Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 2 Mawrth 2022.
Ddirprwy Weinidog, fel y gwyddoch, un o elfennau allweddol metro de Cymru, a ariennir gan Lywodraeth Lafur Cymru, fydd cyflwyno trenau tram trydan glanach, gwyrddach, ecogyfeillgar ar reilffyrdd craidd y Cymoedd, gan gynnwys rhwng Aberdâr, yn fy etholaeth i, a'r brifddinas. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r effaith y bydd y trenau hyn yn ei chael ar leihau ein hallyriadau carbon?