfer 2020-21 a 2021-22, sef 0.535. Bydd y rheoliadau'n golygu na fydd cynnydd yn y biliau ardrethi i'w talu gan fusnesau a pherchnogion eiddo annomestig eraill yn 2022-23. Gwnaeth Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 newid parhaol i'r sail ar gyfer cynyddu'r lluosydd o 1 Ebrill 2022. Ein bwriad yw defnyddio CPI yn y dyfodol.
Rwy'n ddiolchgar i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am ystyried y rheoliadau. Mae polisi ardrethi annomestig wedi'i ddatganoli i raddau helaeth. Mae rhewi'r lluosydd yn atal cynnydd mewn biliau ardrethi y byddai talwyr ardrethi yn eu hwynebu fel arall. Bydd y newid hwn yn helpu busnesau a thalwyr ardrethi eraill yng Nghymru, yn enwedig o ystyried y pwysau y maen nhw wedi bod yn eu hwynebu, gan gynnal y llif sefydlog o refeniw treth ar gyfer gwasanaethau lleol. Mae'r newid yn cael ei ariannu'n llawn gan Lywodraeth Cymru. Rydym yn buddsoddi £35 miliwn i dalu am gost y rhewi fel na fydd unrhyw effaith ar y cyllid a ddarperir ar gyfer gwasanaethau lleol. Felly, gofynnaf i'r Aelodau gymeradwyo'r rheoliadau heddiw.
Y prynhawn yma rwy'n siarad yn rhinwedd fy swydd fel llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar gyllid. Fel grŵp, byddwn yn cefnogi'r rheoliadau hyn. Fel y gwyddom i gyd, mae busnesau wedi profi tarfu sylweddol a cholledion ariannol yn ystod y pandemig, ac felly bydd rhewi lluosydd NDR yn unol â'r hyn sydd wedi digwydd mewn rhannau eraill o'r DU yn helpu i leddfu'r pwysau ar fusnesau. Fodd bynnag, hoffwn wneud pwynt byr bod ardrethi busnes yng Nghymru yn dal yn uwch nag mewn rhannau eraill o'r DU. Er enghraifft, y lluosydd yng Nghymru yw 53.5c, ac yn Lloegr, y lluosydd safonol yw 51.2c, ac ar gyfer busnesau bach, mae'n 49.9c. Mae hyd yn oed y gyfradd eiddo uwch yn yr Alban yn 52.4c ac mae'n amlwg yn is na'r gyfradd safonol yng Nghymru. Ac felly rwy'n credu y gellid gwneud mwy i leihau'r lluosydd i greu amgylchedd mwy cystadleuol i fusnesau Cymru, yn ogystal â'u helpu nid yn unig i wella o'r pandemig, ond i ffynnu.
Yn olaf, byddwn i'n galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried cyflwyno lluosydd hollt, fel y gall busnesau llai elwa ar gyfraddau ardrethi annomestig is. I mi, mae braidd yn annheg bod disgwyl i fusnesau o'r fath dalu'r un lluosydd â busnesau mawr, ac felly byddai lleihau'r baich ar fusnesau llai yn helpu i roi hwb amserol iddyn nhw. Diolch.
Y Gweinidog cyllid i ymateb i hynny.
Diolch, Llywydd. Rwy'n ddiolchgar i lefarydd y Ceidwadwyr Cymreig am gadarnhau cefnogaeth y Ceidwadwyr Cymreig i'r rheoliadau heddiw. Wrth gwrs, nid yw'r llefarydd, yn ei gyfraniad, yn sôn am gynllun rhyddhad ardrethi parhaol Llywodraeth Cymru i fusnesau bach, sydd, wrth gwrs, yn cefnogi degau o filoedd o fusnesau ledled Cymru gyda'u cyfraddau, gyda llawer yn talu dim ardrethi o gwbl. Ac wrth gwrs, mae busnesau yma yng Nghymru yn dal i elwa yn y sectorau manwerthu, lletygarwch a hamdden o dalu dim cyfraddau yn y flwyddyn ariannol hon, oherwydd y penderfyniad a wnaeth Llywodraeth Cymru i ddarparu blwyddyn lawn o ryddhad, o'i gymharu â llai o ryddhad dros y ffin yn Lloegr. Ac, wrth gwrs, bydd cydweithwyr yn gyfarwydd â'r ffaith y bydd busnesau yn y sectorau hynny sydd wedi cael eu crybwyll yn cael rhyddhad ardrethi o 50 y cant yn y flwyddyn ariannol nesaf, gan gydnabod y pwysau mae'r busnesau hynny a'r sectorau hynny wedi ei deimlo. Ond, unwaith eto, rwy'n ddiolchgar am gefnogaeth llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig i'r rheoliadau heddiw.
Y cwestiwn, felly, yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, rŷn ni'n derbyn y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.