Part of the debate – Senedd Cymru am 3:41 pm ar 2 Mawrth 2022.
Dwi jest eisiau cyfrannu i'r ddadl yma fel Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith, jest i roi gwybod i'r Senedd am y gwaith mae'r pwyllgor yn ei wneud yn y maes yma.
Mae amlder gollyngiadau carthion a'u heffaith ar amgylchedd ac iechyd y cyhoedd wrth gwrs yn faes, fel rŷn ni'n clywed, sy'n peri pryder difrifol i'r cyhoedd. Ac mewn ymateb i'r pryder hwn, ac yn sgil datblygiadau sylweddol yn Lloegr, fel y clywon ni amdanyn nhw yn y sylwadau agoriadol, fe benderfynodd y pwyllgor gynnal ymchwiliad byr i orlifoedd stormydd.
Diben yr ymchwiliad oedd deall yn well faint o garthion sy'n cael eu gollwng yng Nghymru, ac edrych ar y camau sy'n cael eu cymryd gan gwmnïau dŵr, gan reoleiddwyr ac, wrth gwrs, Llywodraeth Cymru, i geisio lleihau yr achosion yna. Mae'r pwyllgor wrthi'n cwblhau ein hadroddiad terfynol ar hyn o bryd, ac mi fydd hwnnw'n cael ei gyhoeddi y mis yma, ac er na fyddwn am ragweld canfyddiadau yr adroddiad yna ar y foment yma, mi liciwn i dynnu sylw at rai o'r materion a drafodwyd gennym ni yn ystod ein hymchwiliad.
Nawr, mi ddylai gorlifoedd stormydd weithredu yn anaml ac mewn tywydd eithriadol yn unig. Ond, wrth gwrs, fel rŷn wedi clywed, dyw hynny, yn anffodus, ddim yn wir ar hyn o bryd. Yn lle hynny, rŷn ni'n clywed adroddiadau rheolaidd am ollyngiadau mewn afonydd ledled Cymru, ac mae'r data diweddaraf yn dangos bod carthion wedi'u gollwng i'n hafonydd fwy na 105,000 o weithiau yn 2020 yn unig—105,000 o weithiau mewn un flwyddyn. Ac mae hyn yn awgrymu, wrth gwrs, fod problem sylweddol.
Ond beth sy'n cael ei wneud i fynd i'r afael â'r sefyllfa? Roedd cwmnïau dŵr yn awyddus i dynnu sylw at y ffaith, wrth gwrs, nad gollyngiadau carthion o orlifoedd stormydd yw prif achos llygredd afonydd yng Nghymru. Ac er bod hynny yn wir, wrth gwrs, mae'n rhaid inni beidio â defnyddio hynny fel esgus i beidio ag ymateb yn gryf i'r broblem. Waeth beth fo'u cyfraniad nhw i gyflwr gwael afonydd, mae gollyngiadau carthion, ar hyn o bryd, ar lefel annerbyniol.
Nawr, yn ystod ein hymchwiliad ni, fe glywon ni adroddiadau am welliannau mewn tryloywder ynghylch gorlifoedd stormydd yn ystod y blynyddoedd diwethaf, a hynny ar ôl cyflwyno dull o fonitro hyd digwyddiad ac adrodd blynyddol. Ond, eto, mae lle i wella o hyd. Soniwyd am y drefn reoleiddio a gorfodi bresennol ar gyfer gorlifoedd stormydd, gan gynnwys dull Cyfoeth Naturiol Cymru o ymchwilio i achosion o lygredd carthion. Nawr, mae'n rhaid i Gyfoeth Naturiol Cymru allu ymateb yn brydlon ac yn effeithiol i bob achos o lygru afonydd, waeth beth fo'i ffynhonnell. Ac rŷn ni'n gwybod o brofiad diweddar, yn anffodus, nad yw hynny yn digwydd.
Fe glywon ni fod Llywodraeth Cymru a'i phartneriaid wedi sefydlu tasglu pwrpasol i ystyried y ffordd orau o fynd i'r afael ag effaith gorlifoedd stormydd. Ac mae hwn, wrth gwrs, yn ddatblygiad i'w groesawu'n fawr. Mi fydd y tasglu yn cyhoeddi map ffordd ar gyfer gorlifoedd stormydd yn fuan, ac wedyn mi fydd yna gynllun gweithredu yn dilyn yn ystod y misoedd nesaf.
A fydd y camau hyn yn ddigon i fynd i'r afael â'r broblem? Wel, amser a ddengys, ond mae'r cyhoedd wedi gwneud eu safbwynt nhw yn glir ar hyn, ac maen nhw am weld gwelliant sylweddol ar frys. Ac, fel pwyllgor, mi fyddwn ni'n parhau i adolygu hyn i wneud yn siŵr bod Llywodraeth Cymru, y cwmnïau dŵr a'r rheoleiddwyr i gyd yn cyflawni, nid yn unig i amddiffyn yr amgylchedd, ond hefyd i amddiffyn iechyd cyhoeddus.