Part of the debate – Senedd Cymru am 5:07 pm ar 2 Mawrth 2022.
Mae cysylltiad clir rhwng anhwylderau bwyta a'r cyfryngau cymdeithasol a'r cyfryngau ehangach. Yn aml, gall apiau sy'n newid ymddangosiad siâp a maint corff arwain at waethygu anhwylderau bwyta, drwy annog a normaleiddio syniad afrealistig o'r hyn sy'n dderbyniol o ran ymddangosiad corfforol. Mae pwysau ar ddylanwadwyr cyfryngau cymdeithasol i olygu eu postiau, ac mae algorithmau'n gwobrwyo'r rhai sydd â chynnwys cyfryngau cymdeithasol sy'n denu sylw drwy gyfrwng delweddau o berffeithrwydd honedig, delweddau sydd yn bwydo diwylliant sy'n gwrthod amrywiaeth a realiti. Mae hyn yn arwain pobl ifanc yn enwedig at ddod i'r casgliad dealladwy bod yn rhaid iddynt ail-greu'r delweddau ffug yma o berffeithrwydd maen nhw'n gweld ar eu cyfrifon.
Rhaid inni felly gwneud mwy i ddathlu amrywiaeth a herio'r diwylliant gwrthdroëdig a'i negeseuon peryglus sy'n medru cael eu trosglwyddo i ddefnyddwyr cyfryngau cymdeithasol drwy'r delweddau hyn. Rwy'n gobeithio y bydd y cwricwlwm newydd yn rhoi lle digonol ar gyfer sicrhau bod gan bobl ifanc ddealltwriaeth o sut mae delweddau ystrydebol o gyrff perffaith wedi datblygu ac yn cael eu hannog gan y cyfryngau cymdeithasol, ac, o ddeall, yn cael yr hyder i herio a'r gallu i osgoi y niwed a ddaw yn sgil hyn. Yn ogystal, mae angen gweld y Llywodraeth yn gweithio gyda chwmnïau cyfryngau cymdeithasol i leihau effaith y llwyfannau hyn ar bobl Cymru o ran sbarduno a dwysáu anhwylderau bwyta.
Ystyriwyd anhwylderau bwyta ers tro, yn hanesyddol, yn salwch i fenywod—agwedd rhagfarnllyd sy'n gallu arwain at ddiffygion o ran triniaeth, yn ogystal â diagnosis, gan y gellir anwybyddu neu gamddehongli symptomau a allai fod yn gysylltiedig ag anhwylderau bwyta mewn dynion neu bobl LHDTC+. Yn wir, mae un astudiaeth wedi canfod bod rhyw 40 y cant o ddynion sy'n dioddef o anhwylder bwyta yn derbyn camddiagnosis, a bod y rhan fwyaf o'u symptomau yn cael eu cambriodoli i orbryder. Mae ymchwil hefyd yn dangos bod unigolion o wahanol hunaniaethau rhywedd yn profi effaith eu anhwylderau bwyta mewn modd gwahanol.
Mae hyn i gyd eto'n arddangos yr angen am fframwaith newydd sy'n ystyried y daith unigol mae bob person ag anhwylder bwyta yn ei chymryd, a bod angen cyllid, ymchwil ac atebolrwydd i atal achos ac effeithiau'r anhwylderau dinistriol ac arteithiol hyn—anhwylderau y gellir eu hatal. Diolch.