Cefnogaeth i Filfeddygon

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:35 pm ar 1 Mawrth 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:35, 1 Mawrth 2022

Diolch i Heledd Fychan am y cwestiwn, Llywydd. Mae mwyafrif y milfeddygon yng Nghymru yn gweithio mewn practis preifat, sy'n gweithredu fel busnes preifat. Mae rhai, drwy gontract, hefyd yn darparu gwasanaethau cyhoeddus pwysig. Mae Llywodraeth Cymru yn darparu sawl math o gymorth uniongyrchol ac anuniongyrchol, sy'n adlewyrchu amrywiaeth y ddarpariaeth filfeddygol hon.