1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru ar 16 Chwefror 2022.
3. Beth mae'r Gweinidog yn ei wneud i sicrhau fod polisi Llywodraeth Cymru ar yr economi yn cynnwys strategaeth i daclo'r argyfwng costau byw? OQ57644
Mae ein polisïau economaidd yn cwmpasu'r holl gyfrifoldebau gweinidogol, gan gynnwys y rheini sy’n ymwneud ag ynni, tai a chyfiawnder cymdeithasol. Rwy’n parhau i weithio gyda chyd-Aelodau o'r Cabinet i sicrhau bod pob punt sydd ar gael yn darparu ar gyfer y rheini sy'n wynebu effeithiau gwaethaf argyfwng costau byw'r Ceidwadwyr.
Diolch, Weinidog. Mae incwm mwy na thri o bob 10 aelwyd ag incwm net o lai na £40,000 wedi gostwng ers mis Mai 2021, ac ar gyfer aelwydydd ag incwm net o fwy na £40,000, mae incwm mwy nag un o bob pump wedi cynyddu. Arhosodd twf cyflogau yn ei unfan ym mis Hydref, gostyngodd ym mis Tachwedd, ac mae'n annhebygol o ddechrau tyfu eto tan chwarter olaf eleni, gan effeithio'n anghymesur ar bobl ar incwm isel. Erbyn diwedd 2024, disgwylir y bydd cyflogau real £740 y flwyddyn yn is nag y byddent wedi bod pe bai twf cyflogau wedi parhau ar yr un lefel â chyn y pandemig. Mae hwn yn amlwg yn argyfwng sy'n gwaethygu gwahaniaeth economaidd a oedd eisoes yn sylweddol. Mae ffigurau a gyhoeddwyd heddiw yn dangos ein bod yn wynebu'r lefelau uchaf erioed o chwyddiant, sy’n fwy na chyflogau ac sy'n gwthio costau byw yn uwch byth. Mae maint y broblem yn golygu ei bod yn bwysicach nag erioed fod strategaeth economaidd Cymru yn canolbwyntio'n bennaf ar fynd i'r afael ag anghydraddoldeb economaidd. Felly, pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael gyda’r Gweinidog cyfiawnder cymdeithasol a chyd-Aelodau eraill yn y Llywodraeth ynglŷn â hyn, a pha bwerau economaidd pellach y mae’n credu y dylid eu datganoli i Gymru, fel y gallwn fynd i’r afael yn iawn â’r argyfwng hwn a lliniaru ei effeithiau negyddol ar ein cymdeithas? Diolch.
Diolch am y pwyntiau a’r gyfres o gwestiynau. Credaf fod y pwynt am dwf cyflogau yn ddiddorol, oherwydd hyd yn oed ar ddechrau’r wythnos hon, roedd awgrym y byddem yn gweld ffigurau twf cyflogau sylweddol, ond dangosodd y ffigurau nad oedd cyflogau wedi codi gyfuwch â chwyddiant. A chredaf fod sylwadau blaenorol Llywodraethwr Banc Lloegr ynglŷn â’r angen i atal cyflogau i geisio cadw rheolaeth ar chwyddiant—roedd sylwebwyr ac economegwyr ar y chwith a’r dde, fel petai, yn credu eu bod yn sylwadau braidd yn rhyfedd, ac ni chânt eu cadarnhau gan yr hyn sydd mewn gwirionedd yn achosi chwyddiant ar hyn o bryd: nid cyflogau sy'n gwneud hynny.
Dywedodd Sefydliad Resolution y gallwn ddisgwyl trychineb costau byw ym mis Ebrill oni roddir camau pellach ar waith. Nawr, dyna ran o'r rheswm pam y cyhoeddodd Rebecca Evans becyn gwerth £330 miliwn i Gymru ddoe. Mae’n mynd y tu hwnt i becyn Llywodraeth y DU a gyhoeddwyd ar gyfer Lloegr, ond wrth gwrs, mae hwnnw wedi’i gyflwyno yma yng Nghymru heb unrhyw arian ychwanegol yn dod i Gymru.
Ar eich pwynt ynglŷn â phwerau, credaf mai adnoddau sydd eu hangen arnom mewn gwirionedd i allu mynd i'r afael â'r argyfwng costau byw, a pharodrwydd Llywodraeth y DU hefyd i wneud rhywbeth yn ei gylch. I fusnesau yn ogystal ag i aelwydydd, credaf fod meddwl bod y datrysiad presennol a gyhoeddwyd hyd yma yn mynd i'n cynnal hyd at ddiwedd mis Ebrill braidd yn obeithiol. Credaf y bydd llawer o deuluoedd a busnesau'n ei chael hi'n anodd iawn ymdopi â'r cynnydd sydd i ddod yn y costau. Ac i lawer o fy etholwyr a llawer o bobl ledled Cymru, mae hynny’n golygu mwy byth o bobl yn gorfod dewis rhwng gwresogi a bwyta. Mae'n golygu mwy byth o rieni'n mynd yn llwglyd er mwyn ceisio sicrhau bod eu plant yn cael eu bwydo. Felly, mae yna newidiadau rydym am eu gweld: rydym am weld y toriad i gredyd cynhwysol yn cael ei adfer, rydym am weld camau gweithredu pellach. Ac rydym yn cefnogi'r achos dros godi ardoll ffawdelw ar gwmnïau ynni sy'n gwneud symiau syfrdanol o arian. Pan fo Shell a BP yn sôn am eu busnesau fel peiriannau gwneud arian, ac yn dweud na allant wario’r arian yn ddigon cyflym, ni chredaf fod hyn yn rhywbeth lle y gall Llywodraeth y DU ddweud y byddant yn gwrthod gweithredu a gadael pobl i'w tynged. Rwy’n sicr yn gobeithio bod y Canghellor yn gwrando, gan fy mod yn sicr wedi cael y sgyrsiau hynny gyda’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, y Gweinidog Newid Hinsawdd, ac yn wir, y Gweinidog cyllid ac eraill, am yr hyn y gallem ac y dylem ei wneud yma yng Nghymru gyda’r adnoddau sydd ar gael i ni.
Weinidog, elfen hanfodol o unrhyw strategaeth i helpu i fynd i’r afael â chostau byw yw sicrhau bod polisi economaidd Llywodraeth Cymru yn cefnogi busnesau, gan ganiatáu iddynt gadw pobl mewn swyddi. Mae’r arolwg tracio diweddaraf o fentrau bach a chanolig yng Nghymru, a gynhaliwyd gan Gymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig, yn dangos bod dros draean o fusnesau bach a chanolig Cymru yn obeithiol ynghylch uchelgeisiau twf dros y chwe mis nesaf. Fodd bynnag, Weinidog, nid yw 81 y cant o fusnesau bach a chanolig Cymru yn ymwybodol o’r opsiynau cyllid sydd ar gael iddynt. Felly, Weinidog, pa gamau y byddwch yn eu cymryd i sicrhau bod busnesau bach a chanolig yng Nghymru yn ymwybodol o’r cymorth sydd ar gael i ddarparu’r adnoddau sydd eu hangen arnynt i oresgyn y pwysau presennol ar eu llif arian? Diolch.
Wel, mae'n dibynnu lle mae busnesau arni, ym mha sector y maent yn gweithredu, a’r pwysau penodol sydd arnynt, ond bydd pawb yn wynebu rhai o'r heriau gyda'r cynnydd ym mhrisiau ynni, er enghraifft. Felly, mae yna her sylweddol iawn.
Gan ein bod ni, gobeithio, yn dod allan o gyfnod argyfyngus y pandemig, mae busnesau sydd wedi goroesi yn edrych i'r dyfodol, ac rwy'n edrych ymlaen at gael sgyrsiau mwy rheolaidd gyda rhanddeiliaid o'r grwpiau busnes hynny, boed ym maes manwerthu, yr economi ymwelwyr, neu weddill yr economi, am yr hyn y gallwn ei wneud i’w cefnogi gyda’u cynlluniau ar gyfer tyfu eu busnesau a beth y mae hynny’n ei olygu o ran y swyddi a chadw’r staff sydd ganddynt, oherwydd un o’r heriau mawr, unwaith eto, y mae pob sector yn eu hwynebu yw her llafur. Wrth i'r farchnad lafur dynhau, mae mwy o bremiwm ar sgiliau, mae mwy o bremiwm ar gadw staff da a phrofiadol, oherwydd mae busnesau eraill eisiau recriwtio’r bobl hynny. Mewn sawl ffordd, mae llawer o’r cynnydd yn y cyflogau a welsom yn y sectorau lle mae wedi bodoli wedi digwydd oherwydd y gystadleuaeth am bobl sydd eisoes mewn gwaith, gyda chwmnïau eraill yn awyddus i dalu premiwm i gael y bobl hynny i symud atynt. Ond gallwch ddisgwyl y byddaf yn cael y sgyrsiau rheolaidd hynny gyda grwpiau busnes a busnesau unigol i weld beth y gallwn ei wneud i'w helpu i ddod o hyd i'r ffynonellau cymorth busnes a chyfalaf a allai eu helpu i gynnal eu busnesau yn y dyfodol.
Gwn pa mor brysur yw’r Gweinidog, felly nid wyf yn siŵr a gafodd gyfle i wylio’r clip ar Channel 4 News yr wythnos diwethaf, a oedd yn sôn ynglŷn â sut y mae’r argyfwng costau byw yn effeithio ar drigolion mewn cymunedau fel Pen-rhys yn fy etholaeth. O’r e-byst a’r negeseuon a gefais ddoe yn unig, gwn fod y pecyn cymorth gwerth £330 miliwn y mae Llywodraeth Cymru wedi’i gyhoeddi wedi’i groesawu â breichiau agored ac y bydd yn gwneud byd o wahaniaeth i rai o’r teuluoedd mwyaf anghenus yn y Rhondda. Mae hyn mewn cyferbyniad llwyr â gweithredoedd Llywodraeth Geidwadol y DU sydd wedi methu defnyddio’r ysgogiadau sydd ar gael iddynt yn effeithiol, gan gynnig benthyciad o £200 yn unig. Fel y dywedodd fy nghyd-Aelod, Sarah Murphy, ddoe, nid y rhai yr effeithiwyd arnynt fwyaf gan yr argyfwng costau byw yw’r rhai sydd ar fai yma. A yw’r Gweinidog yn cytuno bod angen i Lywodraeth y DU gamu i’r adwy a chefnogi trigolion ledled Cymru, yn hytrach na’n hanwybyddu ni?
Rwy'n cytuno'n llwyr, a gwelais beth o’r adroddiad ar Channel 4, ac roedd yn peri gofid mawr, nid yn unig am fod pobl yn wynebu’r sefyllfa honno, oherwydd gwn y bydd gennyf etholwyr yn rhan ddeheuol dinas Caerdydd sydd hefyd yn wynebu her sylweddol iawn o ran sut y byddant yn rheoli incwm a gwariant eu haelwyd eu hunain ac sy’n wirioneddol ofnus am eu dyfodol. Ac nid yw hynny heb reswm, oherwydd, i lawer o deuluoedd, mae’n fater o bunnoedd a cheiniogau. I lawer o deuluoedd, bydd y cynnydd sy'n dod i filiau ynni yn her wirioneddol i nifer hyd yn oed yn fwy o bobl. Dyna pam y mae'r codiadau pellach y disgwyliwn eu gweld ym mis Ebrill yn newyddion mor ddrwg, ac mae pobl yn gwybod eu bod yn dod hefyd.
Mae angen i Lywodraeth y DU edrych eto, oherwydd bydd y benthyciad y maent yn ei ddarparu yn ychwanegu at filiau’r dyfodol i'r bobl sydd leiaf tebygol o allu eu fforddio. Mae angen iddynt edrych eto hefyd ar y cymorth y maent wedi’i ddarparu, oherwydd mae’r cynllun yng Nghymru yn becyn llawer mwy hael, gyda phawb sy’n cael budd-dal gostyngiad y dreth gyngor hefyd yn cael rhan o’r pecyn a gyhoeddwyd gennym, ond nid wyf yn credu y bydd y pecyn presennol yn ddigonol mewn unrhyw ffordd, ac mae’n brawf i weld a yw’r Llywodraeth yn barod i wneud y peth iawn a gwario arian ar deuluoedd nad oes bai arnynt am yr argyfwng costau byw, neu a fyddant yn eu gadael i'w tynged. Gwn beth y byddai’r Llywodraeth hon yn ei wneud pe bai gennym fodd o ddarparu mwy o gymorth, a gwn beth y byddai Llywodraeth dan arweiniad ein plaid yn y DU yn ei wneud i sicrhau nad yw pobl yn cael eu gadael i’w tynged ond yn hytrach yn cael eu cefnogi’n briodol drwy argyfwng nad oes unrhyw fai arnynt hwy amdano.