Part of the debate – Senedd Cymru am 3:23 pm ar 2 Mawrth 2022.
Rwy’n ddiolchgar i chi, Ddirprwy Lywydd, ac rwy’n ddiolchgar am y cyfle i gyflwyno’r cynnig deddfwriaethol hwn. Bydd Aelodau sydd wedi cael cyfle i nodi’r ddeddfwriaeth rwy'n ei chynnig—wel, yr Aelodau craff hynny, yn sicr—yn nodi rhywbeth cyfarwydd am y geiriad. Dyma’r geiriad, wrth gwrs, a dderbyniwyd fel gwelliant yn Nhŷ’r Arglwyddi fis Hydref diwethaf. Pan gyflwynais y cynnig deddfwriaethol hwn fis Hydref diwethaf, gwneuthum hynny gyda'r bwriad o geisio deall beth yw sefyllfa Cymru, beth yw’r fframwaith deddfwriaethol a statudol ar gyfer rheoli gollyngiadau i gyrsiau dŵr yng Nghymru, gan y credaf fod angen inni ddeall hynny'n iawn. Rwy’n falch fod y Gweinidog ei hun yn ymateb i'r ddadl hon, gan y credaf y byddai’n ddefnyddiol iawn inni ddeall y fframwaith statudol sy’n bodoli yng Nghymru. Dylwn ddweud, ers imi gyflwyno hyn, fy mod yn deall bod y pwyllgor newid hinsawdd hefyd wedi manteisio ar y cyfle i edrych ar y pwnc, a chredaf fod pob un ohonom yn edrych ymlaen at ddarllen adroddiad y pwyllgor hwnnw.
Fy mhryder yw bod y fframwaith sy’n bodoli ar hyn o bryd er mwyn rheoleiddio’r rhan hon o’r llyfr statud braidd yn gymhleth. Rwy’n cwestiynu a yw’n addas at y diben, ac edrychaf ymlaen at weld y Gweinidog yn rhoi sicrwydd i ni ei fod. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae’r fframwaith deddfwriaethol presennol wedi’i sefydlu i raddau helaeth gan, yn gyntaf oll, Deddf y Diwydiant Dŵr 1991, ond wedyn, Deddf Dŵr 2003 a Rheoliadau’r Amgylchedd Dŵr (Y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr) (Cymru a Lloegr) 2017, sy’n darparu ar gyfer y mecanwaith sylfaenol ar gyfer asesu a rheoli'r amgylchedd dŵr. Mae’r rheoliadau hyn wedyn yn gosod dyletswydd statudol ar Weinidogion Cymru i atal dirywiad ac i wella pob corff dŵr i statws ‘da’ erbyn 2027. Byddwn yn ddiolchgar am gadarnhad y Gweinidog ei bod wedi ymrwymo i gyflawni’r amcan hwnnw.