Cefnogaeth i Filfeddygon

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:36 pm ar 1 Mawrth 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Heledd Fychan Heledd Fychan Plaid Cymru 2:36, 1 Mawrth 2022

Diolch, Brif Weinidog. Yn ddiweddar, cysylltodd y Cynghorydd Larraine Jones, sy'n cynrychioli Gelli ac Ystrad, â mi, i dynnu sylw at y ffaith bod yna brinder milfeddygon yn y Rhondda. Mae wedi rhannu degau o straeon torcalonnus, gan gynnwys ci yn marw gartref ac mewn poen oherwydd bod eu milfeddygfa leol wedi cau'n barhaol a bod neb arall â lle ar gyfer anifeiliaid newydd. Mae problem enfawr hefyd o ran cael brechlynnau ar gyfer anifeiliaid. Yn sgil Brexit, a hefyd y pandemig, mae prinder cyffelyb ledled Prydain, ac yn yr Alban, mae'r Llywodraeth wedi cyhoeddi y byddant yn sefydlu gwasanaeth milfeddygol yr Alban. Felly, pa gamau sydd yn cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru i ymateb i'r diffyg hwn, ac i sicrhau bod mwy o bobl yn hyfforddi yma yng Nghymru i fod yn filfeddygon?