Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 2 Mawrth 2022.
Dros yr 20 mlynedd diwethaf, Lywydd, gyda'r Ceidwadwyr wedi bod mewn grym yn y DU am 12 ohonynt, lle nad yw seilwaith rheilffyrdd wedi'i ddatganoli, mae Cymru wedi cael llai na 2 y cant o'r £102 biliwn y mae Llywodraeth y DU wedi'i wario ar wella'r rheilffyrdd. Mae gennym 20 y cant o'r croesfannau rheilffordd ar draws Cymru a Lloegr, mae gennym 11 y cant o'r gorsafoedd, mae gennym 11 y cant o'r trac rheilffordd, mae gennym 5 y cant o'r boblogaeth, ac eto dim ond 2 y cant o'r cyllid a gawn. Mae 41 y cant o'r trac rheilffordd yn Lloegr wedi'i drydaneiddio, mae 2 y cant o'r trac rheilffordd yng Nghymru wedi'i drydaneiddio. Yr hyn sydd wedi'i wneud yn waeth yw bod ffactor cymharedd yr Adran Drafnidiaeth a ddefnyddir ar gyfer cyfrifiadau fformiwla Barnett ar gyfer Cymru wedi gostwng o 89 y cant i 36 y cant. Golyga hyn fod llai o arian i Gymru, er gwaethaf cynnydd sylweddol mewn gwariant ar y rheilffyrdd ar gyfer Lloegr. Mae hynny'n gwbl anghywir, ac yn rhywbeth y mae'r Ceidwadwyr ar y pwyllgor dethol ar faterion Cymreig wedi'i gydnabod, ac mewn ymdrech drawsbleidiol wedi dweud bod angen i Lywodraeth y DU sicrhau bod gwariant HS2 yn cael ei Farnetteiddio'n briodol ledled y DU, a bod Cymru'n cael ei chyfran o 5 y cant. Nid wyf wedi clywed dim oddi ar feinciau'r Ceidwadwyr, er imi ofyn sawl gwaith am ymdrech drawsbleidiol ar hynny, a byddwn yn dal i'w chroesawu, yn hytrach na gwneud sylwadau hawdd a pheidio â beio'r rhai y dylid eu beio. [Torri ar draws.] Lywydd, mae'n ymyriad annerbyniol gan feinciau'r Ceidwadwyr, ac mae'n drueni fod yn rhaid imi dynnu sylw ato. Er gwaethaf hynny, rydym yn buddsoddi £800 miliwn ar fflyd newydd o drenau a fydd yn gwasanaethu 95 y cant o deithiau teithwyr ledled Cymru o 2024 ymlaen. Mae'r cyntaf o'r rheini eisoes yn cael eu treialu, a byddant yn dechrau gwasanaethu teithwyr yng ngogledd Cymru eleni.