Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:39 pm ar 16 Chwefror 2022.
Diolch eto, Ddirprwy Weinidog. Wrth gwrs, os ydym o ddifrif am fynd i'r afael â rhyddhau pobl o’r ysbyty, mae angen inni fynd i'r afael ag oedi wrth drosglwyddo gofal. Nid yn unig y mae angen inni sicrhau bod iechyd a thai yn tynnu i'r un cyfeiriad, ond yn gyntaf, mae'n rhaid inni ddeall yn iawn beth yw maint y broblem, ac mae'r data'n dameidiog ar y gorau. Roedd felly cyn y pandemig, ac mae wedi mynd yn waeth byth. Gall gwahanol adrannau yn yr un ysbyty ddefnyddio meini prawf gwahanol ar gyfer yr hyn sy'n oedi wrth drosglwyddo gofal. Gwyddom gan y Gweinidog fod GIG Cymru yn credu bod oddeutu 1,000 o gleifion yn feddygol ffit i gael eu rhyddhau, ond yn parhau i fod mewn gwelyau ysbyty acíwt, ond nid ydym yn gwybod yn iawn ai pigyn y rhewfryn yn unig yw hynny ai peidio. Ddirprwy Weinidog, sut y bwriadwch gael iechyd a gofal cymdeithasol i weithio gyda’i gilydd i sicrhau bod gennym ddata cywir a chyfredol am achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal a’r rhesymau dros oedi wrth ryddhau cleifion?