Part of the debate – Senedd Cymru am 4:40 pm ar 2 Mawrth 2022.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a dwi'n falch o allu cyflwyno'r cynnig yma yn ffurfiol. Mae o'n rhywbeth sy'n bwysig i gymaint o bobl a theuluoedd ar draws Cymru. Mae o leiaf 60,000 o bobl yng Nghymru yn dioddef o ryw fath o anhwylder bwyta. Mae yna nifer o anhwylderau gwahanol: bwlimia, anorecsia, binge-eating disorder, a sawl math arall—bob un yn golygu heriau dwys a difrifol i'r rheini sy'n dioddef ohonyn nhw. Mae o'n costio bywydau. Anorecsia sydd â'r gyfradd farwolaeth uchaf o unrhyw afiechyd meddwl. Mae anhwylderau'n gallu arwain at bob mathau o gymhlethdodau a salwch corfforol hefyd.
Ond mae posib cynnig triniaeth, ac mae pobl yn gallu gwella ar ôl dioddef anhwylder bwyta. Maen nhw yn gwella, ac mae gallu cynnig y driniaeth gywir a'r gefnogaeth gywir ar yr amser cywir yn hanfodol. Mae oedi triniaeth yn dwysáu dioddefaint yr unigolion a'r rheini sy'n gofalu amdanyn nhw. Mae hefyd yn debyg o arwain at gostau llawer uwch i'r NHS. Felly, unwaith eto, dŷn ni'n sôn am faes lle mae ymyrraeth gynnar a thriniaeth gynnar yn dod ag enillion ar sawl lefel.
Nid cyd-ddigwyddiad ydy ein bod ni wedi dewis heddiw i gynnal y ddadl yma. Mae'n Wythnos Ymwybyddiaeth Anhwylderau Bwyta, a thema'r wythnos ymwybyddiaeth eleni, yn digwydd bod, ydy cynyddu dealltwriaeth o anhwylderau bwyta o fewn hyfforddiant meddygol. Mae cymaint o bobl yn dibynnu ar gyswllt efo meddyg teulu neu efo gofal sylfaenol er mwyn adnabod arwyddion o anhwylder bwyta—dechrau proses o ddiagnosis a thriniaeth. Ond eto, ar gyfartaledd, llai na dwy awr o hyfforddiant mae myfyrwyr meddygol yng Nghymru yn ei gael ar faterion yn ymwneud ag anhwylderau bwyta. Does dim amheuaeth, dwi ddim yn meddwl, fod y gwendid yna o fewn y broses hyfforddi wedi arwain at arafwch mewn mynediad at driniaeth i lawer o unigolion.
Mae'n dda adrodd bod yr elusen Beat yn meddwl eu bod nhw'n ennill tir ar hyn a bod ein dwy ysgol feddygol bresennol ni wedi ymateb yn gadarnhaol i'w cwestiynau nhw am ymestyn y lefel o hyfforddiant yn y dyfodol. A dwi'n siŵr y bydd y drydedd ysgol feddygol lawn ym Mangor hefyd eisiau cefnogi y fenter yma.