1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru ar 2 Mawrth 2022.
4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi datgarboneiddio trafnidiaeth? OQ57685
Diolch, ac mae'n braf clywed gennych eto. Mae 'Llwybr Newydd', strategaeth drafnidiaeth Cymru, yn nodi sut y byddwn yn lleihau allyriadau carbon drwy annog teithio mwy llesol, mwy o ddefnydd o drafnidiaeth gyhoeddus yn ogystal â chefnogi'r defnydd o gerbydau allyriadau isel.
Diolch, Ddirprwy Weinidog. Ddirprwy Weinidog, os ydych chi o ddifrif ynglŷn â mynd i'r afael â newid hinsawdd a dileu'r oedi mynych ar ein rheilffyrdd, rhaid ichi sicrhau bod gan Gymru wasanaeth rheilffordd modern. Fodd bynnag, mae ffigurau eich Llywodraeth eich hun yn dangos bod 69 y cant o drenau Trafnidiaeth Cymru dros 30 oed, a bod 44 y cant yn 35 oed neu'n hŷn. Dyma gyfle i gael trenau hydrogen yn lle ein trenau sy'n heneiddio, trenau hydrogen fel sy'n cael eu treialu yn yr Almaen ar hyn o bryd. Mae'r trên di-allyriad hwn yn creu lefelau isel o sŵn, gyda dim ond ager ac anwedd dŵr yn unig yn cael ei allyrru, rhywbeth a fyddai'n ein galluogi i gyrraedd targedau newid hinsawdd. Felly, a gaf fi ofyn, Ddirprwy Weinidog, pa ystyriaeth a roddwyd gennych a pha drafodaethau a gawsoch ynghylch datgarboneiddio trafnidiaeth yng Nghymru drwy gael trenau hydrogen yn lle ein trenau sy'n heneiddio er mwyn gwella gwasanaethau rheilffyrdd a gwella'r amgylchedd? Diolch.
Diolch. Rwyf wedi gweld yr ymgyrch anonest ddiweddaraf ar y cyfryngau cymdeithasol ar hyn gan y Ceidwadwyr Cymreig ynglŷn â'r record dros 20 mlynedd. Gadewch imi ddweud—[Torri ar draws.] Mae Andrew R.T. Davies yn dweud ei fod yn dweud wrth y bobl beth sy'n gywir. Wel, yn gyntaf oll, mae angen ichi egluro beth yw'r setliad datganoli. Rwy'n hapus i fy swyddogion drefnu sesiwn friffio i Aelodau'r Blaid Geidwadol i egluro'r hyn sydd wedi'i ddatganoli a'r hyn nad yw wedi'i ddatganoli a sut y mae fformiwla Barnett yn gweithio. Gallai hynny fod yn ymarfer addysgiadol iddynt. [Torri ar draws.] Lywydd, mae'n anodd clywed—hyd yn oed drwy ei fasg, mae'r Aelod yn dal i fod yn eithaf uchel ei gloch. [Torri ar draws.] Yr hyn nad wyf yn ei hoffi yw ymgyrchoedd slic ar y cyfryngau cymdeithasol sy'n cuddio'r gwirionedd, sef bod Llywodraeth y DU yn tanariannu teithwyr Cymru. Dyna'r gwir, Andrew R.T. Davies. Dros y—[Torri ar draws.] Lywydd, os gwelwch yn dda, nid sgwrs yw hon. Gofynnwyd cwestiwn i mi, rwy'n ceisio rhoi ateb gyda sylwebaeth fyw gan y dyn yn y masg. Am yr 20 mlynedd diwethaf—
Mae pob dyn mewn masg. Gadewch inni roi'r gorau i'r cyfeiriadau at fasgiau, os gwelwch yn dda, a gadewch inni ganiatáu i'r Dirprwy Weinidog ateb y cwestiwn a ofynnwyd iddo.
Dros yr 20 mlynedd diwethaf, Lywydd, gyda'r Ceidwadwyr wedi bod mewn grym yn y DU am 12 ohonynt, lle nad yw seilwaith rheilffyrdd wedi'i ddatganoli, mae Cymru wedi cael llai na 2 y cant o'r £102 biliwn y mae Llywodraeth y DU wedi'i wario ar wella'r rheilffyrdd. Mae gennym 20 y cant o'r croesfannau rheilffordd ar draws Cymru a Lloegr, mae gennym 11 y cant o'r gorsafoedd, mae gennym 11 y cant o'r trac rheilffordd, mae gennym 5 y cant o'r boblogaeth, ac eto dim ond 2 y cant o'r cyllid a gawn. Mae 41 y cant o'r trac rheilffordd yn Lloegr wedi'i drydaneiddio, mae 2 y cant o'r trac rheilffordd yng Nghymru wedi'i drydaneiddio. Yr hyn sydd wedi'i wneud yn waeth yw bod ffactor cymharedd yr Adran Drafnidiaeth a ddefnyddir ar gyfer cyfrifiadau fformiwla Barnett ar gyfer Cymru wedi gostwng o 89 y cant i 36 y cant. Golyga hyn fod llai o arian i Gymru, er gwaethaf cynnydd sylweddol mewn gwariant ar y rheilffyrdd ar gyfer Lloegr. Mae hynny'n gwbl anghywir, ac yn rhywbeth y mae'r Ceidwadwyr ar y pwyllgor dethol ar faterion Cymreig wedi'i gydnabod, ac mewn ymdrech drawsbleidiol wedi dweud bod angen i Lywodraeth y DU sicrhau bod gwariant HS2 yn cael ei Farnetteiddio'n briodol ledled y DU, a bod Cymru'n cael ei chyfran o 5 y cant. Nid wyf wedi clywed dim oddi ar feinciau'r Ceidwadwyr, er imi ofyn sawl gwaith am ymdrech drawsbleidiol ar hynny, a byddwn yn dal i'w chroesawu, yn hytrach na gwneud sylwadau hawdd a pheidio â beio'r rhai y dylid eu beio. [Torri ar draws.] Lywydd, mae'n ymyriad annerbyniol gan feinciau'r Ceidwadwyr, ac mae'n drueni fod yn rhaid imi dynnu sylw ato. Er gwaethaf hynny, rydym yn buddsoddi £800 miliwn ar fflyd newydd o drenau a fydd yn gwasanaethu 95 y cant o deithiau teithwyr ledled Cymru o 2024 ymlaen. Mae'r cyntaf o'r rheini eisoes yn cael eu treialu, a byddant yn dechrau gwasanaethu teithwyr yng ngogledd Cymru eleni.
Ddirprwy Weinidog, fel y gwyddoch, un o elfennau allweddol metro de Cymru, a ariennir gan Lywodraeth Lafur Cymru, fydd cyflwyno trenau tram trydan glanach, gwyrddach, ecogyfeillgar ar reilffyrdd craidd y Cymoedd, gan gynnwys rhwng Aberdâr, yn fy etholaeth i, a'r brifddinas. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r effaith y bydd y trenau hyn yn ei chael ar leihau ein hallyriadau carbon?
Mae system metro fodern yn rhan annatod o system drafnidiaeth gyhoeddus gydgysylltiedig. Rhan ydyw, dim ond rhan, ac mae angen rhannau eraill hefyd. Mae angen inni integreiddio'r gwasanaethau bysiau, sy'n cario baich trymaf y system trafnidiaeth gyhoeddus ac sy'n cludo'r rhan fwyaf o bobl, ynghyd â theithio llesol ar gyfer y rhan olaf o'r daith. Gwyddom fod dros hanner yr holl deithiau car o dan bum milltir o hyd. Caiff y milltiroedd hyn eu gwneud yn y car ar hyn o bryd, yn amlwg, a gellid eu gwneud ar droed ac ar feic. Mae gan system sy'n cysylltu'r rhain i gyd â system metro fodern botensial sylweddol, gydag ymyriadau newid ymddygiad, i sicrhau newid i ddulliau teithio, sy'n rhan o'n strategaeth drafnidiaeth ac yn rhan o'n cynllun sero net. Gweledigaeth y metro yw darparu gwasanaeth cyrraedd a mynd. Bydd pobl yn gwneud y peth hawsaf i'w wneud. Ar hyn o bryd, rydym wedi cynllunio system sy'n golygu mai'r peth hawsaf i'w wneud yw gyrru, ac mae angen inni newid hynny fel mai'r peth hawsaf i'w wneud yw defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol. Bydd y buddsoddiad a welwn ym metro de Cymru, sef y prosiect peirianneg sifil mwyaf o'i fath yng Nghymru ar hyn o bryd—dros y blynyddoedd nesaf byddwn yn dechrau gweld hynny'n cael ei amlygu'n helaeth—yn gam sylweddol ymlaen ochr yn ochr â'r mesurau eraill yr ydym yn gweithio arnynt.