Part of the debate – Senedd Cymru am 5:16 pm ar 15 Chwefror 2022.
Y ffaith na fydd Llywodraeth San Steffan hyd yn oed yn caniatáu cais rhesymol y bydd Llywodraeth Cymru yn cydsynio i unrhyw newidiadau y byddan nhw'n eu gwneud, neu unrhyw is-ddeddfwriaeth y byddan nhw'n ei wneud, o fewn meysydd datganoledig—. Onid yw hynny'n dangos y diffyg parch llwyr sydd ganddyn nhw tuag atom ni fel Senedd?