Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:35 pm ar 16 Chwefror 2022.
Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddymuno pen-blwydd hapus iawn i’r Gweinidog iechyd. Nid oeddwn yn gwybod nes i’r Aelod dros Ganol De Cymru grybwyll y peth yn gynharach. Felly, rwy'n dymuno pen-blwydd hapus iawn i chi yn un ar hugain. [Chwerthin.]
Ond mae fy nghwestiynau ar gyfer y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, felly fe ddechreuaf drwy ofyn i’r Dirprwy Weinidog: sut y mae integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol yn edrych i chi?