9. Dadl Fer: Adfywio canol trefi a dinasoedd yng Nghymru: Ni fydd mwy o'r un peth yn gweithio

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:55 pm ar 16 Chwefror 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Laura Anne Jones Laura Anne Jones Conservative 5:55, 16 Chwefror 2022

(Cyfieithwyd)

Fodd bynnag, ni ellir rhoi'r bai i gyd ar y pandemig; yn bendant nid oedd pethau'n fêl i gyd cyn y pandemig. Ers dros ddegawd, cafodd ein strydoedd mawr eu taro gan storm berffaith dirwasgiad, ardrethi busnes cynyddol a mwy o gystadleuaeth ar-lein. Gwelwn ganlyniadau hyn gyda'r canlynol: rhwng 2012 a 2020, cafwyd gostyngiad o 28.8 y cant yn nifer y canghennau banc a chymdeithasau adeiladu, gan ostwng o 695 i 495; mae nifer y peiriannau ATM wedi gostwng 18 y cant yn ystod y tair blynedd diwethaf; mae niferoedd swyddfeydd post wedi gostwng 3.9 y cant yn ystod y degawd diwethaf. Ers mis Ionawr 2020, mae 64 o gwmnïau manwerthu wedi methu, gan arwain at gau 6,882 o siopau, ac effeithio ar 133,600 o weithwyr ym Mhrydain. Arweiniodd hyn at sefyllfa lle mae un o bob saith siop ar strydoedd mawr yng Nghymru yn wag. Fodd bynnag, mae'n llawer uwch, fel y dywedais, mewn ardaloedd fel Casnewydd. Yr her yn awr fydd denu cwsmeriaid yn ôl i siopau ar ôl cyfnod hir o ddibynnu ar werthiannau ar-lein.  

Pan gyflwynodd Llywodraeth Cymru gyfyngiadau ar yr hyn y gallai ac na allai manwerthwyr ei werthu, fe wnaeth hyn orfodi mwy o bobl i ddibynnu ar siopa ar-lein, sydd wedi datblygu dros y blynyddoedd i fod yn llawer mwy effeithlon gyda danfoniadau rhad neu am ddim a'r gallu i ddychwelyd eitemau yn golygu nad oes angen mynd i siop yn y cnawd. Mae'n gwbl glir i mi fod angen strategaeth ar Gymru i ddenu ystod fwy amrywiol o ddarparwyr gwasanaethau i'n trefi a'n dinasoedd. Rydym i gyd yn gwybod y gall canol trefi fod yn fywiog a chynaliadwy, cyhyd â bod penderfyniadau dewr yn cael eu gwneud a bod ganddynt arweinyddiaeth uchelgeisiol yn sbarduno datblygiad. Yn anffodus, nid yw Cymru wedi cael y math hwn o arweinyddiaeth gyda Lafur Cymru wrth y llyw. Rydym wedi gweld rhai awdurdodau lleol, fel sir Fynwy, yn gorfod mynd ati eu hunain i ddiogelu canol trefi, ac maent wedi bod yn ei wneud gydag un fraich wedi'i chlymu y tu ôl i'w cefnau gan Lywodraeth Cymru.

Mae angen inni weld syniadau radical a sylfaenol iawn yn cael eu rhoi ar waith a fyddai'n chwyldroi lleoedd fel Casnewydd, megis: darparu buddsoddiad drwy Busnes Cymru i gynorthwyo busnesau bach a chanolig eu maint i gael presenoldeb ar-lein i gystadlu â busnesau mwy; lle mae unedau ac adeiladau mwy yn parhau i fod yn wag, creu mannau manwerthu a rennir i roi pwyslais ar greu ardaloedd bwyta sy'n hyrwyddo bwytai bach annibynnol o ansawdd da; rhoi camau llymach ar waith yn erbyn ymddygiad gwrthgymdeithasol, megis cyflogi mwy o wardeiniaid diogelwch cymunedol a phwyso ar yr heddlu i gynyddu eu presenoldeb yng nghanol y ddinas fel bod pobl yn teimlo'n ddiogel yn eu trefi a'u dinasoedd eto; a gostwng ardrethi busnes fel ei fod yn rhyddhau'r baich treth ar fanwerthwyr, gan ganiatáu i'r potensial ehangu, ailfuddsoddi a chreu mwy o swyddi'n lleol. Yn ogystal, byddai'n helpu i adfywio canol trefi, gan greu ysgogiadau i ddenu busnesau i ganol trefi.

Mae angen inni asesu a lleihau taliadau parcio. Er enghraifft, mae'n well gan bobl fynd i Gwmbrân yn fy ardal yn hytrach na chanol dinas Casnewydd, oherwydd yr amrywiaeth o fusnesau a'r cyfleoedd parcio am ddim. Nid yw'n gymhleth. Mae ffyrdd ymarferol a hawdd o adfywio canol ein trefi i sicrhau eu bod yn ffynnu unwaith eto. Arferai dinas fy ardal i, Casnewydd, fod yn lle bywiog; dyna oedd y lle i fynd yn arfer bod, a byddai nifer yn teithio'n bell o Ddwyrain De Cymru i fynd yno i siopa. Nid oes unrhyw reswm pam na all fod felly eto. Yn syml iawn, mae angen inni greu lle fel bod pobl eisiau ymweld â chanol trefi a dinasoedd eto. Mae angen inni sicrhau bod pobl, yn hytrach na chael trên o Gwmbrân i Gaerdydd neu Gas-gwent i Fryste, yn canfod rhesymau dros ddod i leoedd fel Casnewydd.

Ni allwn feddwl am ein strydoedd mawr fel siopau yn unig mwyach. Mae angen inni fod yn greadigol ac yn ddyfeisgar gyda'r gofod sydd gennym i'w gynnig, gan greu profiad siopa sy'n wahanol i unrhyw beth y gallwch ei gael ar-lein. Mae angen i ganol trefi fod yn fannau lle mae pobl yn dod i ddysgu, i fanteisio ar wasanaethau cyhoeddus, i fyw ac i rannu amser. Mae'n rhaid iddynt gael y cymysgedd cyfan, ac mae angen iddo barhau i symud gyda'r oes. Mae'n rhaid i symud gyda'r oes olygu hefyd fod yn rhaid i wasanaethau ar-lein ac all-lein ddod ynghyd. Dylai pob manwerthwr, ni waeth pa mor fach, allu cynnig llwyfan e-fasnach sylfaenol fel y gall cwsmeriaid siopa ym mha ffordd bynnag sy'n gyfleus iddynt. Byddai hyn yn golygu bod cwsmeriaid yn gallu gweld beth sydd yn y siop cyn mynd ar daith i'w stryd fawr, neu'n gallu dewis archebu'n uniongyrchol o'r siop. Unwaith eto, mae'n dechrau gyda bod yn ddyfeisgar a chynnig y cymorth cywir i fusnesau lleol er mwyn iddynt allu ffynnu.   

Fodd bynnag, ni fydd dim o hyn yn bosibl oni bai bod cynghorau lleol a Llywodraeth Cymru yn penderfynu pa fath o wlad yr ydym eisiau byw ynddi, ac ymyrryd i ddiogelu'r seilwaith cymdeithasol. Gan fod arbenigwyr diwydiant wedi rhybuddio ers tro fod ardrethi busnes cynyddol yn rhan o'r rheswm dros unedau siopau gwag Cymru, mae angen inni fynd yn ôl at y pethau sylfaenol a chreu amgylchedd treth isel, deniadol i fusnesau newydd ffynnu'n hyderus. Bydd mentrau syml fel cynnig gostyngiadau ardrethi busnes i fusnesau annibynnol ac entrepreneuriaid, gwrthod cymeradwyo ceisiadau cynllunio y tu allan i'r dref a chael gwared ar daliadau parcio yn gwneud llawer i helpu ein strydoedd mawr.

I gloi, rydym angen i'r Llywodraeth hon ddarparu mwy o gefnogaeth a rhoi mwy o bwyslais ar ganol trefi a dinasoedd, gan nad yw'r polisi 'canol y dref yn gyntaf' a ddefnyddiwyd gan Lywodraeth Lafur Cymru wedi bod yn ddim byd ond methiant llwyr. Ni ellir caniatáu iddynt ddihoeni a chael eu gadael i lusgo ar ôl Caerdydd mwyach. Mae angen cymorth arnynt ar unwaith i atal y dirywiad araf. Byddai rhai o'r syniadau y tynnais sylw atynt yma heddiw nid yn unig yn rhoi ein trefi a'n dinasoedd yn ôl ar y llwybr cywir, Lywydd, byddent hefyd yn creu amgylchedd cyffrous ar gyfer mewnfuddsoddi a chyfleoedd gwaith sy'n talu'n dda. Edrychaf ymlaen at glywed gan gyd-Aelodau yn y Siambr hon heddiw am eu meddyliau a'u syniadau ar sut y gallwn adfywio canol trefi a dinasoedd sydd wedi'u taro'n galed, gan na fydd mwy o'r un peth yn ddigon.