Part of the debate – Senedd Cymru am 5:48 pm ar 8 Mawrth 2022.
Byddai'r ddadl hon yn well o lawer mewn gwirionedd pe bai gennym gynigion amgen, hyd yn oed os mai dim ond ar lefel cyllidebau gweinidogol, gan y Ceidwadwyr a Phlaid Cymru. Rwy'n croesawu'r hyn a ddywedodd Peter Fox am lunio un y flwyddyn nesaf. Gair o gyngor: mae'n rhaid iddi fantoli, ni allwch barhau i ychwanegu arian yn y golofn wariant, gan dynnu arian oddi ar y golofn incwm a galw honno yn gyllideb. Felly, rwy'n siŵr na fydd Peter yn gwneud hynny, ac rwy'n gobeithio y bydd yn codi'r mater gyda'i gyd-Aelodau i egluro iddyn nhw na allwch chi wneud hynny.
Mae dewisiadau amgen i gyllideb Cymru o ran blaenoriaethau. Byddwn i, er enghraifft, yn cynyddu'r gefnogaeth i addysg, hyfforddiant ac arloesi mewn prifysgolion, ac yn lleihau'r gwariant ar ddenu mewnfuddsoddiad. Os gwnewch chi ddarparu'r capasiti ymchwil yn y prifysgolion a darparu gweithlu hynod fedrus, fe ddaw'r buddsoddwyr.
Hefyd, mae buddsoddi mewn addysg blynyddoedd cynnar yn parhau i fod yn un o'r dulliau mwyaf pwerus o fynd i'r afael ag anghydraddoldeb a buddsoddi yng nghenedlaethau ein dyfodol, felly nid oes neb yn cael ei adael ar ôl. Mae llawer gormod o blant yn dechrau'r ysgol feithrin yn dair oed flwyddyn y tu ôl i'r cyfartaledd o ran datblygiad, a dwy flynedd y tu ôl i'r rhai mwyaf datblygedig. Mae honno'n broblem ddifrifol. Sut y byddan nhw'n dal i fyny yn ystod eu hamser mewn addysg gynradd? Rydych chi'n gofyn, mewn rhai achosion, dros saith mlynedd, i wneud iawn am ddwy flynedd. Mae'n hynod bwysig ein bod yn sicrhau nad yw plant yn dechrau ar ei hôl hi.
Os oes rhaid i chi lwgrwobrwyo cwmni i ddod â ffatri gangen yma, nid yw'n dymuno dod. Gallwn i dreulio gweddill fy nghyfraniad yn rhestru cwmnïau a ddaeth, heb ddarparu'r swyddi yn eu prosbectws ac yna gadael. Fe wnaf i grybwyll yr enghraifft fwyaf adnabyddus: LG.
Byddaf yn cefnogi'r gyllideb, ond y cwestiwn allweddol yw: beth fydd yn cael ei gyflawni gan yr incwm a'r gwariant ychwanegol? Rwy'n croesawu'r cyhoeddiad gan Lywodraeth y DU am setliad cyllideb aml-flwyddyn, ac rwy'n falch o weld bod Llywodraeth Cymru wedi manteisio ar y cyfle i gynnal adolygiad o wariant tair blynedd i roi sicrwydd ariannol i sefydliadau, gan ddarparu dyraniadau dros dro ar gyfer 2023-24 a 2024-25. Mae hyn yn rhywbeth yr wyf i, a llawer o rai eraill yn y Siambr hon, wedi bod yn galw amdano ers amser maith. Bob blwyddyn, mae llawer o weithwyr y trydydd sector yn cael hysbysiad diswyddo ar ddiwedd mis Rhagfyr oherwydd ansicrwydd ynghylch cyllid ar ôl 31 Mawrth. Rwy'n gobeithio y bydd y cyllid tair blynedd hwn yn cywiro hynny.
Rwy'n croesawu gor-ymrwymiad gwariant cyfalaf, a ddylai osgoi tanwariant cyfalaf wrth i gynlluniau lithro yn ystod y flwyddyn, ac os nad ydyn nhw, gellir defnyddio'r capasiti benthyca. Rwy'n siŵr y bydd pobl ar draws y Siambr sydd â phrofiad o lywodraeth leol uwch wedi sylwi ar gyn lleied o gymorth y mae derbyniadau cyfalaf yn ei roi i'r gwariant cyfalaf. Mae'n hawdd gwario arian; her y Llywodraeth, ar bob lefel, yw ei wario'n fuddiol ac yn ddoeth.
Rwyf wedi fy siomi nad yw Llywodraeth Cymru wedi defnyddio'r pum E yn Saesneg. Effeithiolrwydd: a oedd y gwariant yn effeithiol yn y flwyddyn flaenorol, ac a wnaeth gyflawni'r hyn oedd ei angen? Effeithlonrwydd: a ddefnyddiwyd adnoddau'n effeithlon y llynedd, ac os na, beth fydd yn cael ei wneud i sicrhau defnydd effeithlon o adnoddau eleni? Cydraddoldeb: a yw gwariant y gyllideb yn deg i bob grŵp? Tegwch: a yw'r gyllideb yn deg i Gymru gyfan, nid mewn blwyddyn yn unig, ond dros nifer o flynyddoedd? Ac, yr amgylchedd: beth yw effaith ddisgwyliedig y gyllideb ar garbon a bioamrywiaeth? Er bod Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol yn ymdrin â'r un olaf, mae angen mynd i'r afael â'r pedwar cyntaf.
Gyda'r ddarpariaeth gyffredinol o brydau ysgol am ddim mewn ysgolion cynradd gwladol—rwy'n pwysleisio ysgolion cynradd 'gwladol'—bydd y defnydd o brydau ysgol am ddim fel dangosydd cyllid addysgol ychwanegol yn diflannu. Beth fydd yn cael ei ddefnyddio yn lle hynny?
Gan droi at effeithlonrwydd, mae angen i'r gwasanaeth iechyd ddod i mewn i'r unfed ganrif ar hugain. Caiff presgripsiynau eu hargraffu, eu llofnodi a'u danfon â llaw. Pam nad oes gennym ni system e-bresgripsiwn? Pam na ellir eu llenwi ar ffurflen ar-lein gyda llofnod ar-lein ac yna eu hanfon at y fferyllwyr perthnasol? Mae peiriannau ffacs yn dal i gael eu defnyddio yn y gwasanaeth iechyd, gan gynnwys mewn practis meddyg teulu y cysylltais ag ef heddiw, a ffoniais y rhif anghywir oherwydd bod y rhif arno yn rhif y peiriant ffacs. Nid wyf i wedi arfer â gweld peiriannau ffacs ar rifau ffôn mwyach. Mae'n rhaid iddyn nhw ddod i'r unfed ganrif ar hugain. Nid wyf i'n credu fy mod i wedi gweld peiriant ffacs yn yr 20 mlynedd diwethaf ac yn sicr ddim ers i mi fod yma. Mewn 11 mlynedd nid wyf i wedi gweld peiriant ffacs yn unman, ond mae'n ymddangos bod y byrddau iechyd yn parhau i'w defnyddio.
Beth mae byrddau iechyd yn ei gynnig fydd yn cynyddu effeithlonrwydd ynni? Wrth i'r byrddau iechyd gael arian ychwanegol, sut y byddan nhw'n gwella cynhyrchiant mewn ysbytai? Sut y bydd yr ysbyty gartref yn cael ei ddatblygu—rhywbeth yr wyf i wedi siarad o'i blaid o'r blaen? Rhagfynegiad yr wyf i'n gobeithio ei fod yn anghywir: bydd y byrddau iechyd yn cael y cynnydd, a bydd y gyfran a roddir i iechyd sylfaenol yn gostwng eto. Mae Llywodraeth Cymru wedi creu sefydliadau mawr, fel Cyfoeth Naturiol Cymru, Betsi Cadwaladr a gwasanaeth ambiwlans Cymru. Pryd y penderfynir nad ydyn nhw'n gweithio a bod angen iddyn nhw rannu yn unedau llai?
Yn olaf, mae angen i ni ddatrys y broblem rheoli gweithredol yn y sector cyhoeddus er mwyn gwella effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd. Mae angen i ni ganolbwyntio ar ganlyniadau. Mae'r arian yr ydym yn ei wario yn arian cyhoeddus sydd wedi ei dalu mewn trethi ar wahanol lefelau gan bobl. Mae gennym ni ddyletswydd iddyn nhw i'w wario'n ddoeth ac yn deg, ac mae gennym ni ddyletswydd iddyn nhw i osgoi bod yn wastraffus mewn unrhyw beth a wnawn. Felly, byddaf yn cefnogi'r gyllideb hon, a gobeithio y caiff ei phasio.