Part of the debate – Senedd Cymru am 5:52 pm ar 16 Chwefror 2022.
Diolch, Lywydd. Hoffwn roi munud o fy amser i Peter Fox, James Evans, Janet Finch-Saunders a Samuel Kurtz.
Rwy'n falch o gyflwyno'r ddadl hon heddiw, 'Adfywio canol trefi a dinasoedd yng Nghymru: ni fydd mwy o'r un peth yn gweithio'. Erbyn hyn, mae'n bwysicach nag erioed i drafod y materion hyn ar ôl i'r ddwy flynedd ddiwethaf achosi niwed aruthrol i ganol trefi a dinasoedd. Mae'n hollbwysig ein bod yn trafod y materion allweddol sy'n wynebu canol trefi a dinasoedd a chynnig atebion ymarferol i ddiogelu ein hetholwyr a'n cymunedau wrth symud ymlaen.
Mae'r heriau sy'n wynebu Cymru yn dilyn COVID-19 yn debyg i adfywiad Prydain ar ôl y rhyfel ym 1945. Mae angen i lywodraeth genedlaethol a lleol ddarparu atebion integredig a gwneud penderfyniadau dewr wrth symud ymlaen, gan ddarparu arweinyddiaeth onest, gref a deinamig. Yn anffodus, yn fy ardal i yn Nwyrain De Cymru a gweddill Cymru, mae'r rhagolygon i lawer o ganol trefi a dinasoedd yn llwm. O bob ardal ym Mhrydain, credir mai yng Nghasnewydd y ceir y nifer mwyaf o siopau wedi cau, gyda mwy na thraean o siopau yng nghanol y ddinas wedi cau'n barhaol. Mae hyn yn dangos maint yr her a wynebwn yma yng Nghymru.
Mae'n peri pryder fod COVID-19 wedi costio mwy na thraean eu hincwm posibl i fusnesau mewn dinasoedd a chanol trefi mawr, ac wedi cau miloedd ers mis Mawrth 2020. Nododd yr adroddiad 'City centres: past, present and future' gan The Centre for Cities fod dinasoedd fel Casnewydd wedi dioddef heriau sylweddol oherwydd diffyg buddsoddiad dros y blynyddoedd gan fusnesau tra-medrus. Mae'r cwmnïau hyn yn ffafrio lleoliad yng nghanol y ddinas fwyfwy gan fod yr amgylchedd busnes dwys yn eu galluogi i rannu syniadau a gwybodaeth yn hawdd. Os yw canol dinas yn methu denu'r mathau hyn o gwmnïau, bydd y ddinas gyfan yn colli'r buddsoddiad hwn, ac yn ei dro bydd hyn yn effeithio ar gyflogau a'r gallu i gamu ymlaen mewn gyrfa a chyfleoedd yn lleol.
Mae'r diffyg mewnfuddsoddiad wedi cael effaith ganlyniadol ddinistriol ar yr economi leol ac economi Cymru yn gyffredinol. Collwyd cyfleoedd i ddenu swyddi tra-medrus a swyddi ar gyflogau uwch i'r ardal, sy'n bwydo'n ôl i broblem arallgyfeirio y soniais amdani o'r blaen. Mae hon yn enghraifft wych o pam y dylai porthladdoedd rhydd, mewn partneriaeth â Llywodraeth y DU, gael eu hyrwyddo a'u dwyn i leoedd fel Casnewydd, i annog y mewnfuddsoddiad hwnnw. Mae'r adroddiad hefyd yn dangos pa mor wael yw'r sefyllfa yn fy ardal i bellach, gyda chyfradd siopau gwag yn 24 y cant yng Nghasnewydd, o'i gymharu â Brighton a Birmingham, sydd â chyfradd siopau gwag o rhwng 8 a 10 y cant.