1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 1 Mawrth 2022.
2. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynllun datblygu lleol newydd Caerdydd? OQ57696
Llywydd, mater i gyngor dinas Caerdydd yw hwn. Mae’r cyngor yn cyflawni ei gyfrifoldeb i lunio cynllun datblygu lleol cyfredol gyda’r fframwaith a amlinellir gan Lywodraeth Cymru.
Diolch yn fawr, Prif Weinidog. 0.6 y cant y flwyddyn oedd rhagfynegiad diweddaraf Llywodraeth Cymru ar gyfer twf poblogaeth Caerdydd, fodd bynnag, mae'r tri opsiwn a roddwyd gan Gyngor Caerdydd yn y cynllun datblygu lleol newydd yn llawer uwch na hynny. Yr opsiwn cyntaf yw 19,000 o gartrefi ychwanegol ar 0.8 y cant y flwyddyn, 24,000 gyda thwf rhagamcanol o 1 y cant yw'r ail, a 30,500 gydag 1.3 y cant o dwf y flwyddyn yw'r trydydd—mwy na dwywaith amcanestyniad Llywodraeth Cymru a bron i 20 y cant o'r cartrefi presennol yng Nghaerdydd. Hefyd, y bwriad yw adeiladu ar safleoedd tir glas pellach yng Nghaerdydd.
Rwy'n gwybod ei bod yn rhan sylfaenol o'r cytundeb cydweithredu rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru i ddiogelu mannau gwyrdd, i ddiogelu bioamrywiaeth, ac i blannu mwy o goed. A yw'r Prif Weinidog yn gwybod pam mae Cyngor Caerdydd yn defnyddio rhagfynegiadau uwch na Llywodraeth Cymru, ac a wnaiff annog y cyngor i ddiwygio ei ragfynegiadau i'n galluogi ni i ddiogelu mwy o'n hamgylchedd a bioamrywiaeth? Diolch yn fawr.
Llywydd, wel, mae'n un o ofynion 'Polisi Cynllunio Cymru' bod yn rhaid i awdurdod lleol, wrth lunio cynlluniau, ystyried amcanestyniadau tai diweddaraf Llywodraeth Cymru ar lefel awdurdod lleol, ac fel y mae Rhys ab Owen wedi ei ddweud, mae'r amcanestyniadau diweddaraf yn is na phan luniwyd cynllun datblygu lleol gwreiddiol Caerdydd. Ond yn ogystal â'r amcanestyniadau hynny, mae gan awdurdod lleol hawl i ystyried pethau eraill. Yn sicr, yn achos Caerdydd, bydd yr awdurdod lleol yn ystyried y ffaith bod 7,700 o ymgeiswyr ar ei restr aros bresennol, heb sôn am unrhyw dwf yn y boblogaeth yn y dyfodol. Byddan nhw'n ystyried y ffaith bod Caerdydd wedi ei neilltuo fel ardal dwf genedlaethol yn fframwaith datblygu cenedlaethol Cymru. Rwy'n credu bod y cyngor ar gamau cynnar y fersiwn ddiweddaraf hon o'i gynllun datblygu. Bydd llawer o gyfleoedd i ddinasyddion Caerdydd leisio eu barn a gwneud y pwyntiau y bydden nhw'n dymuno eu gwneud i'r awdurdod lleol wrth iddo fynd drwy wahanol gamau'r cynllun hwnnw, gan gynnwys a hyd at archwiliad yr arolygydd annibynnol o'r cynllun, a ddisgwylir yn 2024.
Wrth gwrs, rwy'n cytuno â'r hyn a ddywedodd Rhys ab Owen am bwysigrwydd mannau gwyrdd yn y ddinas. Roedd yn dda iawn gweld, ym mis Hydref y llynedd, fod mynegai awdurdodol Prifysgol Southampton wedi enwi Caerdydd fel y ddinas wyrddaf ond dwy yn y Deyrnas Unedig gyfan, ac ym mis Tachwedd y llynedd, fod y ddinas wedi sicrhau statws dinas hyrwyddo o dan gynllun clodfawr Canopi Gwyrdd y Frenhines, y cynllun y bwriadwyd iddo nodi'r garreg filltir ddiweddaraf yn nheyrnasiad y sofran. Mae hynny oherwydd prosiect y cyngor i gynyddu'r ddarpariaeth canopi coed ar gyfer Caerdydd o 19 y cant i 25 y cant. Ochr yn ochr â hynny, fel y nodwyd hefyd yn y cytundeb cydweithredu rhwng fy mhlaid i a Phlaid Cymru, bydd y cyngor yn gwneud popeth o fewn ei allu i wneud yn siŵr bod tai addas a fforddiadwy i'w holl ddinasyddion.