Part of the debate – Senedd Cymru am 4:49 pm ar 2 Mawrth 2022.
Rwy'n cynnig gwelliant 2. Diolch, Lywydd, ac rwy'n cynnig y gwelliant yn enw fy nghyd-Aelod, Darren Millar. Hoffwn ddiolch i Blaid Cymru a Rhun am gyflwyno’r ddadl bwysig hon heddiw ar anhwylderau bwyta. Mae hwn yn fater sy’n effeithio ar gynifer o bobl ar draws ein cymdeithas. Nid yw'n gwahaniaethu, a gall effeithio ar unrhyw un. Mae’r wythnos hon yn Wythnos Ymwybyddiaeth Anhwylderau Bwyta, ac mae’n iawn ein bod yn tynnu sylw at y broblem hon ac yn gwneud popeth a allwn i helpu’r rheini y mae anhwylder bwyta'n effeithio arnynt. Hoffwn dalu teyrnged i fy nghyd-Aelod, Mark Isherwood, a fydd yn siarad yn nes ymlaen yn y ddadl hon, a’r gwaith y mae wedi’i wneud yn tynnu sylw at bwysigrwydd y pwnc hwn.
Mae anhwylderau bwyta'n salwch meddwl difrifol, a gallant arwain at ganlyniadau dinistriol i'r rheini yr effeithir arnynt. Maent yn effeithio ar yr unigolyn, ond maent yn cael effaith ehangach ar deuluoedd, gwasanaethau iechyd a’r gymdeithas ehangach hefyd. Mae gan oddeutu 1.25 miliwn o bobl yn y DU anhwylder bwyta, a gallwn ni yn y lle hwn wneud yr hyn a allwn heddiw i’w cefnogi. Fel y dywedodd Rhun, mae sawl math o anhwylder bwyta, gan gynnwys gorfwyta mewn pyliau, bwlimia, anorecsia ac eraill. Mae anhwylderau bwyta'n lladd, anorecsia sydd â’r gyfradd farwolaethau uchaf o unrhyw salwch meddwl, ac mae un o bob chwech o bobl ag anhwylder bwyta mewn pyliau yn ceisio lladd eu hunain. Mae pobl sy'n dioddef ag anhwylderau bwyta, yn amlach na pheidio, yn datblygu problemau iechyd corfforol difrifol fel clefyd y galon, osteoporosis, ac mae ansawdd eu bywyd yn waeth yn gyffredinol. Fodd bynnag, mae triniaeth a gwellhad yn bosibl, a gall mynediad cynnar at y gofal a’r cymorth cywir newid bywyd rhywun. Ymyrraeth gynnar sy'n rhoi'r cyfle gorau i'r unigolyn ddechrau ar y llwybr tuag at wellhad. Mae unrhyw oedi cyn derbyn triniaeth a chefnogaeth yn ymestyn y dioddefaint i unigolion, eu ffrindiau a'u teuluoedd. Mae hefyd yn cynyddu costau hirdymor y GIG. Fel y dywedais, mae atal ac ymyrraeth gynnar yn well na gwella unrhyw broblem wedi iddi droi'n argyfwng. Rwyf wedi sefydlu fy ngweithgor iechyd meddwl fy hun ers imi fod yma, ac rwy’n clywed yn uniongyrchol gan bobl ifanc ledled Cymru faint o bobl iau sy’n dioddef ag anhwylderau bwyta, a bod llawer mwy o ddylanwadau allanol yn effeithio’n negyddol ar eu cyflwr meddwl nag y mae llawer o wleidyddion yn y Siambr hon yn ei feddwl.
COVID-19—mae hynny wedi cael effaith enfawr ar bobl yr effeithir arnynt gan anhwylderau bwyta. Nododd arolwg prifysgol o bobl ag anhwylderau bwyta a gynhaliwyd yn 2020 fod naw o bob 10 o ymatebwyr wedi dweud bod eu symptomau wedi gwaethygu o ganlyniad i’r pandemig, a bod gwasanaethau cymorth, y gwaith gwych y mae Beat yn ei wneud, wedi gweld cynnydd o 300 y cant yn nifer y bobl sy'n gofyn am gymorth. Felly, mae'n rhaid inni roi mwy o gymorth i'r gwasanaethau hynny er mwyn helpu pobl sydd angen gofal.
Felly, beth sydd angen ei newid, a beth y gallwn ei wneud yma i helpu'r rheini yr effeithir arnynt? Yn y grŵp Ceidwadol, rydym yn cytuno â’r cynnig hwn a gynigiwyd gan Blaid Cymru, ac edrychwn ymlaen at gefnogi eich cynnig gyda’n gwelliant yn nes ymlaen, gan fod angen inni sefydlu targedau, cyhoeddi ystadegau misol ar amseroedd aros am driniaeth iechyd meddwl, gan gynnwys anhwylderau bwyta, ac mae angen inni ddarparu gofal arbenigol yng nghymunedau pobl a pheidio â gwneud i bobl deithio dros y ffin i gael yr help a’r cymorth sydd ei angen arnynt, gan golli eu teulu, eu ffrindiau a’u rhwydweithiau cymorth.
Lywydd, ni chredaf fod gwelliant Llywodraeth Cymru yn ddigon da, ac mae’n drueni eu bod wedi ceisio glastwreiddio'r ddadl hon. Credaf fod y cynnig a gyflwynwyd gan Blaid Cymru yn gynnig da iawn, ac mae’n drueni fod y Llywodraeth wedi gwneud hyn unwaith eto. Ond y tu hwnt i’r cynnig hwn, rwy'n gobeithio y gall y Gweinidog, wrth ymateb i’r ddadl hon, amlinellu’r hyn y mae’r Llywodraeth yn ei wneud i wella hyfforddiant meddygol ar anhwylderau bwyta, i sicrhau bod ein meddygon teulu a'n gweithwyr meddygol proffesiynol yn gwybod sut i nodi a thrin anhwylderau bwyta, a pha waith ehangach y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud ar ymchwil i ddeall mwy am anhwylderau bwyta a'r hyn sy’n eu hachosi.
Heddiw, Aelodau, mae gennym gyfle i sefyll gyda’r rheini sy’n dioddef o anhwylderau bwyta, i ddweud, 'Rydym yn eich cefnogi, ac fe wnawn bopeth a allwn i sicrhau eich bod yn cael gofal o’r ansawdd yr ydych yn ei haeddu.’ Rwy’n annog pob Aelod i gefnogi’r cynnig yn ddiweddarach heno. Diolch, Lywydd.