Part of the debate – Senedd Cymru am 4:51 pm ar 15 Chwefror 2022.
Mi hoffwn i egluro pam y byddaf i a Phlaid Cymru'n gwrthwynebu—a gwrthwynebu'n chwyrn—y mesur cydsyniad deddfwriaethol yma. Mae hwn yn Fil eang iawn y mae o'n berthnasol iddo fo. Mae o'n cynnwys elfennau, fel y dywedodd y Gweinidog, y mae hi'n eiddgar i'w gweld yn cael eu hymestyn i Gymru. Does gen i yn sicr ddim gwrthwynebiad i weld rhannu deddfwriaeth debyg ar draws yr ynysoedd yma mewn maes fel ei gwneud hi'n drosedd i brofi gwyryfdod, er enghraifft. Wrth gwrs ein bod ni'n cefnogi cymryd y cam hwnnw, ond, fel pwyllgor iechyd, pan ydyn ni'n edrych ar y cynnwys yn y modd yna, mi ydyn ni hefyd yn nodi dro ar ôl tro pa mor anghyfforddus ydyn ni ynglŷn â'r defnydd o'r broses yma.
Roeddwn i'n croesawu'r geiriau gan Gadeirydd y pwyllgor, Russell George, i gloi ei gyfraniad o, fod yna bryder yn cael ei leisio dro ar ôl tro o fewn y pwyllgor ynglŷn ag impact y mesurau cydsyniad yma ar integriti datganoli. Y mwyaf mae Llywodraeth Cymru'n cydsynio, y mwyaf dwi'n ofni bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cael ei grymuso i wneud mwy, i gymryd camau pellach i danseilio integriti y setliad datganoli fel ag y mae o—setliad sydd wedi cael ei gefnogi gan bobl Cymru—oherwydd yr angen i sicrhau bod y sgrwtini mwyaf manwl posib yn gallu cael ei gynnal yma yng Nghymru ar faterion sydd yn berthnasol i'n poblogaeth ni, ac, ie, ar feysydd lle y byddem ni'n bosib iawn yn dymuno dilyn yr un cyfeiriad â'n cyfeillion ni mewn rhannau eraill o'r ynysoedd yma, ond mae'n rhaid i'r sgrwtini yna ddigwydd yma yng Nghymru.
Mae'n rhaid cael yr amser i wneud y sgrwtini yna. Gallwn ni ddim cael yr amser drwy ddilyn proses chwit-chwat o gydsyniad deddfwriaethol o'r math yma. Ac fel rydw i'n dweud, o ran cynnwys a bwriad sawl elfen o'r Bil yn San Steffan, gallwn, mi allwn ni gytuno, ond gallwn ni ddim anwybyddu'r tanseilio sydd yn digwydd yma, a dyna pam ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n gwrthwynebu'n gadarn yr ymgais yma sy'n un o nifer cynyddol, wrth gwrs, ar draws holl feysydd polisi'r Senedd. A dwi'n ddiolchgar i Gadeirydd y pwyllgor deddfwriaeth am nodi mor glir nad ydy o, fel minnau, yn ystyried mai risg gyfansoddiadol fach rydyn ni'n ei hwynebu. Mae'r effaith gronnus o'r mesurau yma yn creu risg wirioneddol i ddyfodol datganoli, ac oni bai ein bod ni fel Senedd yn gwneud yn glir ein pryderon am hynny, wel, pwy sydd am wneud?