– Senedd Cymru am 3:03 pm ar 1 Mawrth 2022.
Mae'r datganiad nesaf gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant ar 'Pwysau Iach: Cymru Iach'. Felly, Lynne Neagle.
Diolch, Llywydd. Heddiw, rwy'n lansio'r ail o bum cynllun cyflawni fel rhan o'n strategaeth 10 mlynedd 'Pwysau Iach: Cymru Iach'. Bydd ein cynllun cyflawni ar gyfer 2022-24 yn defnyddio cyfuniad o gyllid, polisïau a deddfwriaeth i ddatblygu dulliau sy'n canolbwyntio’n gryf ar atal a gwneud y dewis iach yn ddewis hawdd.
Bydd y cynllun yn cefnogi adferiad o'r pandemig ac yn ymdrin â'r heriau newydd y mae wedi'u cyflwyno. Mae llawer ohonom ni wedi ei chael hi'n anodd gwneud a chynnal ymddygiad iach cadarnhaol yn ystod y cyfyngiadau symud ac mae'r pandemig wedi dyfnhau anghydraddoldebau iechyd sydd eisoes yn bodoli. Byddwn ni'n defnyddio dulliau wedi'u targedu, yn enwedig mewn ardaloedd o amddifadedd, a byddwn ni'n cynorthwyo'r rhai sydd eisoes dros bwysau neu'n ordew drwy amrywiaeth o wasanaethau atal, ymyrraeth gynnar ac arbenigol. Er gwaethaf yr heriau a ddaw yn sgil y pandemig, rydym ni wedi gwneud cynnydd yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf drwy ein cynllun cyflawni cyntaf. Mae hyn er gwaethaf llawer o'n partneriaid allweddol yn briodol yn blaenoriaethu ymateb COVID. Hoffwn i ddiolch i'n partneriaid am eu cefnogaeth barhaus ac yn y dyfodol wrth i ni fwrw ymlaen â'n cynllun uchelgeisiol.
Mae gordewdra yn her gymhleth, ac nid oes atebion syml. Gwyddom ni na all unrhyw un rhan o'r Llywodraeth na'r GIG ddatrys hyn, felly byddwn ni'n gweithredu ar draws y Llywodraeth, gan weithio gyda phartneriaid yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector i sbarduno'r gwaith o gyflawni. Rwyf i heddiw'n amlinellu ein saith maes blaenoriaeth cenedlaethol, sy'n ymgorffori nifer o gamau gweithredu i ddileu rhwystrau i leihau anghydraddoldebau deiet ac iechyd ar draws y boblogaeth. Er mwyn gallu cyflawni'r saith maes hyn, yr wyf i wedi dyrannu dros £13 miliwn o gyllid i gyflawni'r rhaglenni a'r prosiectau sydd wedi'u nodi drwy'r cynllun hwn.
Bydd y cynllun yn datblygu dulliau gweithredu ar draws amrywiaeth o'n hamgylcheddau, o'r ffordd yr ydym ni'n bwyta ac yn prynu bwyd, o'r cartref i'n lleoliadau addysgol a hamdden er mwyn nodi sut y gallwn ni wneud y dewis iach yn ddewis hawdd. Fodd bynnag, mae'n rhaid i ni fod yn glir: yr ydym ni'n ceisio newid ffyrdd sefydledig o fyw ein bywydau sydd wedi datblygu dros amser ac sy'n cael effaith negyddol ar ein hiechyd a'n llesiant. Byddaf i'n cyflwyno ymgynghoriad ym mis Mai a fydd yn ystyried cynigion i wella'r amgylchedd pwysau iach. Bydd hyn yn cynnwys meysydd fel hyrwyddo prisiau, labelu calorïau, cynllunio, trwyddedu a gwahardd gwerthu diodydd egni i blant. Rwyf i wedi ymrwymo i fwrw ymlaen â hyn yn gyflym a chyflwyno deddfwriaeth o fewn oes y cynllun cyflawni hwn. Rwyf i hefyd wedi ymrwymo i ymgymryd â gwaith i gwmpasu dewisiadau ynghylch pwerau trethu, a fydd yn datblygu newidiadau cadarnhaol yr ydym ni wedi'u gweld drwy'r ardoll siwgr.
Mae ysgolion yn gwneud cyfraniad hanfodol i gefnogi ymddygiad iach gydol oes a gallan nhw helpu i leihau anghydraddoldebau iechyd. Bydd ymestyn y ddarpariaeth o brydau ysgol am ddim i bob disgybl ysgol gynradd, gyda phlant yn cael y cyfle i fanteisio ar ddau bryd iach y dydd ochr yn ochr â'r fenter brecwast am ddim, yn helpu i gefnogi ein nodau. Byddwn ni hefyd yn adolygu rheoliadau bwyd yr ysgol i sicrhau bod prydau ysgol yn gallu ystyried y cyngor maeth gwyddonol diweddaraf i ddarparu dewisiadau iachach.
Rydym ni'n gwybod bod llawer ohonom ni'n fwy segur nag erioed. Byddwn ni'n parhau i fuddsoddi mewn teithio llesol ac o fewn ein hamgylchedd naturiol i sicrhau bod pobl yn cael cyfleoedd i symud yn eu bywydau bob dydd. Byddwn yn parhau i fuddsoddi mewn cyfleusterau cymunedol i gynyddu cyfleoedd i fod yn egnïol.
Mae ymdrin ag anghydraddoldebau iechyd wrth wraidd ein cynllun cyflawni. Drwy ein rhaglenni treialu plant a theuluoedd sy'n cael eu cynnal yng Nghaerdydd, Merthyr Tudful ac Ynys Môn, byddwn ni'n gweithio gyda theuluoedd yn uniongyrchol i ddarparu cymorth magu plant o ran arferion iach a gosod ffiniau sy'n ymwneud â bwyd, yn ogystal â chanllawiau ymarferol ar baratoi bwyd. Nod y prosiectau treialu hyn yw dangos dulliau gweithredu sydd wedi dangos tystiolaeth eu bod yn llwyddo ac y mae modd eu hehangu.
Bydd llwybr rheoli pwysau Cymru gyfan wedi'i adnewyddu yn rhoi darpariaeth gwasanaeth teg ar waith ledled Cymru. Bydd buddsoddi yn cefnogi byrddau iechyd a phartneriaid i barhau i adeiladu system aml-haen, gan gynnig amrywiaeth o ddewisiadau cymorth hyblyg i bobl reoli eu pwysau. Am y tro cyntaf, bydd gwasanaethau plant a theuluoedd lefel 3 arbenigol, gan ddarparu dull aml-ymarferydd, gan gynnwys cymorth seicolegol, i ymdrin â'r amrywiaeth o faterion cymhleth sy'n gysylltiedig â gordewdra. Ochr yn ochr â'r cymorth hwn, mae gwasanaethau a dulliau gweithredu'n parhau i gael eu datblygu yn seiliedig ar ymyrraeth gynnar, gan gynnwys dulliau penodol drwy famolaeth.
Byddwn ni'n gweithio'n agos gyda byrddau iechyd i ddarparu gwasanaethau sy'n cynnig yr effaith fwyaf ac yn rhoi cyfres o ofynion data ar waith i fesur newid. Rwyf i eisiau achub ar y cyfle ar hyn o bryd i'n hatgoffa y bydd newid pendant o ran gordewdra yn cymryd amser, ond yr wyf i wedi ymrwymo i roi'r strwythurau i wneud y newidiadau sydd eu hangen.
Byddwn i hefyd yn datblygu ymgyrch hirdymor ar newid ymddygiad. Mae gwaith eisoes ar y gweill i ddatblygu gwefan GIG ar-lein, ddwyieithog y mae modd ymddiried ynddi i ddarparu cymorth rheoli pwysau i alluogi pobl i gymryd mwy o reolaeth dros eu pwysau a'u hiechyd eu hunain. Bydd hyn yn cyd-fynd â llwybr rheoli pwysau Cymru gyfan.
Dim ond rhai o'r enghreifftiau o ddyfnder y gwaith sy'n digwydd yw'r camau yr wyf i wedi'u hamlinellu heddiw. Rwyf i wedi ymrwymo i fy swyddogaeth arwain ganolog i sbarduno'r newid sydd ei angen arnom ni. Byddaf i'n cadeirio bwrdd gweithredu cenedlaethol diwygiedig a fydd yn goruchwylio'r gwaith o gyflawni o fewn y cynllun. Bydd y bwrdd hwn yn dwyn ynghyd uwch arweinwyr allweddol o bob rhan o Gymru i sicrhau ein bod ni'n cyflawni'n gyflym ac i ddarparu'r dadansoddiad beirniadol sydd ei angen arnom ni i sbarduno cynnydd.
Rwyf i wedi ymrwymo i sbarduno newid ar bob lefel. Rhaid inni fabwysiadu dull radical a fydd yn defnyddio'r holl ysgogiadau sydd ar gael i ni i helpu i gyflawni'r newidiadau y mae angen i ni eu gweld. Mae gordewdra yn fygythiad difrifol i iechyd ein cenedl sydd wedi bod yn cynyddu ers cenedlaethau, ac ni fydd gwrthdroi hyn yn dasg hawdd. Rwy'n bwriadu adrodd yn ôl yn rheolaidd i'r Siambr ar gynnydd ac rwyf i wedi ymrwymo'n llwyr i weithio ar draws y pleidiau i gyflawni ein hawydd cyffredin i weld pobl yn byw bywydau iachach a hapusach, lle bynnag yng Nghymru y maen nhw'n byw.
Llefarydd y Ceidwadwyr, James Evans.
Diolch, Dirprwy Lywydd, ac rwy'n diolch i'r Dirprwy Weinidog am eich datganiad a rhai o'r sylwadau yr ydych chi wedi'u gwneud. Mae gordewdra yn bla ar iechyd ein cenedl. Mae'n broblem; yn hytrach na gostwng, mae'n cynyddu. Mae'n destun pryder bod dwy ran o dair o boblogaeth Cymru nawr dros bwysau neu'n ordew, ac, fel y dywedoch chi yn eich datganiad, y pandemig—mae llawer o bobl wedi cael trafferth yn cynnal ffyrdd iach o fyw, ac mae wedi dwysáu anghydraddoldebau iechyd. Ac mae i'w groesawu eich bod wedi dyrannu dros £13 miliwn i gyflawni cynllun strategaeth 'Pwysau Iach: Cymru Iach'. Fodd bynnag, rwy'n cytuno â chi fod atal yn well na gwella, ac rwyf i eisiau gwybod sut yr ydych chi'n mynd i sicrhau y bydd yr arian a gaiff ei ddyrannu i fyrddau iechyd a phartneriaid eraill yr ydych chi wedi'u crybwyll yn cael ei fonitro i sicrhau ei fod yn cyflawni'r cynllun a'r blaenoriaethau yr ydych chi wedi'u nodi ac yn sicrhau bod yr arian hwnnw'n cael ei wario yn y lleoedd cywir ac nad yw'n cael ei wastraffu ar fiwrocratiaeth, sydd wedi digwydd yn y gorffennol.
Mae'n braf gweld yn eich datganiad eich bod chi'n mynd i ystyried hyrwyddo prisiau, labelu calorïau, cynllunio, trwyddedu a gwahardd diodydd egni i blant. Rwy'n credu bod hynny'n gadarnhaol iawn, ac mae mesurau eraill i'w croesawu. Mae'r rhain yn gamau cadarnhaol, ond mae angen i ni gael ymgyrch cyfryngau wedi'i thargedu ynghylch bwyta'n iach a gwell dewisiadau o ran ffordd o fyw. Yn ystod pandemig COVID, cawsom ni ein llethu gan ymgyrchoedd teledu, radio, cyfryngau cymdeithasol a thaflenni gan Lywodraeth Cymru i gadw pobl yn ddiogel, a chafodd £4.6 miliwn ei wario gennych chi ar hysbysebion cyfryngau cymdeithasol yn unig, ac yr wyf i eisiau gwybod faint o arian fydd yn cael ei ddyrannu i ymgyrch ymwybyddiaeth y cyhoedd ynghylch dewisiadau ffordd o fyw iach a bwyta'n iach. Ac fel y dywedwch chi, rydym ni'n ceisio camu yn ôl i ffyrdd sefydledig y mae pobl wedi byw eu bywydau, ac mae hynny'n mynd i fod yn anodd iawn i'w wneud.
Gwelais i hefyd yn eich datganiad sôn am gyflwyno darpariaeth prydau ysgol am ddim ac yr ydych chi'n bwriadu cynyddu manteision maethol y bwyd, a hoffwn i wybod pa gymorth ychwanegol y bydd y Llywodraeth yn ei roi i'n hawdurdodau lleol i sicrhau bod y bwyd o'r safon da hwnnw'n cael ei fwydo i'n plant, oherwydd yr wyf i'n poeni, os na fydd y cyllid yn cael ei ddarparu, bydd awdurdodau lleol yn ei chael hi'n anodd cyflawni hyn.
Mae'n gadarnhaol hefyd gweld y bydd gwefan i helpu gyda rheoli pwysau pobl. Rwy'n credu y bydd hynny'n helpu pobl sy'n ei chael hi'n anodd a phobl y mae angen cymorth arnyn nhw, ac mae hynny'n mynd i fod yn ddwyieithog hefyd. Rwy'n credu bod hynny'n gadarnhaol iawn.
Rwy'n cytuno hefyd fod angen i ni weld mwy o fynediad i'r amgylchedd naturiol a'n cyfleusterau chwaraeon, a pha drafodaethau ydych chi wedi'u cael gyda'ch dirprwy gyd-Weinidogion ynghylch helpu i hybu cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol ledled Cymru, gan fod gweithgarwch corfforol yn ffordd wych o leihau gordewdra a hefyd helpu gyda phroblemau iechyd meddwl, rwy'n gwybod eich bod chi a minnau yn awyddus iawn i'w gweld nhw'n gostwng?
Gweinidog, un peth rwy'n credu sydd rhywfaint ar goll o'r datganiad yw bod y British Heart Foundation wedi rhyddhau'r papur 'Bias and biology: The heart attack gender gap' yn ddiweddar. Gwnaethon nhw nodi nad yw menywod yn cael eu cymryd o ddifrif pan fyddan nhw'n cael trawiadau ar y galon ac yn cefnogi gwasanaethau rheoli pwysau, felly bydd ymdrin ag anghydraddoldeb pwysau, gobeithio, yn brif flaenoriaeth i chi wrth symud ymlaen. Gobeithio y gallwch chi godi hynny pan fyddwch chi'n ymateb i mi.
Ac yn olaf, Gweinidog, daeth eich datganiad i ben drwy ddweud bod angen i ni fabwysiadu ymagwedd radical, ac yr wyf i'n cytuno'n llwyr â chi ar hynny. Mae hon yn broblem ddofn iawn yn ein cymdeithas. Hoffwn i ein gweld ni weithiau'n mynd ymhellach gydag ymyriadau cyhoeddus eraill mewn rhai meysydd, oherwydd os ydym ni eisiau achub miliynau o bobl sy'n dioddef o salwch a chlefydau sy'n gysylltiedig â gordewdra, bydd yn rhaid iddo fod yn ddull radical a bydd yn rhaid iddo fod yn brif flaenoriaeth i chi ac i Lywodraeth Cymru. Diolch, Dirprwy Lywydd.
Diolch i James Evans am yr amrywiaeth yna o bwyntiau, a hefyd am gydnabod maint y broblem yr ydym ni'n ei hwynebu ac am gydnabod bod y broblem honno wedi gwaethygu'n sylweddol oherwydd y pandemig. Ac rwy'n cytuno'n llwyr â chi fod atal yn well na gwella, ac mae hwn yn gynllun cyflawni, fel rhan o'n strategaeth 'Pwysau Iach: Cymru Iach', sydd wir wedi'i wreiddio'n mewn atal problemau.
Rwy'n ddiolchgar iawn i chi am groesawu'r cynigion deddfwriaethol y byddwn ni'n eu cyflwyno, a byddaf i'n edrych ymlaen at weithio gyda chi ac ar draws y pleidiau ar y rheini. Wrth gwrs, nid ein cynigion deddfwriaethol ni yn unig ydyn nhw; rydym ni hefyd yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth y DU ynghylch y newidiadau y maen nhw'n eu gwneud o ran pethau fel labelu calorïau, cyfyngu ar hysbysebu, newidiadau i gyfansoddiad bwyd babanod ac ati. Felly, mae llawer o waith yn digwydd yn y fan yna.
Gwnaethoch chi sôn am yr ymgyrch wedi'i thargedu yn y cyfryngau, ac mae'n amlwg bod hwn yn faes gwaith eithriadol o bwysig, ond mae hefyd yn faes cymhleth iawn. Felly, mae llawer iawn o waith yn mynd rhagddo i sicrhau bod gennym ni'r math cywir o ymgyrch ymddygiadol, oherwydd mae dylanwadu ar ymddygiad, yn enwedig ymddygiad sydd wedi hen ymsefydlu i lawer ohonom ni, yn hynod heriol, ond mae hynny'n flaenoriaeth i ni ynghyd â datblygu'r adnodd GIG hwn, ac yn y dyfodol byddwn ni mewn sefyllfa i ddweud mwy am ariannu hwnnw, ond rydym ni wedi ymrwymo'n llwyr i gyflawni'r agenda honno.
Gwnaethoch chi sôn am y ddarpariaeth o brydau ysgol am ddim, ac yn amlwg mae hynny'n ymrwymiad wedi'i gostio fel rhan o'n cytundeb cydweithredu â Phlaid Cymru, ond nid yw ond yn ymwneud â rhoi prydau ysgol am ddim i blant; rydym ni hefyd eisiau sicrhau bod yr hyn sydd ganddyn nhw o safon maeth uchel, a dyna pam yr ydym ni wedi ymrwymo i adolygu'r safonau maeth. Felly, rwy'n gweithio mewn partneriaeth ac rydym ni'n gweithio ar draws y Llywodraeth ar y cynllun cyfan hwn, gyda'r Gweinidog addysg ar hynny, ac yn ogystal â hynny, rydym ni hefyd yn cyflwyno safonau prynu cenedlaethol, a fydd yn helpu i gaffael mwy o fwyd iach yn y lle cyntaf. Felly, byddwn ni'n gallu ystyried faint o brotein ac ati, fel rhan o'r hyn yr ydym ni'n ei wneud, felly bydd hynny hefyd yn helpu i ysgogi'r gwaith hwnnw.
Gwnaethoch chi gyfeirio at yr angen i bob un ohonom ni fod yn fwy egnïol, sy'n amlwg yn gywir. Rydym ni'n parhau i fuddsoddi i sicrhau y gall pobl fod yn fwy egnïol. Mae gennym ni'r gronfa iach ac egnïol, sef £5.9 miliwn, sydd wedi bod ar gael am fwy na phedair blynedd, a'i nod yw gwella iechyd meddwl a chorfforol drwy alluogi ffyrdd iach ac egnïol o fyw. Rwyf i wedi bod yn lwcus iawn i fynd i weld rhai o'r prosiectau hynny ac i weld y ffordd y maen nhw'n gweithio gydag iechyd corfforol a meddyliol pobl i wella ansawdd eu bywyd. Yn ogystal â hynny, eleni, yr ydym ni wedi buddsoddi £4.5 miliwn mewn cyfleusterau chwaraeon cymunedol, ac mae £24 miliwn arall yn cael ei gyflwyno yn ystod y tair blynedd nesaf.
Gwnaethoch chi gyfeirio at adroddiad y British Heart Foundation, ac yn amlwg mae'r British Heart Foundation yn rhanddeiliad allweddol i ni ac yr ydym ni wir yn derbyn yr argymhellion y maen nhw'n eu gwneud. Y syniad gyda'n cynllun rheoli pwysau Cymru gyfan yw y bydd y gwasanaethau hynny ar gael i bawb, ond yr wyf i wir yn ystyried yr hyn yr ydych chi'n ei ddweud ac rwy'n credu nad ydym ni bob amser yn deall yr amrywiaeth eang o effeithiau a all godi yn sgil problemau iechyd y galon. Nid yw'n fater o drawiadau ar y galon yn unig; mae'n bethau fel dementia, sy'n risg yr ydym ni i gyd eisiau ei lliniaru. Felly, rydym ni wir wedi'n hymrwymo i barhau i weithio gyda'r British Heart Foundation a rhanddeiliaid allweddol ar y gwaith hwnnw. Diolch.
Llefarydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a diolch i'r Dirprwy Weinidog am y datganiad yma heddiw.
Gwn i fod hwn yn fater y mae gan y Gweinidog ddiddordeb brwd ynddo. Bu'r ddau ohonom ni'n gwasanaethu ar y pwyllgor iechyd yn y pumed Senedd yn ystod hynt Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru). Cyflwynais i'r gwelliant a arweiniodd at y Llywodraeth yn cytuno i gyflwyno strategaeth gordewdra, ac rwy'n gwybod bod y Gweinidog a minnau'n cytuno bod yn wir raid i hyn fod yn flaenoriaeth i ni. Rwy'n credu bod cysylltiad uniongyrchol rhwng iechyd y genedl mewn termau corfforol a'n hiechyd fel cenedl ym mhob ffordd sylweddol bosibl. Felly, rwy'n credu bod llawer i'w groesawu yn y datganiad heddiw.
Rwyf i yn cwestiynu'r rhifau, y symiau o arian sy'n cael eu dyrannu. Mae’n braf gweld £13 miliwn yn cael ei ddyrannu tuag at hyn. Rwy'n rhyw deimlo bod yna sero ar goll o hyd pan yr ydym ni'n sôn am faint y broblem sy'n ein hwynebu ni. Mae rhai ffigurau gan Lywodraeth Cymru yr wyf i wedi'u gweld yn awgrymu y gallai gordewdra gostio tua £86 miliwn bob blwyddyn i GIG Cymru. Byddwn i'n cwestiynu hynny, pan ystyriwch chi'r effaith y gall gordewdra ei chael ar ddiabetes math 2, sy'n cymryd cymaint â 10 y cant o holl gyllideb GIG Cymru. Felly, mae'n rhaid i ni, os ydym ni eisiau elwa ar y canlyniadau, fod yn buddsoddi ar yr ochr ataliol honno, y gallwn ni, ar draws y pleidiau yma yn y Siambr, gytuno bod yn rhaid ei blaenoriaethu. Mae'n rhaid i ni fuddsoddi yn yr ochr ataliol honno os ydym ni eisiau elwa ar y buddion hirdymor. A byddwn i'n croesawu sylwadau'r Gweinidog ynghylch a yw'n cytuno â mi, mewn gwirionedd, mai'r drafodaeth y mae eisiau iddi hi ei chael o amgylch y bwrdd Cabinet hwnnw yn y Llywodraeth yw ychwanegu'r sero arall hwnnw at y swm hwnnw, sy'n rhywbeth y dylem ni fod yn anelu ato.
Rwy'n croesawu'r gwaith sy'n cael ei wneud ar gynllun treialu yn fy etholaeth i ar anghydraddoldebau iechyd, gan weithio gyda theuluoedd a phlant yn benodol. Nid yw byth yn rhy hwyr ym mywyd rhywun, wrth gwrs, i feddwl mewn ffordd iach. Ymunais â chlwb Nifty Sixties yn y Gym of Champions, Canolfan Codi Pwysau a Ffitrwydd Caergybi ac Ynys Môn yng Nghaergybi ddoe. Nid wyf i eto yn fy 60au, er y byddaf i'n dechrau yn fy chweched degawd yn ddiweddarach eleni. Prin y gallwn i gystadlu â'r dynion a'r menywod ifanc hynny a oedd yno, a oedd yn cadw'n heini o gorff a meddwl. Wrth gwrs, mae cadw ein pwysau ni i lawr yn rhan fawr o hynny. Gallech chi weld drwyddyn nhw y budd yr oedden nhw'n ei gael o'r cyfleuster gwych hwnnw sydd gennym ni yng Nghaergybi, ond mae wedi cymryd buddsoddiad i'w roi ar waith—mae angen i ni weld y math hwnnw o fuddsoddiad ym mhob rhan o Gymru.
Un neu ddau gwestiwn arall am hysbysebu. Nododd y ddogfen wreiddiol 'Pwysau Iach: Cymru Iach' y byddai gwaharddiad, erbyn 2030, ar hysbysebu, noddi a hyrwyddo bwydydd sydd â llawer o fraster dirlawn, siwgr a halen mewn mannau cyhoeddus, gan gynnwys gorsafoedd bysiau a rheilffyrdd, digwyddiadau chwaraeon, atyniadau teuluol ac ati. Roedd astudiaeth a ddaeth i'r casgliad bod mesurau tebyg ar fyrddau hysbysebu rheilffordd danddaearol Llundain ers 2019 wedi cael effaith wirioneddol. Cyfrannodd, efallai, at ostyngiad o 1,000 o galorïau o ran prynu pethau nad ydyn nhw'n iach ym masgedi siopa wythnosol pobl—pobl a oedd wedi dod ar draws yr hysbysebion hynny. A wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni o ran ble yr ydym ni gyda'r mesurau hynny?
Ac o ystyried, yn olaf, fod y Gweinidog wedi nodi y bydd yn gofyn i swyddogion ystyried mesurau sy'n ymwneud â threthiant, pryd y gallwn ni ddisgwyl rhagor o fanylion am hynny? Roeddwn i ar y meinciau hyn pan oedd pobl yn chwerthin am ein pennau am awgrymu y gallem ni gyflwyno ardoll ar ddiodydd llawn siwgr. Mae hynny'n digwydd nawr, mae wedi cael ei dderbyn. Mae angen i ni symud ymlaen nawr i fwydydd nad ydyn nhw'n iach hefyd. Ac a yw'r Gweinidog hefyd wedi ystyried galwadau gan elusennau, megis Sefydliad Prydeinig y Galon, i gyfyngu ar ymgyrchoedd hyrwyddo—prynu un, cael un am ddim a'r tebyg—ar fwydydd a diodydd nad ydyn nhw'n rhai iach?
Diolch yn fawr iawn, Rhun, a diolch am eich croeso i'r cynllun cyflawni yr wyf i wedi'i gyhoeddi heddiw. Fel y gwnaethoch ei ddweud yn gywir, dechreuodd y strategaeth 'Pwysau Iach: Cymru Iach' yn sgil Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru), ac mae hi wedi bod yn dda gwneud y gwaith yr wyf i wedi'i wneud ar bwyllgorau ynghylch ymdrin ag anweithgarwch ac ati—mae wedi bod yn ddefnyddiol iawn.
Gwnaethoch chi gyfeirio at y cyllid ac a yw'n ddigonol. Yn ogystal â'r £13 miliwn i gefnogi, yn uniongyrchol, y gwaith o gyflawni'r strategaeth 'Pwysau Iach: Cymru Iach' am y ddwy flynedd, yr ydym ni hefyd wedi ailflaenoriaethu'r £7.2 miliwn o gyllid atal blynyddol a'r blynyddoedd cynnar o fis Ebrill 2022, a bydd cyfarwyddwyr iechyd cyhoeddus ar draws byrddau iechyd lleol yn defnyddio hynny i gefnogi ymyriadau yn benodol yn y meysydd gordewdra yn ogystal â'r meysydd polisi tybaco, yn unol â'n strategaethau yn y ddau faes hynny. Ac rydym ni'n gweithio gyda byrddau iechyd i sicrhau bod cynlluniau ar gyfer y cyllid hwn yn cyd-fynd â'r strategaeth 'Pwysau Iach: Cymru Iach', ac rydym ni wrthi'n cwblhau hynny. Rwyf i hefyd wedi cyfeirio at y cyllid arall, fel iach ac egnïol, a'r arian sy'n mynd ar gyfer cyfleusterau chwaraeon, sydd, wrth gwrs, yn ychwanegol at hynny. Y peth arall y byddwn i'n ei ddweud yw bod gwerthusiad trylwyr iawn yn cael ei gynnwys wrth weithredu'r cynllun cyflawni hwn, a bydd hynny'n ein galluogi ni, yn amlwg, i ystyried a oes angen mwy o arian arnom ni, ac mae hynny'n rhan allweddol iawn o'r hyn yr ydym ni'n ei wneud.
Diolch i chi am eich croeso i'r cynllun treialu plant a theuluoedd—mae un ohonyn nhw yn eich etholaeth chi. Hefyd i atgoffa'r Aelod ein bod ni'n parhau i fuddsoddi'n sylweddol mewn cyllid ar gyfer gweithgarwch i bobl dros 60 oed hefyd, felly rydym ni'n ymwybodol bod hyn yn beth gydol oes.
Gwnaethoch chi gyfeirio at drethiant: mae hynny'n rhywbeth yr ydym ni wedi dechrau gweithio arno. Gwnaethom ni ddechrau rhywfaint o waith cychwynnol yn 2019 pan gyhoeddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru adroddiad ar hyn, ac edrychodd hwnnw ar dystiolaeth ryngwladol ac ystyriodd y pwerau posibl y byddai modd eu defnyddio. Roedd hwnnw'n ddarn o waith cam cyntaf, ac rydym ni'n mynd i gomisiynu gwaith arall ar hynny i fireinio rhai cynigion posibl y byddwn ni'n eu datblygu fel rhan o'r cynllun cyflawni dwy flynedd hwn. Rwy'n hapus iawn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf ar hynny maes o law.
O ran hyrwyddo prisiau, yn hollol. Rwyf i'n lansio ymgynghoriad yn y gwanwyn a fydd yn ystyried amrywiaeth o ddewisiadau deddfwriaethol, ac un o'r pethau y byddwn ni'n edrych arno yw cyfyngu ar hyrwyddo prisiau bwydydd sydd â llawer o siwgr, braster a halen.
Diolch yn fawr iawn Gweinidog am eich datganiad, a diolch yn fawr i chi am eich ymrwymiad i'r maes hwn, oherwydd mae hi wir yn gofyn am y lefel honno o ddyfalbarhad ar y mater cymhleth hwn.
Roeddwn i'n ddiolchgar iawn i Undeb Amaethwyr Cymru yn ddiweddar, sydd wedi addo mynd i ysgolion yn fy etholaeth i a siarad â phlant ynghylch o ble y mae bwyd yn dod. Rwy'n credu bod hynny'n fan cychwyn eithaf sylfaenol, ac yn anffodus, i lawer ohonyn nhw, mae'n ddirgelwch llwyr. Felly, hoffwn i weld gerddi marchnad ym mhob ysgol, yn enwedig mewn ardaloedd o amddifadedd, ac yr wyf i'n cefnogi eich dull gweithredu'n fawr, i ganolbwyntio ar ardaloedd o amddifadedd. Rydym ni i gyd wedi cwrdd â phlant cyn COVID sydd wedi dechrau yn yr ysgol heb erioed ddefnyddio cyllell neu fforc neu erioed wedi eistedd i lawr o amgylch bwrdd gyda'r teulu i rannu pryd o fwyd, felly rwy'n gwerthfawrogi ei fod yn gyfle gwych i ddefnyddio'r buddsoddiad sylweddol y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud mewn prydau ysgol am ddim i bob plentyn ysgol gynradd i geisio newid y diwylliant yn ymwneud â bwyd, oherwydd nid yw hi fel hyn yn yr Eidal. Rydym ni wir wedi colli'r ffordd yn y wlad hon. Rydym wedi bod o dan ddylanwad mawr y cynhyrchwyr bwyd hynny sy'n creu gordewdra ac sydd eisiau i ni i gyd fwyta pethau sy'n mynd i'n lladd ni.
A wnewch chi ofyn cwestiwn nawr, os gwelwch yn dda?
Mae fy nghwestiwn i yn ymwneud mewn gwirionedd â: os ydych chi'n mynd i newid y rheoliadau prydau ysgol, rwy'n cymeradwyo hynny, ond pwy fydd yn monitro ansawdd prydau ysgol? Oherwydd ar hyn o bryd rydym ni'n dibynnu ar lywodraethwyr ysgolion, ac o'u rhan nhw, mewn gwirionedd, mae'n dipyn o ddirgelwch, ac nid wyf i eto wedi gweld llywodraethwyr ysgol yn gyffredinol sy'n ymddiddori yn y mater hwn.
Hefyd, pa ddulliau penodol ydych chi'n eu cynllunio ar gyfer menywod beichiog? Rydym ni'n gwneud llawer iawn o ymdrech i helpu menywod i roi'r gorau i ysmygu, yn gwbl briodol, pan fyddan nhw'n feichiog, ond onid yw'n gyfle euraidd i gael teuluoedd sy'n disgwyl babi i wir newid eu perthynas â bwyd? Ac, yn arbennig, mae'r manteision i blant sy'n bwydo ar y fron, ac i'r fam o golli pwysau ar ôl yr enedigaeth, mor enfawr a gydol oes fel yr hoffwn i weld mwy o fuddsoddiad mewn cynorthwywyr mamolaeth sy'n gallu cefnogi menywod o ran bwydo ar y fron, nad yw'r peth hawsaf yn y byd i'w wneud.
Diolch yn fawr iawn, Jenny, am eich croeso, a diolch i chi hefyd am eich ymrwymiad parhaus yn y maes gwaith hwn. Mae'n cael ei werthfawrogi'n fawr, ac rwy'n cydnabod bod gennym ni lawer o waith i'w wneud o ran annog plant a phobl ifanc i fwyta'n iachach.
Ddoe roeddwn i yn Ysgol Gynradd Ysgol-y-Graig yng Nghefn Coed ym Merthyr ar gyfer dechrau cyfres o wersi 'Eat Them To Defeat Them' gan Veg Power. Roeddwn i'n gallu gwylio'r plant yn cael amrywiaeth o wersi gwahanol, i fyny o'r feithrinfa yr holl ffordd drwy'r cyfnod sylfaen, ac roedden nhw'n dysgu am lysiau, yn amlwg rhai nad oedden nhw erioed wedi'u gweld. Rydym yn parhau i gefnogi'r fenter Veg Power, ond hefyd, wrth gwrs, mae gennym ni ein cwricwlwm newydd yn dod i rym, sy'n gyfle enfawr gyda'n maes iechyd a llesiant o ddysgu a phrofiad. Cryfder hynny yw na fydd yn rhannu'r pethau hyn yn wersi penodol yn unig. Bydd hwn yn ddull gweithredu ledled y cwricwlwm i sicrhau bod ein plant ni'n cael y cyfle nid yn unig i ddysgu am yr hyn sy'n iach, ond hefyd i weithredu rhai o'r pethau hynny hefyd.
Gwnaethoch chi sôn am yr ymrwymiad i brydau ysgol am ddim; yn hollol, rydym ni wedi ymrwymo i adolygu'r safonau maeth. Ar hyn o bryd, mae Estyn i fod i ystyried sut mae ysgolion yn cydymffurfio â'r safonau maeth. Fel rhan o'r gwaith hwnnw, byddwn i'n awyddus iawn i gael trafodaethau gyda'r Gweinidog addysg i sicrhau bod gan Estyn ganolbwynt parhaus yn y maes hwn, oherwydd mae'n eithriadol o bwysig.
Gwnaethoch chi sôn am bwysigrwydd mamolaeth, ac mae maes blaenoriaeth cenedlaethol 3 yn ein cynllun cyflawni wedi'i gynllunio i gefnogi'r dechrau gorau mewn bywyd, er mwyn galluogi teuluoedd i wneud dewisiadau cadarnhaol o'r cyfnod cyn beichiogrwydd i'r blynyddoedd cynnar. Mae wir yn cael ei gydnabod fel blaenoriaeth yn y cynllun, ac fel rhan o hynny, byddwn ni'n cryfhau'r gwaith i sicrhau bod menywod beichiog yn gallu manteisio ar lwybr rheoli pwysau Cymru gyfan i gefnogi gordewdra beichiogrwydd. Mae gennym ni hefyd amrywiaeth o fentrau i annog a hyrwyddo pwysigrwydd bod â phwysau iach cyn beichiogrwydd, ac o gynnydd iach mewn pwysau yn ystod beichiogrwydd, drwy'r dangosyddion perfformiad allweddol mamolaeth, gan gynnwys sicrhau mynediad i ap Bwyta'n Ddoeth yn ystod Beichiogrwydd.
Gwnaethoch chi gyfeirio hefyd at bwysigrwydd bwydo ar y fron. Mae hynny nawr yn rhan o sylfaen allweddol ein strategaeth 'Pwysau Iach: Cymru Iach', ac mae gennym ni gynllun gweithredu bwydo ar y fron. Cafodd rhywfaint o'r gwaith ar hynny ei oedi oherwydd COVID, ond mae hynny'n mynd i fod yn ailddechrau nawr. Rwy'n awyddus iawn i weld hynny'n cael ei gyflawni'n gyflym, gyda thargedau a cherrig milltir y gallwn ni sicrhau ein bod ni'n eu cyrraedd.
Ac yn olaf, Ken Skates.
Diolch, Dirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch yn gyntaf i'r Gweinidog am wneud datganiad hynod bwysig heddiw? Rwy'n croesawu pob gair a ddywedodd hi, yn arbennig felly pan gyfeiriodd hi'n ddiweddar yn ei hymateb i Jenny Rathbone am bwysigrwydd y cwricwlwm newydd. Mae fy nghwestiwn cyntaf yn gofyn am sicrwydd: a wnaiff y Gweinidog sicrhau'r Aelodau y bydd hi'n parhau i ymgysylltu â'r Gweinidog Addysg wrth ddatblygu a chyflwyno'r cwricwlwm newydd, er mwyn i hwnnw estyn cyfle a galluogi athrawon i fod yn greadigol ac yn arloesol yn y ffordd y maen nhw'n cefnogi datblygiad corfforol pobl ifanc?
Yn ail, a gaf i longyfarch y Llywodraeth am y pwyslais manwl a fu ar y blynyddoedd cynnar a phlant, nid yn unig o ran y datganiad heddiw, ond ar draws pob maes cyfrifoldeb yn y Llywodraeth sy'n ymwneud â phlant? A gaf i ofyn am sicrwydd hefyd y bydd y Gweinidog yn parhau i ganolbwyntio ar y blynyddoedd cynnar, o gofio'r dystiolaeth ysgubol sy'n dangos bod y 1,000 diwrnod cyntaf o fywyd yn aruthrol bwysig o ran datblygiad pob unigolyn?
Diolch yn fawr iawn i chi, Ken. Rwy'n hapus iawn i roi'r sicrwydd hwnnw i chi fy mod yn ymrwymedig iawn i'r blynyddoedd cynnar ym mhob agwedd. Rydych chi wedi fy nghlywed i fel Aelod y meinciau cefn yn codi pwysigrwydd y 1,000 diwrnod cyntaf sawl tro. Felly, mae honno'n flaenoriaeth i mi. Fel roeddech chi'n fy nghlywed i'n esbonio i Jenny Rathbone, y siaradwr blaenorol, mae hwn yn faes blaenoriaeth allweddol ac yn rhan o'r cynllun cyflawni y gwnaethom ni ei gyhoeddi heddiw. Rydych chi yn llygad eich lle i bwysleisio pwysigrwydd y cwricwlwm newydd, ac, fel y dywedais i, nid yw'n rhoi'r materion hyn mewn blychau ar wahân. Mae hyn yn ymgorffori iechyd a llesiant ar draws y cwricwlwm cyfan, a hefyd, yn hanfodol, mae'n sefydlu'r cysylltiadau hynny sydd rhwng iechyd corfforol a meddyliol. Mae'r cynllun hwn heddiw yn gynllun ar draws y Llywodraeth. Mae pob Gweinidog wedi gweld y cynllun, wedi cytuno ar y cynllun, ac fe fyddaf i'n gweithio yn agos iawn gyda'r Gweinidog addysg ynghylch cyflawni agweddau addysg y cynllun, fel rwy'n ei wneud yn barod ynghylch y dull ysgol gyfan o ymdrin ag iechyd meddwl a llesiant. Felly, rwy'n hapus iawn i roi'r sicrwydd hwnnw heddiw. Diolch i chi.
Diolch i'r Dirprwy Weinidog.