Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:40 pm ar 16 Chwefror 2022.
Rydym yn datblygu data ein gwasanaethau ac yn dadansoddi pam fod y mwy na 1,000 o bobl hynny’n cael eu cadw yn yr ysbyty pan na ddylent fod yno. Yn y rhan fwyaf o achosion, y rheswm am hyn yw nad ydynt yn cael cymorth gan y gwasanaethau gofal cymdeithasol, ond mae rhesymau eraill hefyd. Er enghraifft, mae cyfathrebu'n broblem fawr. Mae oedi weithiau ar gyfer pethau fel meddyginiaeth. Ceir llawer o oedi, ac rydym wrthi’n dadansoddi’r data hwnnw. Ond unwaith eto, credaf fod Gareth Davies yn gwneud pwynt pwysig fod angen yr wybodaeth honno arnom er mwyn cynllunio mewn ffordd gynhyrchiol.