1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 1 Mawrth 2022.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, wrth i ni ddathlu ein diwrnod cenedlaethol yma yng Nghymru—ac mae'n wych gweld blodyn cenedlaethol Wcráin yn eistedd ochr yn ochr â blodyn Cymru, y genhinen Pedr—mae'n werth myfyrio, ar ochr arall cyfandir Ewrop, fod unben gwallgof yn ceisio dileu cenedl sofran arall drwy weithredoedd creulon yr ydym ni i gyd wedi bod yn dyst iddyn nhw dros y pump, chwe diwrnod diwethaf, ac yn parhau i fod yn dyst iddyn nhw ddydd ar ôl dydd bellach, ar ein newyddion. Yn wir, gyda thristwch, dolur ac anghrediniaeth y mae llawer ohonom yn edrych ar y gweithredoedd hyn sy'n datblygu, fel y dywedais, o ddydd i ddydd, o awr i awr, o funud i funud. Mae'n rhaid i mi ddweud, un o'r delweddau a fydd yn aros gyda mi am weddill fy oes fydd y ddelwedd a welais y bore yma o blentyn ifanc mewn coflaid gyda'i fam, yn dioddef o driniaeth canser, triniaeth cemotherapi; roedd yr ofn pur a'r arswyd llwyr ar wyneb yr un bach hwnnw yn anghredadwy ac yn amhosibl ei ddychmygu.
Prif Weinidog, ar y meinciau hyn, rydym ni eisiau gweld croeso mor gynnes â phosibl yn cael ei gynnig gan Gymru i ffoaduriaid sy'n dod o Wcráin, oherwydd eu bod nhw'n haeddu'r diogelwch hwnnw ac maen nhw'n haeddu'r noddfa honno. A ydych chi, fel Llywodraeth Cymru, wedi gallu mesur faint o gymorth a chefnogaeth y gallwn ni ei gynnig i'r ffoaduriaid sy'n dod o Wcráin? Mae'r rhagfynegiadau yn dangos y gallai arwain at ddadleoli rhwng 4 miliwn a 5 miliwn o bobl sy'n dod o Ukrain. Mae hynny'n rhywbeth nad ydym ni wedi ei weld ar gyfandir Ewrop ers yr ail ryfel byd. Rwy'n credu bod pob un ohonom ni wedi meddwl na fyddem ni byth yn gweld delweddau o'r fath eto, ond rydym ni'n gweld y delweddau hynny nawr. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig i ni ddeall, er ein bod ni i gyd yn dymuno croesawu a helpu'r ffoaduriaid, yn union faint o gymorth y gallwn ni, fel gwlad, fel rhan o'r Deyrnas Unedig, ei gynnig i'r ffoaduriaid hynny yma yng Nghymru.
Diolch i arweinydd yr wrthblaid am yr hyn a ddywedodd am gefnogaeth ei blaid i'r ymdrechion a fydd yn cael eu gwneud i groesawu ffoaduriaid yma yng Nghymru. Rwy'n gwybod ei fod yn golygu hynny yn ddiffuant iawn yn bersonol ac ar ran ei blaid. Rwy'n ei groesawu. Rwy'n credu bod ei gwestiwn yn un anodd iawn ei ateb ar hyn o bryd. Fel y mae'n ei ddweud, mae dadleoli'r boblogaeth o Wcráin yn cael ei deimlo'n fwyaf uniongyrchol ar hyn o bryd yn y gwledydd hynny sydd â ffin uniongyrchol ag Wcráin, ac mae'n anodd iawn gwybod ar hyn o bryd faint o'r bobl hynny a fydd yn dymuno symud y tu hwnt i'r gwledydd hynny a faint a fydd yn dymuno aros mor agos ag y gallan nhw i'r mannau y maen nhw'n hanu ohonyn nhw gan obeithio y byddan nhw'n gallu dychwelyd i'w cartrefi eu hunain cyn gynted ag y gallan nhw.
Gallaf roi'r un sicrwydd iddo ag a gynigiais yn gynharach, Llywydd. Rydym ni, fel Llywodraeth Cymru, wedi cael cyfleoedd rheolaidd yn ystod y 10 diwrnod diwethaf i gael sgyrsiau uniongyrchol â Llywodraeth y DU a Llywodraethau mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Rwyf i fy hun, ar liwt Llywodraeth y DU, wedi cael sesiwn friffio gan y cynghorydd diogelwch cenedlaethol i wneud yn siŵr bod gennym ni'r wybodaeth orau bosibl sydd ar gael i ni ar gyfer ein cynllunio. Wrth i'r sefyllfa ddod yn fwy eglur—a gallai ddod yn fwy eglur mewn ffordd sy'n dweud wrthym ni y bydd pethau hyd yn oed yn waeth nag yr ydym ni'n ei ofni ar hyn o bryd, yn hytrach na gobeithio, fel y mae'n rhaid i ni ei wneud, y bydd pethau yn well—byddwn yn gweithio mor agos ag y gallwn ni, ac mewn modd mor gydweithredol ag y gallwn ni, gyda rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig i wneud yn siŵr bod Cymru yn chwarae'r rhan lawnaf y gallwn ni yn yr hyn y mae'n rhaid iddi fod yn ymdrech genedlaethol ar draws y Deyrnas Unedig, ond yn ymdrech ryngwladol hefyd, gyda'r cenhedloedd eraill hynny yn NATO, yn yr Undeb Ewropeaidd a thu hwnt. Oherwydd dim ond drwy'r ymdrech gyfunol honno y bydd y byd yn gallu gwneud yr ateb i'r Arlywydd Putin, felly nad oes unrhyw amheuaeth ganddo am ganlyniadau'r camau y mae wedi eu cychwyn, ond hefyd ymdrin â'r canlyniadau dyngarol y mae'n rhaid i bob un ohonom ni chwarae rhan mewn mynd i'r afael a nhw.
Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Rydym ni wedi cael llawer o enghreifftiau o ffoaduriaid yn ymgartrefu yng Nghymru a'r gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi ei rhoi ar waith, a Llywodraeth y DU a chyrff cyhoeddus yn gyffredinol, yn ogystal ag unigolion preifat. Fel y dywedais yn fy sylwadau agoriadol i chi, mae maint yr hyn yr ydym ni'n edrych arno heddiw o Wcráin yn rhywbeth na fu'n rhaid i ni ymdrin ag ef a'i ddioddef ers yr ail ryfel byd. A ydych chi'n rhagweld—ac rwy'n sylweddoli yn eich ymatebion cynharach eich bod chi wedi cyfeirio at gyfarfodydd sy'n cael eu cynnal gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Gweinidog cyllid yfory gyda phartneriaid yn y gwaith hwn—y bydd yn rhaid i fodel newydd ddod i'r amlwg gan Lywodraeth Cymru ac, yn wir, gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, i fynd i'r afael â maint yr hyn yr ydym ni'n ei wynebu, fel y gellir cefnogi pobl yn wirioneddol yn eu hawydd naill ai i ymgartrefu yng Nghymru neu weddill y Deyrnas Unedig, neu, yn wir, ei defnyddio fel hafan dros dro tra bod pethau, gobeithio, yn sefydlogi yn ôl yn Wcráin ac y gall Wcráin fod yn genedl sofran falch honno yr ydym ni ar draws y Siambr hon yn dymuno ei gweld ar gyfandir Ewrop?
Yn bersonol, Llywydd, rwy'n credu y bydd angen system wahanol arnom ni. Roeddem ni'n falch iawn o groesawu teuluoedd o Affganistan i Gymru, ac fel y bydd yr Aelodau yma yn gwybod, roedd llawer ohonyn nhw yn byw ar draws y ffordd, yn llythrennol, o'r Senedd yn adeilad yr Urdd pan ddaethon nhw yma am y tro cyntaf. Mae wedi bod yn un o'r pleserau mawr i mi yn ddiweddar, o'r swyddfa yr wyf i'n gweithio ynddi yma, y tu allan i fy ffenestr, weld a chlywed plant o Affganistan yn chwarae yn ddiogel ar y strydoedd yma yng Nghaerdydd. Rydych chi'n meddwl am yr hyn y mae'r plant hynny wedi ei weld a'i ddioddef, a dyma nhw yn yr awyr iach yn chwarae gemau plant, yn siarad Cymraeg gyda'i gilydd o fewn ychydig wythnosau o gyrraedd yma. Roedd yn codi calon ei weld a'i glywed. Ond rydym ni'n gwybod nad yw'r gwaith o neilltuo'r teuluoedd hynny i'w hailsefydlu'n barhaol wedi bod mor gyflym nac mor llwyddiannus ag yr oedd y Swyddfa Gartref wedi ei fwriadu yn wreiddiol. Felly, mae gwersi i'w dysgu, fel y gofynnwyd i mi, rwy'n credu, gan Mark Isherwood, ac un o'r gwersi hynny yw fy mod i'n credu y bydd angen system wahanol arnom ni os ydym ni am ymdopi â gwahanol fath o angen ffoaduriaid, a bydd hynny yn cynnwys Llywodraeth y DU, wrth gwrs, ond yn gweithio gyda'r Llywodraeth yma yng Nghymru a thrwom ni gyda'n hawdurdodau lleol.
Diolch, Prif Weinidog, am yr ateb yna. O ystyried y sefyllfa ansicr o ran heddwch yn nwyrain Ewrop heddiw, nid oes gennym ni unrhyw syniad beth fydd y gwallgofddyn yn y Kremlin yn ei wneud nesaf. Gallai ddewis ymosod ar wledydd y Baltig—aelodau NATO, dylwn i ychwanegu. A allech chi gadarnhau felly y byddech chi'n cefnogi penderfyniad Llywodraeth y DU i gadw at ei rhwymedigaethau NATO pe bai erthygl 4 yn cael ei sbarduno, fel y dywedodd Ysgrifennydd Tramor Prydain? Ac a allech chi gadarnhau cefnogaeth Llywodraeth Cymru i NATO, fel y gwnaethoch ei nodi'n gynharach wrth gyfeirio at NATO, yn yr oes beryglus iawn hon yr ydym ni'n byw ynddi?
Mae'n bosibilrwydd brawychus y mae'r Aelod yn ei amlinellu, ond mae'n iawn i wneud hynny, oherwydd, er na fyddai modd ei ddychmygu ychydig wythnosau yn ôl, mae'n rhaid i ni feddwl am yr hyn a fyddai'n digwydd pe bai ymosodiad ar wladwriaeth NATO yn y ffordd yr ymosodwyd ar Wcráin. Rydym ni'n sôn yma am wledydd yr un maint â Chymru—am Estonia a Lithwania, gwledydd sydd bellach â gwarchodaeth NATO o'u hamgylch ond sydd wedi eu lleoli ar y rheng flaen gyda Rwsia. Wrth gwrs, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo'n llwyr i ymbarél NATO sy'n ein hamddiffyn ni i gyd. Bydd pob un person yn yr ystafell hon yn gobeithio yn erbyn gobaith nad oes angen i ni alw ar hynny byth. Rydym ni wedi gweld yr hyn y mae'r Arlywydd Putin wedi ei ddweud yr wythnos hon am yr arfau niwclear sydd ganddo wrth law. Nid wyf i'n credu y byddai unrhyw un ohonom ni yn fodlon ystyried yn hawdd beth allai ddigwydd pe bai angen galw ar yr amddiffyniad NATO hwnnw mewn gwirionedd. Ond, yr ateb uniongyrchol i gwestiwn yr Aelod yw bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo'n llwyr i'r amddiffyniadau y mae aelodaeth o NATO yn eu darparu i ni.
Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, ar hyn o bryd, mae llong sy'n cludo olew o Rwsia wedi ei docio yn Aberdaugleddau; cyrhaeddodd yno ddydd Sadwrn ac mae'r olew ar ei ffordd i burfa olew Valero. Mae disgwyl i ail long, sydd hefyd yn cludo olew o Rwsia o borthladd llwytho olew Primorsk yn Rwsia, gyrraedd Aberdaugleddau ddydd Gwener. Mae Llywodraeth y DU wedi rhoi sancsiynau ar waith i atal llongau â baner Rwsia, sydd wedi eu cofrestru yno, sydd mewn perchnogaeth yno neu'n cael eu rheoli gan y wlad rhag docio yn y DU, ond yn yr achos hwn, yn y bôn maen nhw'n osgoi hynny drwy ddefnyddio gwlad baner cyfleustra, yn yr achos hwn Ynysoedd Marshall. A ydych chi'n cytuno â mi fod angen cau'r bylchau hynny sy'n amlwg yn cael eu defnyddio ar hyn o bryd ar frys ac na ddylid dadlwytho diferyn o olew Rwsia i Gymru, drwy borthladd yng Nghymru, tra bod gwaed pobl ddiniwed yn cael ei dywallt yn Wcráin?
Rwy'n cytuno yn llwyr â'r pwynt olaf y mae arweinydd Plaid Cymru wedi ei wneud, Llywydd. Mae Llywodraeth y DU wedi cymryd camau i atal llongau sy'n defnyddio baner Rwsia rhag defnyddio porthladdoedd y DU, a gwnaeth hynny gan fod llong ar fin cyrraedd yr Alban o dan yr amgylchiadau hynny. Rwy'n credu ei bod hi'n anochel, Llywydd, mewn sefyllfa sy'n newid mor gyflym, pan fydd Llywodraethau yn cymryd un cam, y bydd ymdrechion yn cael eu gwneud i geisio ei osgoi a mynd o'i gwmpas. Pan nodir y bylchau hynny, bydd angen i Lywodraeth y DU weithredu eto i wneud yn siŵr bod bwriad eu polisi, sef atal olew o Rwsia rhag cael ei ddadlwytho ym mhorthladdoedd y DU, yn amlwg, yn effeithiol, a phan fydd bylchau neu ffyrdd o amgylch y rheolau yn cael eu canfod—ac mae'n anochel y bydd eraill yn chwilio amdanyn nhw—fod Llywodraeth y DU yn cael yr wybodaeth honno mor gyflym â phosibl ac yna'n gallu gweithredu ar ei sail yr un mor gyflym.
Yn ystod ymweliad Mick Antoniw a minnau ag Wcráin, cawsom gyfle i gyfarfod ag amrywiaeth eang iawn o bobl—do, Gweinidogion y Llywodraeth, ond, yn bwysicach na hynny, dinasyddion cyffredin Wcráin, undebwyr llafur, trefnwyr hawliau dynol, pobl yn y mudiad menywod a phobl yn y gymuned LGBT. Yr un peth yr oedden nhw i gyd yn unedig yn ei gylch oedd bod y polisi o sancsiynau a gyflwynwyd hyd yn hyn yn annigonol ac nad oedd difrifoldeb y digwyddiadau yn gofyn am ddim byd yn brin, dim llai nag ynysu Rwsia yn llwyr yn economaidd, yn wleidyddol, yn ddiplomataidd ac yn ddiwylliannol, gan gynnwys, gyda llaw, embargo llwyr ar yr holl fewnforion olew a nwy. A yw hynny yn rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei gefnogi mewn egwyddor? Ac yn yr ysbryd hwnnw, a ydych chi'n barod, fel Llywodraeth Cymru, i gyflwyno polisi nad oes unrhyw sefydliad—diwylliannol, chwaraeon—nac, yn wir, cwmni, drwy'r contract economaidd sy'n llywodraethu cymorth busnes, sy'n cynnal cysylltiadau gweithredol â Rwsia, wrth i'r rhyfel barhau, neu fod meddiannaeth filwrol yn parhau, yn cael unrhyw gymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru?
Wel, rwy'n credu ei bod yn ddyletswydd ar bob rhan o'r Deyrnas Unedig i bwyso am y lefel uchaf o sancsiynau economaidd, ac ochr yn ochr â sancsiynau economaidd, y mathau eraill hynny o weithredu ym meysydd y celfyddydau ac mewn chwaraeon, a mathau eraill o gyswllt—y math uchaf o rwystr rhag iddyn nhw allu parhau, er mwyn, fel yr ydym ni wedi dweud droeon ar y llawr y prynhawn yma, sicrhau bod y neges yn cael ei gosod yn gadarn ym meddyliau'r rhai sy'n gyfrifol am y gweithredu hwn. A dyma'r foment i wneud hynny, Llywydd. Nid yw'n fater o fod yn ddoeth ar ôl y digwyddiad. Rwy'n gobeithio y bydd Aelodau yn y Siambr a fydd yn cael cyfle i ddarllen eto adroddiad y pwyllgor cudd-wybodaeth a diogelwch ar Rwsia, a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2020, dan gadeiryddiaeth Aelod Ceidwadol o Dŷ'r Cyffredin, a ddaeth i'r casgliad canlynol
'yn ein barn ni... roedd y Llywodraeth wedi llwyr danamcangyfrif bygythiad Rwsia a'r ymateb yr oedd ei angen.'
Galwodd, ym mis Gorffennaf 2020, am fwy o sancsiynau yn erbyn cyfundrefn Rwsia. Dyna fel oedd hi yr adeg honno. Gan wybod yr hyn a wyddom ni yn awr, nid wyf i'n credu y gall fod unrhyw betruso wrth sicrhau ein bod yn rhoi pob bricsen y gallwn gael gafael arni yn y wal honno o sancsiynau a fydd yn cyfleu i'r rhai sy'n gyfrifol am y gweithredu yn Wcráin y bydd y gweithredu hynny'n arwain at ganlyniadau uniongyrchol iddyn nhw.
Cafwyd dau gais arall am weithredoedd o undod rhyngwladol a glywsom gan ein cyfeillion yn Wcráin. Un am gymorth ymarferol ar unwaith, ac un o arwyddocâd symbolaidd enfawr. Y cymorth ymarferol yr oedden nhw'n galw amdano oedd canslo dyled dramor Wcráin ar unwaith. Hyd yn oed wrth i ni siarad, yng nghanol rhyfel, mae Llywodraeth Wcráin yn gorfod trin ei dyled dramor hyd at $0.5 biliwn y mis—arian nad oes ganddi yn amlwg.
Yr alwad symbolaidd ar ôl i'r Arlywydd Zelenskyy lofnodi'r cais am aelodaeth o'r UE gan Wcráin ddoe yw i'r Undeb Ewropeaidd ddangos ei bod wedi ymrwymo i aelodaeth Wcráin o'r Undeb Ewropeaidd, ac y bydd yn ei gyflawni drwy lwybr carlam. Pa ffordd well o symboleiddio'r ffaith bod Wcráin yn wlad ddemocrataidd, a bod y gwerthoedd sydd wrth wraidd yr Undeb Ewropeaidd yn gofyn am ymateb cadarnhaol i gais Wcráin am aelodaeth ddoe?
Wel, Llywydd, rwy'n cytuno'n llwyr ag Adam Price nad ydym wedi disbyddu o bell ffordd y camau y mae angen eu cymryd. Mae Rwsia'n parhau i ennill $1 biliwn y dydd o werthu nwy ac olew i Ewrop, ac, ar yr un pryd, mae Wcráin yn talu, fel y dywedodd yr Aelod, $0.5 biliwn i drin ei dyled, eto i'r gorllewin. Ac o dan yr amgylchiadau yr ydym yn eu gweld, does bosib bod hynny'n iawn.
Ac o ran yr ail bwynt, y pwynt ynghylch dyled dramor, mae yna gamau gweithredu sy'n uniongyrchol yn nwylo Llywodraethau sofran y gallen nhw eu cymryd yn awr. Rwyf ar ddeall bod Arlywydd Wcráin wedi annerch Senedd Ewrop y bore yma. Byddaf ym Mrwsel fy hun yfory, Llywydd, fel rhan o ddathliadau Dydd Gŵyl Dewi, ac yn ailddatgan ein cysylltiadau â'r cenhedloedd a'r rhanbarthau pwysig hynny yn Ewrop. Byddaf yn cyfarfod ag Is-lywydd Senedd Ewrop fel rhan o'r ymweliad hwnnw, ac rwy'n edrych ymlaen at y cyfle i drafod anerchiad Arlywydd Wcráin i Senedd Ewrop, a'r camau yr wyf i ar ddeall bod y Senedd eisoes wedi'u cymryd i ddechrau'r ymateb y mae arweinydd Plaid Cymru wedi cyfeirio ato y prynhawn yma.