Part of the debate – Senedd Cymru am 5:04 pm ar 2 Mawrth 2022.
Gwyddom fwy amdano, ond mae gennym ffordd bell iawn i fynd o hyd, ac mae mwy a mwy, fel y clywsom, o amrywiadau a mathau o anhwylder bwyta yn dod i'r amlwg bob dydd. O ystyried yr ystadegau a glywsom y prynhawn yma, gwyddom mai anorecsia sydd â'r gyfradd farwolaethau uchaf ar gyfer unrhyw salwch meddwl, mae gan 60,000 o bobl yng Nghymru anhwylder bwyta, ac ychydig iawn a wyddom o hyd, am y maes afiechyd hwn. Ac mae angen datblygiadau mawr yn ein dealltwriaeth o'r hyn sy'n achosi anhwylderau bwyta yn y lle cyntaf, sut i'w hatal rhag datblygu a'r ffordd orau o'u trin.
Drwy ymchwil, rydym wedi dod i ddysgu am y gwahanol anhwylderau bwyta hyn, y ffordd y maent yn dechrau ac yn datblygu. Mae ymwybyddiaeth o orthorecsia, er enghraifft, sy'n obsesiwn afiach gyda bwyta bwyd pur, yn tyfu ac yn datblygu. Ond heb gyllid ymchwil, bydd anhwylderau bwyta yn parhau i fod yn broblem iechyd cyhoeddus sylweddol, gan ddinistrio bywydau, fel y clywsom, ac arwain, wrth gwrs, at gostau uchel i'r GIG. Mae ymchwil i anhwylderau bwyta nid yn unig yn angenrheidiol ond mae'n fuddsoddiad doeth, oherwydd yn aml collir cyfleoedd i ymyrryd yn gynnar, fel y clywsom, gan olygu nad yw triniaethau bob amser yn effeithiol nac yn cael eu teilwra'n briodol ac o ganlyniad, derbynnir llawer o gleifion am driniaeth ddrud mewn ysbyty, gan gynnwys mewn unedau arbenigol yn Lloegr mewn rhai achosion, sy'n effeithio ar yr unigolyn, wrth gwrs, yn ogystal â'r gwasanaethau eu hunain.
Yn 2020-21, cynhaliodd y grŵp seneddol hollbleidiol ar anhwylderau bwyta ymchwiliad i gyllid ymchwil ledled y DU, gan gynnwys Cymru, a chanfu'r ymchwiliad, er gwaethaf nifer yr achosion a difrifoldeb anhwylderau bwyta, mai ychydig iawn o gyllid a roddir tuag at ymchwil yn y maes. Cyfanswm buddsoddiad y DU o gyllid grant oedd £1.13 y pen y flwyddyn i'r rhai yr effeithiwyd arnynt rhwng 2009 a 2019. A rhwng 2015 a 2019, dim ond 1 y cant o gyllid ymchwil iechyd meddwl y DU, a oedd eisoes yn gyfyngedig iawn, a aeth tuag at ymchwil ar anhwylderau bwyta. Mae hyn er bod pobl ag anhwylderau bwyta oddeutu 9 y cant o gyfanswm nifer y bobl sydd â chyflwr iechyd meddwl yn y DU.
Canfu'r ymchwiliad hefyd fod diffyg buddsoddiad hanesyddol wedi arwain at gylch dieflig. Prin yw'r ymchwilwyr a'r canolfannau ymchwil sy'n edrych yn weithredol ar hyn, ac felly ychydig iawn o ymchwil a gyhoeddwyd. Ac mae hyn wedi helpu i stigmateiddio agweddau, sy'n atgyfnerthu capasiti bach y maes a'i ddiffyg cyllid. Dylai targed ariannu ar gyfer maes ymchwil anhwylderau bwyta y DU fod yn seiliedig, fan lleiaf, ar gydraddoldeb o fewn ymchwil iechyd meddwl, a dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda phartneriaid o fewn a thu hwnt i'n ffiniau i helpu i wireddu'r nod hwn.