Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:36 pm ar 16 Chwefror 2022.
Diolch i Gareth Davies am ei gwestiwn. Mae integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol yn rhywbeth yr ydym yn gweithio’n galed iawn i’w gyflawni. Rydym yn rhoi hyn ar waith yn ein byrddau partneriaeth rhanbarthol, lle mae gennym yr awdurdodau iechyd a’r awdurdodau llywodraeth leol yn gweithio gyda’i gilydd ar lunio cynigion sy’n gwbl integredig. Mae hefyd yn bwysig iawn cofio, pan fyddwn yn sôn am wasanaeth integredig, fod yna wasanaethau eraill pwysig iawn hefyd. Er enghraifft, ar y byrddau partneriaeth rhanbarthol, ceir cynrychiolaeth o'r maes tai, caiff dinasyddion eu cynrychioli, a chaiff gofalwyr di-dâl eu cynrychioli. Mae fy ngweledigaeth am wasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol integredig yn un lle y gallwch symud yn ddi-dor rhwng y ddau wasanaeth, a lle y ceir sefydliadau fel y byrddau partneriaeth rhanbarthol sy’n gallu cynllunio ar sail integredig.