Part of the debate – Senedd Cymru am 4:42 pm ar 2 Mawrth 2022.
Yn ôl yng ngwanwyn 2018, comisiynodd Llywodraeth Cymru adolygiad annibynnol o wasanaethau anhwylderau bwyta, fel y'u gelwid bryd hynny, a chanfu’r adolygiad hwnnw, a gyflwynwyd i’r Llywodraeth ar ddiwedd 2018, system wedi’i hanelu at ddarparu gofal i’r rheini a oedd eisoes yn ddifrifol wael yn hytrach nag ymyrraeth gynnar. Canfu amrywiaeth sylweddol yn argaeledd ac ansawdd triniaeth anhwylderau bwyta ledled Cymru; bylchau rhwng gwasanaethau yn hytrach na gofal integredig; yn aml, nid oedd teuluoedd yn cael gwybodaeth, ni chaent eu cefnogi na'u grymuso drwy broses y driniaeth.
Amlinellodd yr adolygiad weledigaeth uchelgeisiol ar gyfer gwasanaeth o'r radd flaenaf a ganolbwyntiai ar atal ac ymyrraeth gynnar, gan nodi a darparu triniaeth o safon cyn i bobl fynd yn ddifrifol wael ym mhob rhan o Gymru. Felly, ble rydym arni bellach? Beth a ddarganfu Beat yn eu hadolygiad dair blynedd yn ddiweddarach? Wel, er y gwnaed rhywfaint o gynnydd ar ehangu a gwella gwasanaethau anhwylderau bwyta dros y cyfnod hwnnw o dair blynedd, byddai Beat yn dadlau ei fod wedi bod yn anwastad, gan barhau â'r anghydraddoldeb a gofnodwyd gan yr adolygiad gwreiddiol o wasanaethau anhwylderau bwyta. Rwyf am sôn wrthych am un fenyw ifanc a welodd ei meddyg teulu yn fy etholaeth, ac roedd y meddyg teulu'n llawn cydymdeimlad a dealltwriaeth ac yn awyddus i helpu, ond dywedodd wrthi, 'Cofrestrwch yn y man lle'r ydych yn y brifysgol', gan nad oedd gan y meddyg teulu unrhyw ffydd yn y tebygolrwydd y byddai ei chlaf ifanc yn gallu cael cymorth yn ei chyfeiriad cartref. Ac mae hynny’n gwbl annerbyniol.
Galwodd yr adolygiad o wasanaethau anhwylderau bwyta am i driniaeth fod yn hygyrch yn gynnar, gan ddileu'r meini prawf cymhwysedd neu atgyfeirio. Mewn rhai ardaloedd, roedd timau arbenigol newydd wedi’u sefydlu yng ngwasanaethau iechyd meddwl plant a’r glasoed, roedd rhai byrddau iechyd wedi datblygu neu ehangu gwasanaethau anhwylderau bwyta cymunedol i oedolion. Ond mewn rhai ardaloedd, mae mynediad at driniaeth arbenigol yn dal i fod yn gyfyngedig i'r rheini sydd eisoes yn ddifrifol wael ac nid yw ar gael i bobl â mathau penodol o anhwylderau bwyta, megis anhwylder gorfwyta mewn pyliau.
Felly, mae ein cynnig heddiw yn galw’n benodol am roi diwedd ar yr amrywio yn y modd y darperir gwasanaethau, loteri cod post arall sy’n rhoi dioddefwyr mewn rhai rhannau penodol o Gymru o dan anfantais. Mae gwelliant Llywodraeth Cymru yn dileu hynny, ac yn hytrach, yn nodi ymrwymiad cyffredinol i barhau â’r gwelliannau i wasanaethau anhwylderau bwyta ledled Cymru, ac nid wyf wedi gwadu y gwnaed gwelliannau.
Mae cyfeiriad yng ngwelliant y Llywodraeth at yr angen am ragor o fuddsoddiad. Unwaith eto, mae ein cynnig yn galw am hynny hefyd, ond lle mae gwelliant y Llywodraeth yn amwys, mae’r cynnig yn galw am gamau gweithredu penodol i sicrhau bod cynnydd mewn cyllid iechyd meddwl yn digwydd flwyddyn ar ôl blwyddyn mewn ymgyrch bum mlynedd, fel rydym yn ei disgrifio, i gynyddu’r adnoddau sydd ar gael i drin anhwylderau bwyta ymhlith materion iechyd meddwl eraill.
Rydym yn galw am wneud mwy i ddwyn byrddau iechyd i gyfrif am eu buddsoddiadau mewn anhwylderau bwyta, ond yn hollbwysig, rydym yn mynd ymhellach, rydym yn galw am gyhoeddi fframwaith newydd ar gyfer gwasanaethau anhwylderau bwyta, gan gynnwys amserlenni a thargedau, a byddwn yn cefnogi gwelliant y Ceidwadwyr, sy’n mynd i’r afael â mater amserlenni ac adrodd amserol hefyd. Mae arnom angen cynllun clir, map clir tuag at ddarparu’r ymyrraeth gynnar honno y dywedais ei bod mor bwysig.
Ceir bylchau sylweddol yn y data y mae byrddau iechyd yn ei ddarparu ar amseroedd aros ar hyn o bryd. Nid yw'n ymddangos bod system safonol ar waith ledled Cymru i fesur ac adrodd yn gyson ar yr amser aros llawn rhwng yr atgyfeirio cychwynnol, os bydd atgyfeirio'n digwydd yn ddigon cynnar o gwbl, a dechrau triniaeth arbenigol.
Mae angen inni flaenoriaethu atal hefyd. Mae angen canolbwyntio ar fuddsoddi yn y gweithlu. Ac ar ofal integredig, esboniodd yr adolygiad o wasanaethau anhwylderau bwyta fod angen dull integredig gyda chyfathrebu a chydweithio da rhwng gwasanaethau er mwyn darparu ymyrraeth gynnar a thriniaeth ar sail tystiolaeth. Yn arolwg Beat o weithwyr proffesiynol a gwirfoddolwyr ym maes iechyd a gofal, nodwyd bod diffyg gweithio integredig neu gydweithredol gyda gwasanaethau iechyd neu ofal cymdeithasol eraill a diffyg cydweithredu integredig ag ysgolion, colegau a phrifysgolion yn aml yn cyfyngu ar allu eu timau a’u gwasanaethau i ateb y galw presennol am driniaeth anhwylderau bwyta. Mae cymaint o ffordd i fynd.