7. Dadl Plaid Cymru: Anhwylderau bwyta

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:53 pm ar 2 Mawrth 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Heledd Fychan Heledd Fychan Plaid Cymru 4:53, 2 Mawrth 2022

(Cyfieithwyd)

Rwy’n ddiolchgar i Rhun am agor y ddadl heddiw ac am amlinellu pam ein bod ni fel grŵp yn awyddus i gyflwyno’r cynnig pwysig hwn heddiw. Ac fel y crybwyllwyd eisoes, mae'n amserol ein bod yn gallu gwneud hynny yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Anhwylderau Bwyta, sydd unwaith eto yn rhoi sylw i fater sy'n effeithio ar gynifer o bobl. Hoffwn gofnodi hefyd fy ngwerthfawrogiad o waith Beat, sy’n gweithio’n ddiflino i godi ymwybyddiaeth, yn ogystal â darparu cymorth uniongyrchol i’r rheini sy’n dioddef.

Fel yr amlinellwyd eisoes, mae nifer o ffactorau wedi effeithio ar gynnydd ers yr adolygiad, gan amrywio o fuddsoddiad cyfyngedig ac anwastad mewn gwasanaethau anhwylderau bwyta, heriau'r gweithlu, yn ogystal, wrth gwrs, ag effaith COVID-19. Felly, y cwestiwn heddiw yw: sut y gallwn wneud cynnydd o'r diwedd ar y materion hyn? Yn 2009, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru 'Fframwaith Anhwylderau Bwyta Cymru', a helpodd i lywio'r gwaith o ddatblygu gwasanaethau yn y blynyddoedd canlynol. Roedd cylch gorchwyl yr adolygiad gwasanaeth yn cyfeirio at gyhoeddi fframwaith newydd yn 2019, a hyd yn hyn, dim ond blaenoriaethau lefel uchel cychwynnol ar gyfer gwasanaethau anhwylderau bwyta y mae Llywodraeth Cymru wedi’u nodi. Mae strategaeth ‘Law yn Llaw at Iechyd Meddwl’ Llywodraeth Cymru ar gyfer 2019-2022 yn ei hymrwymo i weithio gyda defnyddwyr gwasanaethau, gofalwyr a byrddau iechyd i ddatblygu model gwasanaeth newydd mewn ymateb i’r adolygiad annibynnol diweddar.

Mae angen i Lywodraeth Cymru gyhoeddi fframwaith neu fodel newydd ar gyfer gwasanaethau anhwylderau bwyta sy’n cynnwys amserlenni ar gyfer cyflawni pob carreg filltir, a ddylai ganolbwyntio ar atal ac ymyrraeth gynnar, gofal integredig, cymorth i deuluoedd a gofalwyr eraill a buddsoddiad yn y gweithlu, gan gynnwys cymorth ar gyfer lles staff. Byddai cyhoeddi fframwaith neu fodel o’r fath yn dangos ymrwymiad o’r newydd gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod yr adolygiad o wasanaethau anhwylderau bwyta yn llywio gwasanaethau’r dyfodol yng Nghymru. Byddai mabwysiadu gweledigaeth uchelgeisiol, hirdymor ar gyfer gwasanaethau anhwylderau bwyta hefyd yn debygol iawn o chwarae rhan allweddol wrth recriwtio staff, yn ogystal â chadw staff, sy'n hollbwysig.

Er mwyn sicrhau bod gweithredu fframwaith neu fodel gwasanaeth newydd yn gyraeddadwy, mae angen newidiadau i sicrhau buddsoddiad digonol a theg mewn gwasanaethau anhwylderau bwyta ledled Cymru. Dywedodd clinigydd gwasanaethau iechyd meddwl cymunedol plant a’r glasoed wrth Beat, os yw Llywodraeth Cymru yn dymuno gweld y datblygiad hwn, fod angen iddynt fod yn glir ac yn gyfarwyddiadol iawn gyda'r byrddau iechyd.

Dylai Llywodraeth Cymru bennu isafswm gwariant ar anhwylderau bwyta o’r cyllid gwella gwasanaethau y mae’n ei ddyrannu i fyrddau iechyd, a dwyn byrddau iechyd i gyfrif mewn perthynas â'u buddsoddiad mewn anhwylderau bwyta.

Fel a nodwyd, gan gynnwys ddoe yn y Siambr, gwyddom fod 78 y cant o gleifion a atgyfeirir at wasanaethau iechyd meddwl arbenigol plant a’r glasoed yn aros am dros bedair wythnos am eu hapwyntiad cyntaf, ac mae amseroedd aros am wasanaethau iechyd meddwl pobl ifanc yn waeth nag a gofnodwyd erioed erbyn hyn. Pobl ifanc yr ystyrir eu bod angen triniaeth frys, arbenigol yw'r rhain, ond cânt eu gorfodi i aros dros fis i gael eu gweld hyd yn oed. Mae'n rhaid inni gael darpariaeth gadarn ar waith fel y gall cleifion gael y driniaeth orau bosibl cyn gynted â phosibl, cyn i’w sefyllfa waethygu.

Mae’r arweinydd clinigol cenedlaethol ar gyfer anhwylderau bwyta wedi darparu cymorth gwerthfawr i fyrddau iechyd, gwasanaethau a chlinigwyr ledled Cymru. Mae maint yr heriau sy'n wynebu gwasanaethau a'r amrywio parhaus yn y gwasanaethau a ddarperir ledled Cymru yn tanlinellu pwysigrwydd adnodd canolog i helpu i lywio gwelliannau. Dylai Llywodraeth Cymru wneud swydd arweinydd clinigol cenedlaethol ar gyfer anhwylderau bwyta yn swydd barhaol. Ac yn 2021, ymgynghorodd yr arweinydd clinigol cenedlaethol yn aml â phobl â phrofiad bywyd o anhwylderau bwyta i helpu i lywio ei gwaith a gwaith y byrddau iechyd. Mae'n rhaid adeiladu ar hyn yn awr i sicrhau bod lleisiau cleifion a theuluoedd yn cael eu clywed bob amser wrth ddatblygu gwasanaethau, ar lefel genedlaethol a lleol.

Canfu Beat fod bylchau sylweddol yn y data sy'n cael ei goladu gan fyrddau iechyd ar anhwylderau bwyta. Os bydd hyn yn parhau, bydd yn cyfyngu ar y gallu i fonitro cynnydd a sicrhau atebolrwydd. Disgwylir i archwiliad anhwylderau bwyta gael ei gomisiynu yn 2022, ac ar hyn o bryd, dim ond Lloegr sydd i'w gynnwys yn yr archwiliad hwn, ond gellid ei ymestyn i gynnwys Cymru hefyd.

Dylai Llywodraeth Cymru ariannu archwiliad clinigol o anhwylderau bwyta fel rhan o ymdrechion i sicrhau bod pob bwrdd iechyd yn casglu ac yn adrodd ar set ddata safonol a chynhwysfawr o ansawdd uchel. Rwy'n gobeithio y gallwn weithio’n drawsbleidiol i gyflawni’r cynnig hwn heddiw. Diolch.